Prosiectau
Grŵp Tlodi
Mae'r Grŵp Tlodi yn gyfrifol am gyflawni elfennau Tlodi ac Anghydraddoldebau Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r grŵp wedi cynhyrchu strategaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, Trechu Tlodi: Ein Strategaeth 2023.
Wrth ddatblygu’r strategaeth tlodi ar gyfer Sir Benfro, edrychodd y grŵp ar y prif faterion y mae pobl yn ein Sir yn eu hwynebu wrth brofi caledi, a cheisiodd nodi ffyrdd y gall pobl gynnal eu hunain i amgylchiadau gwell. Yn ogystal â chasglu arbenigedd gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o weithio yn y maes hwn, bu pobl â phrofiad uniongyrchol o dlodi yn rhan o ddatblygu'r strategaeth.
Mae’r strategaeth yn ceisio canolbwyntio ar atal a lleihau tlodi, fel mae gwir angen gwneud, ac mae’n gofyn i ystod eang o sefydliadau i ymrwymo yn yr hirdymor i gynorthwyo pobl leol mewn angen. Mae hefyd yn cynnig gweledigaeth glir o’r blaenoriaethau sydd eu hangen i fynd i’r afael â thlodi, ac yn amlinellu’r camau a gymerir ar y cyd mewn ymateb i hynny. Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth alinio ymdrechion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yr Awdurdod Lleol, a phartneriaid ehangach i sicrhau dull gweithredu gydgysylltiedig, yn ogystal â chadw’r rhai mewn angen wrth galon pob penderfyniad a wneir.
Bydd y strategaeth yn cael ei hadolygu'n flynyddol fel y gallwn asesu'r cynnydd cyffredinol a sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar nodi'r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â chaledi yn ein Sir.
Ym mis Chwefror 2024 cynhaliwyd Uwchgynhadledd Trechu Tlodi gyntaf Sir Benfro yng Ngholeg Sir Benfro. Daeth y digwyddiad â chroestoriad o weithwyr proffesiynol ac arweinwyr lleol ynghyd o amrywiaeth o sefydliadau, ochr yn ochr ag aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i archwilio atebion i liniaru tlodi yn yr ardal leol. Clywodd y rhai a fynychodd y digwyddiad gan nifer o siaradwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith hwn hefyd, siaradwyr o sefydliadau gan gynnwys Sefydliad Bevan a National Energy Action.
Mae’r fideo hwn yn rhoi cyflwyniad i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn esbonio sut, trwy gydweithio â chymunedau, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gobeithio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw yn Sir Benfro.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)