Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Ein Hymrwymiadau Ar Gyfer Gweddill Ein Gweinyddiaeth
Rydym wedi adolygu’r camau gweithredu yr oeddem wedi addo eu cyflawni erbyn 2027 i sicrhau bod y rhain yn gyraeddadwy ac yn berthnasol. Mae’r camau gweithredu wedi’u grwpio o dan bortffolio perthnasol yr aelod cabinet. Mewn llawer o achosion, ychydig iawn o newid sydd wedi bod i’r weledigaeth a osodwyd gennym yn 2022.
Lle, y Rhanbarth, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cenhadaeth
- Byddwn yn ehangu mantais gymharol Sir Benfro ym maes ynni i ysgogi chwyldro buddsoddi mewn ynni gwyrdd gan gefnogi a datblygu sylfaeni eraill yr economi leol, amaethyddiaeth a thwristiaeth yr un pryd.
- Byddwn yn sicrhau bod Sir Benfro yn parhau i fod yn lle gwych i ymweld ag ef, byw ynddo a gweithio ynddo, gyda chanolfannau trefol bywiog, cysylltedd digidol blaenllaw yn y wlad a chynigion hamdden o’r radd flaenaf.
- Byddwn yn cyrraedd ein targed i fod yn gyngor carbon sero net erbyn 2030, yn gweithio tuag at ddatgarboneiddio’r system drafnidiaeth dros y tymor hwy a byddwn yn mabwysiadu dull arloesol o ddiogelu a hyrwyddo ein hamgylchedd a’n gallu i addasu i newid hinsawdd.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Sicrhau bod Sir Benfro yn gwneud ei rhan yn chwyldro ynni gwyrdd y DU, a thrwy wneud hynny yn sicrhau swyddi â chyflog da a manteision cymunedol eraill i’r sir:
- Cefnogi ein diwydiant presennol wrth greu’r amodau cywir ar gyfer buddsoddi yng nghynhyrchiant ynni adnewyddadwy’r dyfodol, megis hydrogen a dal a storio carbon, trwy gyflawni’r Porthladd Rhydd Celtaidd.
- Sicrhau bod Sir Benfro yn cael y budd mwyaf o gymeradwyo trwyddedau ynni gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.
- Parhau i ail-lunio canol trefi Sir Benfro a buddsoddi ynddynt gan eu gwneud yn lleoedd bywiog, ffyniannus a llewyrchus y mae pobl yn eu mwynhau.
- Gwneud y mwyaf o gyfleoedd mewnfuddsoddi, a datblygu ein safleoedd cyflogaeth strategol ar draws y sir er mwyn cefnogi’n prif sectorau (ynni, bwyd ac amaethyddiaeth, twristiaeth a lletygarwch).
- Cefnogi pobl i fagu gwytnwch a gwella eu cyfleoedd bywyd drwy ennill y sgiliau a’r cymwysterau galwedigaethol hanfodol sy’n eu galluogi i symud ymlaen i fyd gwaith a dysgu pellach.
- Gweithio i sicrhau bod ein cynnig twristiaeth yn gynaliadwy ac yn fuddiol i gymunedau a busnesau lleol drwy gyflawni Cynllun Rheoli Cyrchfan 2024-28, a hyrwyddo twristiaeth adfywiol.
- Cynhyrchu cynllun wedi’i gostio’n llawn sy’n gosod y cyngor ar drywydd cyflawni ei ymrwymiadau sero net.
- Buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith i gefnogi’r newid i gerbydau tanwydd trydan/hydrogen.
- Datblygu rhwydwaith o lwybrau beicio a cherdded rhwng 10 o’n trefi i leihau’r defnydd o geir ac annog pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.
- Rheoli ein tir a’n hasedau i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei wella a’i warchod. Yn benodol, byddwn yn cynnal a cheisio gwella bioamrywiaeth ac ecoleg ledled Sir Benfro yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd.
Tai
Cenhadaeth
- Byddwn yn arloesol wrth ymdrin â’r heriau tai yr ydym yn eu hwynebu trwy sicrhau bod gan bobl Sir Benfro fynediad at gartref addas sydd o safon uchel, yn fforddiadwy ac yn gwella ansawdd eu bywyd, yn unol â dyheadau Strategaeth Tai Sir Benfro 2024-2029.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Drwy ein rhaglen datblygu tai a chytundebau pecyn, byddwn yn datblygu 67 o unedau tai newydd ychwanegol erbyn 2027 (yn ychwanegol i’r 73 yr ydym eisoes wedi’u hadeiladu).
