Byw gydag anabledd
Rheoli a Monitro Gofal - Adolygiad
Rydym yn gyfrifol am reoli eich gofal ac felly mae’n bwysig inni fonitro ac adolygu’r gwasanaeth a gewch. Mae monitro’n golygu ein bod yn cadw golwg ar y gwasanaethau a gewch. Byddwn yn gwneud hyn naill ai trwy sicrhau bod ymarferwr proffesiynol ym maes Gofal Cymdeithasol neu iechyd (eich Cydlynydd Gofal neu Weithiwr Allweddol) yn cymryd rhan lawn yn y broses, neu byddwn yn cael adroddiadau rheolaidd gan eich darparydd gwasanaeth.
Rydym hefyd yn gyfrifol am adolygu eich gwasanaeth a’ch amgylchiadau er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni eich anghenion. Dylid cynnal adolygiad o leiaf unwaith y flwyddyn. Fe allai hynny fod ar ffurf cyfarfod â chi, eich gofalydd ac unrhyw ddarparydd gwasanaeth neu efallai y byddwn yn cynnal adolygiad trwy eich ffonio neu gysylltu â chi trwy’r post; byddwn yn gofyn cwestiwn neu ddau ichi am eich amgylchiadau ac am y gwasanaeth. Byddwn yn cysylltu â’ch darparydd gwasanaethau hefyd er mwyn iddo/iddi allu rhoi sylwadau barn inni ar sut mae pethau’n mynd.
Os bydd eich anghenion yn newid ar unrhyw adeg ac nad yw’r gwasanaethau yn eich cynllun gofal yn addas mwyach, yna rhowch wybod inni os gwelwch yn dda ac fe drefnwn i rywun ailasesu eich anghenion. Er enghraifft, efallai eich bod yn fwy annibynnol unwaith eto am eich bod wedi gwella ar ôl salwch neu anaf. Efallai eich bod yn cael mwy o anhawster dod i ben â phethau am fod eich iechyd wedi gwaethygu.
Am ragor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â:
Ffôn: 01437 764551
E-bost: enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall