Byw'n Annibynnol

Tai Gwarchod

Beth yw tai gwarchod?

Tai gwarchod yw llety gyda chymorth warden sy’n galluogi i bobl fyw’n annibynnol gyda chymorth ychwanegol warden.

Beth mae’n ei ddarparu?

Llety cyfleus a chysurus gyda sicrwydd ychwanegol, mewn amgylchedd lle mae gan denantiaid eu drws ffrynt eu hunain a gallu mynd a dod fel y mynnant. Mae gwahanol fathau o lety, yn rhedeg o fflatiau un ystafell i fflatiau unigol a thai unllawr. Mae modd cysylltu’r rhain â system larwm (Careline) i alw am gymorth mewn argyfwng.

Ar gyfer pwy mae tai gwarchod?

  • Pawb dros 55 oed a fyddai’n elwa o wasanaethau warden

Sut mae gwneud cais am dai gwarchod?

I wneud cais am dai gwarchod, bydd angen i chi lenwi Ffurflen gwneud cais am dai.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ein Canolfan Gysylltu ar 01437 764551 neu e-bostio ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

ID: 1537, adolygwyd 13/08/2024