Mae’n bleser gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro, ar y cyd â’r Western Telegraph, gyhoeddi gwobr Balchder yn Sir Benfro, sef menter newydd sy’n cydnabod ac yn dathlu gwaith unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau i wella lles pobl a chymunedau yn Sir Benfro.
Mae’r BGC yn bartneriaeth o sefydliadau allweddol sy’n cydweithio i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau sy’n gwella lles pobl a chymunedau ar draws y Sir. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Porthladd Aberdaugleddau, Coleg Sir Benfro, PLANED, Y Ganolfan Byd Gwaith, Gwasanaeth Prawf Cymru a Llywodraeth Cymru.
Bob mis, bydd gwobr Balchder yn Sir Benfro’n cael ei chyflwyno i grŵp gwirfoddol y mae eu gwaith wedi gwneud gwir wahaniaeth i bobl a chymunedau lleol. Bydd yr enillwyr yn cael £200 a bydd eu gwaith yn cael sylw yn y Western Telegraph.
Gallwch wneud cais i gael eich ystyried am wobr Balchder yn Sir Benfro unrhyw bryd. Mae angen i chi ddweud wrthym sut mae’ch gwaith yn gwneud cyfraniad amlwg i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac/neu amgylcheddol eich cymuned. Dylech bwysleisio hefyd natur gydweithredol, integredig, ataliol a chynaliadwy eich gwaith lle bo’n briodol, a rôl y gwirfoddolwyr wrth helpu cyflawni’ch nodau.
Mae’r broses ymgeisio’n syml. Lawrlwythwch y ffurflen gais o wefan PAVS – www.pavs.org.uk – neu cysylltwch â PAVS ar 01437 769422 i gael copi caled. Rhowch wybod am waith eich grŵp a sut mae o fantais i’ch cymuned mewn dim mwy na 500 gair ac anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi at PAVS yn y cyfeiriad a ddarperir.
Month |
Winner |
Awst 2017 |
|
Medi 2017 |
|
Hydref 2017 |
|
Tachwedd 2017 |
|
Rhagfyr 2017 |
|
Ionawr 2018 |
|
Chwefror 2018 |
|
Mawrth 2018 |
|
Ebrill 2018 |
|
Mai 2018 |
|
Mehefin 2018 |
|
Gorffennaf 2018 |
|
Awst 2018 |
|
Medi 2018 |
|
Hydref 2018 |
|
Tachwedd 2018 |
|
Rhagfyr 2018 |
|
Ionawr 2019 |
|
Chwefror 2019 |
|
Mawrth 2019 |
Cadetiaid Môr a Chadetiaid Môr-filwyr Brenhinol Aberdaugleddau |
Ebrill 2019 |
|
Mai 2019 |
|
Mehefin 2019 |
|
Gorfennaf 2019 |
|
|
|