Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Cynllun Lles

Cynllun Llesiant Sir Benfro

Un o brif swyddogaethau statudol y BGC, dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yw cynhyrchu Cynllun Llesiant. Mae’r Cynllun Llesiant yn nodi sut y bydd y BGC yn gweithio ar y cyd i wella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro, yn awr ac yn y dyfodol.

Y Cynllun Llesiant yn cynrychioli’r gwerth ychwanegol y gellir ei ddarparu trwy weithio mewn modd arloesol ar y cyd fel partneriaid. Nid yw’n disodli gwasanaethau craidd y sefydliadau unigol, ac nid adlewyrchu’r gwaith da a wneir eisoes gan bartneriaid unigol yw ei bwrpas.

Dyma ail Gynllun Sir Benfro ac mae’n amlinellu sut bydd partneriaid sector cyhoeddus a sector preifat yn cydweithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn Sir Benfro trwy weithio ar y cyd dros dri maes prosiect penodol:

  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldebau
  • Cryfhau cymunedau
  • Mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur

Sefydlwyd grwpiau prosiect i gyflawni gweithgareddau ym mhob un o’r tri maes a byddant yn adrodd ar gynnydd i gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn rheolaidd. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymrwymo i roi ymgysylltu yn ganolog i gyflawni’r Cynllun a chynnwys pobl mewn meysydd gwaith sy’n effeithio arnyn nhw.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ynghylch y Cynllun Lles neu waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cysylltwch â:

Nick Evans

Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

Ffôn: 01437 775858

E-bost: nicholas.evans@pembrokeshire.gov.uk

 

 

ID: 2604, adolygwyd 04/05/2023