Paratowyd yn unol â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol.
Adolygwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ar 28 Mehefin 2022.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro neu BGC (“y Bwrdd”) yn fwrdd statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diben y Bwrdd yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro.
Wrth fynd ar drywydd y diben hwn bydd y Bwrdd yn cyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol. Sef:
Wrth gynnal ei fusnes bydd y Bwrdd yn gweithredu yn unol â'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy', hynny yw, gweithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau a gweithio mewn ffyrdd sy’n ystyried y canlynol:
Mae gan y Bwrdd bedair prif swyddogaeth:
Aelodau statudol y Bwrdd yw:
Gellir penodi cynrychiolydd enwebedig i ddirprwyo ar ran unrhyw un o'r unigolion a enwir uchod. Dim ond aelod arall o Gabinet y Cyngor y gall Arweinydd y Cyngor ei ddynodi.
Rhaid bod gan unrhyw gynrychiolydd dynodedig yr awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran ei sefydliad.
Rhaid i'r Bwrdd wahodd gwahoddedigion statudol penodedig i gymryd rhan yng ngweithgarwch y Bwrdd. Sef:
Gall y Bwrdd wahodd unrhyw gyrff / unigolion eraill sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus i gymryd rhan yng ngweithgarwch y Bwrdd. Y gwahoddedigion anstatudol presennol yw:
Nid yw'n ofynnol i gyfranogwyr a wahoddir dderbyn y gwahoddiad. Fodd bynnag, unwaith y derbynnir gwahoddiad, disgwylir i gyfranogwyr gwadd gymryd rhan lawn yng ngweithgareddau’r Bwrdd a gweithio ar y cyd â’r Bwrdd er mwyn cyflawni ei ddyletswydd Llesiant, gan gynnwys cyflawni’r swyddogaethau a nodir ym mhwynt 5 uchod.
12. Bydd y Bwrdd hefyd yn ymgysylltu fel y bo’n briodol â phartneriaid allweddol eraill sydd â diddordeb perthnasol yn llesiant yr ardal, neu sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus pwysig, wrth baratoi, gweithredu a chyflawni gwaith y Bwrdd. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
Gall y Bwrdd fynnu bod cyfranogwyr gwadd a phartneriaid eraill yn darparu gwybodaeth am unrhyw gamau y maent yn eu cymryd a allai gyfrannu at gyflawni’r nodau Llesiant. Fodd bynnag, nid oes angen iddynt ddarparu gwybodaeth os:
Os bydd cyfranogwr neu bartner yn penderfynu peidio â darparu gwybodaeth y mae’r Bwrdd wedi gofyn amdani, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig i’r Bwrdd dros ei benderfyniad.
Tair blynedd yw cyfnod swydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ac am uchafswm o ddau gyfnod.
Rhaid i’r Bwrdd gynnal cyfarfod, wedi'i gadeirio gan Gyngor Sir Penfro, ddim hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad sefydlu’r Bwrdd. Rhaid i’r Bwrdd hefyd gynnal “cyfarfod gorfodol” dim hwyrach na 60 diwrnod ar ôl pob etholiad cyffredin dilynol o gynghorwyr, sef etholiad cyffredin lle mae pob sedd ar gyngor i’w hethol neu i’w hailethol. Mewn cyfarfod gorfodol rhaid i’r Bwrdd wneud y canlynol:
Bydd o leiaf bum cyfarfod o'r Bwrdd bob blwyddyn galendr, ar amser ac mewn lleoliad y cytunwyd arnynt. Bydd yr agenda a'r gwahoddiad ar gyfer pob cyfarfod yn nodi a fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb neu'n rhithiol. Gellir cynnal cyfarfodydd eraill fel y bo'n briodol.
Bydd y protocol ar gyfer cyfarfodydd fel a ganlyn:
Bydd dyddiadau cyfarfodydd y flwyddyn ganlynol yn cael eu dosbarthu ym mis Awst. Gofynnir i aelodau statudol ac anstatudol y Bwrdd flaenoriaethu cyfarfodydd BGC ac i nodi'r dyddiad yn eu dyddiaduron cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau cysondeb o ran cynrychiolaeth a phresenoldeb.
Cworwm cyfarfod Bwrdd yw pob un o’i bedwar aelod statudol (neu gynrychiolydd dynodedig gyda’r awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran ei sefydliad – gweler pwyntiau 7 ac 8 uchod).
