Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027

Cabinet Rhaglen Weinyddu Ddiwygiedig Ar Gyfer 2022-2027

Rhagair gan yr arweinydd

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Rhaglen Weinyddu ddiwygiedig Cabinet Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2022-2027.

Rydym bellach wedi mynd trwy ddwy ran o dair o’n tymor, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn gwneud cynnydd da o ran cyflawni yn erbyn blaenoriaethau Rhaglen Weinyddu 2022-2027. Mae’r rhaglen ddiwygiedig hon yn tynnu sylw at rai o’r pethau yr ydym wedi’u cyflawni. 

Wrth edrych yn ôl ar y tair blynedd diwethaf, rwy’n cael fy syfrdanu, nid yn unig gan yr hyn sydd wedi’i gyflawni, ond pa mor gadarn yw’r sylfeini yr ydym wedi’u hadeiladu ar gyfer y sir yn y degawdau sydd i ddod, y sir y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ei hetifeddu.

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rhaid i ni gynllunio ar gyfer y newidiadau sy’n digwydd yn natur cymdeithas a fydd yn newid y galw am wasanaethau’r cyngor. Dylem ddathlu’r ffaith bod mwy o bobl yn byw’n hirach a’r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i Sir Benfro. Ond yn yr un modd, ni allwn anwybyddu cost gynyddol gofal cymdeithasol.  Ar ben arall y sbectrwm oedran, rydym wedi ailwampio neu adnewyddu llawer o’n hysgolion ac mae llawer mwy o bobl ifanc yn cyrraedd eu potensial addysgol llawn. Ond wrth i nifer y bobl ifanc ostwng, rhaid inni addasu’r lleoedd ysgol hefyd er mwyn sicrhau bod yr adnoddau’n parhau i ganolbwyntio ar bobl ifanc, nid ar yr adeiladau.

Un o brif ddibenion y cyngor yw annog a meithrin cymunedau gan barhau i fod yn atebol iddynt drwy’r broses ddemocrataidd.  Fel cabinet rydym wedi ymrwymo i annog pob preswylydd lleol i gymryd rhan yn eu cymunedau yn ogystal ag yn etholiadau 2027.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r cabinet wedi darparu arweinyddiaeth effeithiol, gan wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ein cymunedau nawr ac ar gyfer y dyfodol ac ymgysylltu ag aelodaeth ehangach y cyngor. Rwy’n falch ein bod wedi mynd i’r afael â materion a nodwyd gan Archwilio Cymru drwy gryfhau ein systemau llywodraethu a gwella cydberthynas swyddogion ac aelodau.

Yn erbyn cefndir o heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu, rhaid inni edrych ymlaen yn gadarnhaol ac yn hyderus, a chredaf mai dyma beth mae ein rhaglen weinyddu uchelgeisiol yn ei nodi.  Fe’i datblygwyd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae fy nghabinet a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda’n swyddogion i gyflawni newid cadarnhaol a pharhaol i’n sir hyfryd.

Y Cynghorydd Jon Harvey

ID: 9731, adolygwyd 15/10/2025