Byw gydag anabledd

Problemau clyw

Cymorth gan eich meddyg

Cymhorthion clyw

Cymorth gan y Gwasanaethau Oedolion

Sefydliadau arbenigol 

Cymorth gan eich meddyg

Os ydych yn cael problemau gyda’ch clyw, ewch i weld eich meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd. Gall eich meddyg:

  • Roi triniaeth i chi, yn enwedig os oes rhwystr neu haint yn y glust
  • Eich cyfeirio at arbenigwr i gael archwiliad manylach – at yr adran awdioleg efallai neu at ymgynghorydd clustiau, trwyn a gwddf
  • Eich cyfeirio at therapydd clyw a all roi cyngor i chi ynglŷn ag ymdopi â cholli clyw a gwneud y gorau o’r clyw sydd gennych ar ôl. 


Cymhorthion clyw

Gall eich meddyg teulu drefnu i chi gael mynd i adran awdioleg yr ysbyty i gael prawf clyw a chael teclyn cymorth clyw am ddim.

Neu, gallwch gael prawf clyw a phrynu teclyn cymorth clyw gan gwmni preifat ar gyfraddau masnachol. Os ydych yn prynu’n breifat, gwnewch yn siŵr bod y cwmni wedi ei gofrestru dan Ddeddf y Cyngor Cymorth Clyw. 


Cymorth gan y Gwasanaethau Oedolion

Mae gan y Cyngor arbenigwyr sy’n gallu rhoi cymorth a chyngor i bobl sydd â phroblemau clyw. Mae hyn yn cynnwys syniadau ymarferol a gwybodaeth am sefydliadau arbenigol, dosbarthiadau a chlybiau a all gynnig cefnogaeth i chi. 


Sefydliadau arbenigol

Swyddfa Genedlaethol, Llawr Cyntaf, Trinity Centre, Key Close, Whitechapel, Llundain E1 4HG 020
Ffôn: 020 7790 6147 
Ffacs: 020 7790 6147

The Grange, Wycombe Road. Saunderton, Princess Risborough, Buckinghamshire, HP27 9NS
Ffôn: 01844 348 100 (llais a minicom)
Ffacs: 01844 348 101
E-bost: info@hearingdogs.org.uk

19 - 23 Featherstone Street, Llundain EC1Y 8SL
Ffôn: 0808 808 0123
Ffôn Testun: 0808 808 9000

Ffôn: 03330 144 525
Ffôn Testun: 0330 144 530
E-bost: solutions@hearingloss.org.uk

  • Pobl fyddar ddall

Gall pobl sydd â namau deuol ar eu synhwyrau neu sy’n fyddarddall gysylltu â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 i gael help, asesiad arbenigol a gwybodaeth am gyfarpar.

Deafblind UK Head Office, National Centre for Deafblindness, John & Lucille van Geest Place, Cygnet Road, Hampton, Peterborough, PE7 8FD
Ffôn: 01733 358100
E-bost: info@deafblind.org.uk

Tŷ Penderyn, 26 Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF47 8DP
Ffôn: 0300 330 9282 Ffôn Testun: 0300 330 9282
E-bost: cymruenquiries@sense.org.uk


Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd
 y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 10674, adolygwyd 24/08/2023