Bydd penderfyniadau’r Bwrdd (er enghraifft cytuno ar yr Asesiad Llesiant a’r Cynllun Llesiant) ond yn ddilys pan gânt eu gwneud ar y cyd gan y Bwrdd a phan fydd yr holl aelodau statudol yn bresennol.
Os bydd pleidlais yn cael ei chynnal bydd y Bwrdd yn gweithredu ar yr egwyddor o un bleidlais i bob sefydliad / asiantaeth beth bynnag yw nifer y cynrychiolwyr o'r sefydliad / asiantaeth sy'n bresennol mewn cyfarfod.
Os bydd anghytundeb rhwng aelodau, cyfrifoldeb y Cadeirydd yw cyfryngu er mwyn dod i benderfyniad a chyflwyno'r penderfyniad i gyfarfod nesaf y Bwrdd sydd neu i gyfarfod arbennig os oes angen.
Mae'n ofynnol i Aelodau'r Bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau a dylent fod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau eu sefydliad eu hunain ynghylch materion megis chwythu'r chwiban.
Bydd y Bwrdd yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ddim hwyrach na 14 mis ar ôl cyhoeddi ei Gynllun Llesiant cyntaf. Wedi hynny, bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi dim hwyrach na blwyddyn ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blaenorol.
Rhaid anfon copi o’r adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phanel Partneriaethau Cyngor Sir Penfro (gweler pwynt 26).
Er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd, rhaid i’r awdurdod lleol ddynodi un o’i bwyllgorau trosolwg a chraffu i fod yn gyfrifol am graffu ar effeithiolrwydd y Bwrdd a’i waith. Mae'r awdurdod lleol wedi sefydlu Panel Partneriaethau i'r diben hwn, sy'n banel sefydlog o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.
Gall y pwyllgor craffu dynodedig a/neu’r panel fynnu bod unrhyw aelod o’r Bwrdd yn mynychu un o’i gyfarfodydd i roi tystiolaeth ond dim ond mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau ar y cyd a roddwyd iddo fel aelod o’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw unigolyn neu gorff sydd wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yng ngweithgarwch y Bwrdd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid weithio mewn dull gwahanol ac mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i newid ymddygiad a gweithredu ffyrdd gwahanol o weithio i’r hyn a oedd yn bodoli o dan drefniadau partneriaeth blaenorol. Mae’r Bwrdd yn cydnabod nad oes un model sy’n addas i bawb ac y bydd dull gweithredu cymysg, a fydd yn caniatáu i’r Bwrdd fod yn ystwyth ac i fedru bod yn hyblyg ynglŷn â defnyddio gwahanol ddulliau neu fecanweithiau, yn cynnig dull mwy dynamig o gyflawni ei amcanion.
Mae cyfarfodydd y Bwrdd yn agored i aelodau'r cyhoedd i'w harsylwi ac i ofyn cwestiynau ar unrhyw eitem o sylwedd ar yr agenda gyda chaniatâd y Cadeirydd ymlaen llaw.
Bydd y Bwrdd yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed ac yn cyfrannu tuag at lunio’r Asesiad Llesiant a’r Cynllun Llesiant. Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl a chymunedau yn ei ardal, gan gynnwys plant a phobl ifanc, siaradwyr Cymraeg, a’r rhai â nodweddion gwarchodedig, ym mhob agwedd ar ei waith.
Bydd y Bwrdd yn cysylltu â’r cynghorau tref a chymuned hynny sy’n destun y ddyletswydd llesiant wrth osod amcanion yn ei Gynllun Llesiant.
Bydd copi o’r Asesiad Llesiant, y Cynllun Llesiant a’r adroddiad blynyddol yn cael eu hanfon at Weinidogion Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor craffu perthnasol yr awdurdod lleol.
Darperir cefnogaeth weinyddol ac ysgrifenyddol i'r Bwrdd gan Gyngor Sir Penfro. Bydd y gefnogaeth hon yn cynnwys y canlynol:
Rhaid i'r Bwrdd adolygu ei gylch gorchwyl mewn cyfarfod gorfodol. Gall y Bwrdd hefyd adolygu a chytuno i ddiwygio ei gylch gorchwyl ar unrhyw adeg cyn belled â bod yr holl aelodau statudol yn cytuno.