Byw gydag anabledd

Anableddau dysgu

Mae cefnogaeth o bob math ar gael i bobl sydd ag anableddau dysgu i’w helpu i fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl ac i chwarae rhan yn eu cymuned leol. Mae cymorth ar gael iddynt ddysgu sgiliau newydd, dod o hyd i le i fyw, cael swydd a siarad drostynt eu hunain.

I’r rhai hynny sy’n gymwys i gael help, gall Gwasanaethau Oedolion drefnu gwasanaethau a allai gynnwys:

  • Cyfleoedd dydd – Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol a gwasanaethau yn y gymuned
  • Gwyliau a seibiant byr
  • Cyflogaeth â chymorth
  • Lleoli oedolion

 


Gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol

Bydd ar rai pobl angen y math o gefnogaeth sydd ar gael gan sefydliadau sydd â sgiliau neu wybodaeth arbennig yn unig. Gallai’r cysylltiadau isod fod yn ddefnyddiol:

 


Strategaeth Anabledd Dysgu

Mae’r strategaeth anableddau dysgu yn cael ei hadolygu.  Rydym yn gweithio ar gamau gweithredu lleol fel rhan o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.  Mae ymgysylltiad helaeth wedi bod yn mynd rhagddo ar strategaeth anableddau dysgu ranbarthol newydd a fydd yn cwmpasu Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, a bydd ymgynghoriad ar yr argymhellion yn cael ei gynnal ym mis Medi/Hydref 2025.  

Os hoffai unrhyw un wybodaeth bellach, gallant gysylltu â Bwrdd Partneriaeth Anableddau Dysgu Sir Benfro. 

Cyswllt Karen.Davies@Pembrokeshire.gov.uk

 

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 10680, adolygwyd 19/08/2025