Byw gydag anabledd

Anableddau corfforol

Pa un a ydych wedi eich cofrestru’n anabl, ynteu’n cael mwy o anhawster i symud o gwmpas neu wneud pethau drosoch eich hun, mae gwahanol fathau o gefnogaeth ar gael i’ch helpu i fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl. Efallai eich bod yn gymwys i gael y gefnogaeth hon drwy’r Gwasanaethau Oedolion. Gall yr adran Gwasanaethau Oedolion weithio gyda chi i ddarparu gwybodaeth ac i’ch helpu i gael mynediad at nifer o wasanaethau sy’n diwallu eich anghenion.

Gallwch ofyn i’r Gwasanaethau Oedolion am asesiad o’r cymorth y gallai fod arnoch ei angen. Os byddwch yn gymwys i gael cymorth efallai y byddwch am ystyried defnyddio’r ‘Cynllun taliadau uniongyrchol’ sy’n rhoi arian i chi ei wario ar drefnu eich gofal eich hun.

Yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd a chyflogaeth, iechyd ac addysg. Ceir cyngor hefyd i bobl anabl ynglŷn â byw’n annibynnol, hamdden, cymorth ariannol a hawliau a mynediad at wasanaethau ar-lein.

Yn darparu cymorth, gwybodaeth a chyngor i fwy na chwarter miliwn o bobl anabl a’u teuluoedd bob blwyddyn ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag anabledd.  

Mae'r Adran Iechyd yn cynnig ystod eang o wybodaeth i bobl ag anableddau corfforol

Mae Hawliau Anabledd y DU yn darparu gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau sydd wedi’u datblygu gan bobl anabl, a i bobl anabl. Maent wedi cyhoeddi canllaw i bobl sydd newydd ganfod eu hunain yn anabl a’u teuluoedd dan y teitl 'If I had only known that a year ago', sydd ar gael mewn siopau llyfrau arlein a chadwyn.  

Cymuned arlein sy’n darparu gwybodaeth, newyddion a thrafodaethau arlein bywiog gyda phobl anabl eraill a phobl nad ydyn nhw'n anabl, rhieni, gofalwyr, nyrsys a therapyddion galwedigaethol. 

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 2142, adolygwyd 24/08/2023