- Symud y broses o ddatblygu tai sydd ar y gweill yn ei blaen gan weithio trwy’r cyfnodau adeiladu a fydd yn cynhyrchu 80 o gartrefi newydd pellach, gan gynnwys tai gwarchod i bobl hŷn a darpariaeth byw â chymorth.
- Cynnal y rhaglen tai fforddiadwy, gan weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys cymdeithasau tai, datblygwyr preifat a grwpiau cymunedol, i gynyddu’r ystod o brosiectau tai o amrywiol ddaliadaethau. Bydd hyn yn helpu i dyfu cyflenwad tai Sir Benfro.
- Gweithio i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal, ei fod yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw’n digwydd eto wrth gyflawni ein Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai.
- Gweithio gyda landlordiaid yn y sector rhentu preifat a’u cefnogi yn wyneb gostyngiad yn y cyflenwad, gan hyrwyddo Cynllun Lesio Cymru.
- Parhau i ddefnyddio’r arian a godir o bremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy a chymdeithasol, gan gynnwys hyrwyddo a pharhau â Cymorth Prynu Sir Benfro.
- Cyfuno a gwneud y mwyaf o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer ailddatblygu a chynnal canol trefi, gan adfer eiddo gwag hirdymor i’w defnyddio eto.
- Darparu gwasanaeth landlord cymdeithasol o safon uchel sy’n gwrando ac yn ymateb i anghenion ein tenantiaid.
- Gweithio tuag at gyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 a fydd hefyd yn cynnwys cyflymu’r broses o ddatgarboneiddio ein stoc tai.
- Hyrwyddo cymorth ariannol sydd ar gael gan y cyngor neu ddarparwyr ynni ar gyfer gwella safonau tai’r sector preifat, gan gynnwys grantiau effeithlonrwydd ynni ac addasu.
Cyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd
Cenhadaeth
- Byddwn yn gweithio mewn ffordd arloesol a darbodus i gyflawni’r rhaglen weinyddu o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael, a chyfyngiadau o ran amser ac ansawdd.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Gweithio gyda’r holl randdeiliaid i gytuno ar gyllideb flynyddol fforddiadwy a chytbwys, ac yna ei chyflwyno fel rhan o Gynllun Ariannol Tymor Canolig cynaliadwy ac ymatebol.
- Gweithio tuag at gyflwyno gwybodaeth ariannol a gwybodaeth am adnoddau “byw” i randdeiliaid.
- Casglu barn cymaint o drigolion â phosibl drwy’r ymgynghoriad blynyddol â rhanddeiliaid y gyllideb.
- Gwella ein prosesau busnes a’n cynhyrchiant yn barhaus er mwyn darparu gwasanaethau addas i’r diben am y gost gynaliadwy isaf.
- Mynd ar drywydd cyfleoedd i ‘fuddsoddi i arbed’, ‘ad-drefnu gwasanaethau’ a grantiau ac incwm ychwanegol er mwyn cyflawni arbedion ac effeithlonrwydd yn y dyfodol.
- Argymell opsiynau blaenoriaethu i amddiffyn gwasanaethau statudol a’r rhai sydd eu hangen ar y bobl mwyaf agored i niwed yn ein sir.
- Pontio o gynnig traddodiadol i gwsmeriaid i brofiad aml-sianel digidol modern er mwyn cefnogi pob dinesydd
- Cefnogi ein pobl i gyrraedd eu potensial llawn, a lansio arolwg ymgysylltu â’n holl staff, er mwyn gwrando ar ein staff a gweithredu ar feysydd i’w gwella.
- Gwella hygyrchedd, profiad a’r dewis sydd ar gael i gwsmeriaid wrth ddelio â’r cyngor, gan ddylunio gwasanaethau o amgylch anghenion cwsmeriaid a dinasyddion.
Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Cenhadaeth
- Byddwn yn cefnogi pobl gyda gofal a chefnogaeth briodol i fyw yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl agored i niwed yn ddiogel.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Tyfu ein presenoldeb cyflenwi uniongyrchol ac ailgydbwyso’r farchnad fel y nodir yn ein Cynllun Comisiynu Strategol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Bydd hyn yn golygu buddsoddi mewn tyfu a/neu ddatblygu cartrefi gofal y cyngor, yn ogystal â chynyddu cyfran ein tîm gofal cartref mewnol yn y farchnad i 20% (ac i 30% erbyn 2035). Bydd goblygiadau i hyn o ran cyllid cyfalaf.
- Parhau i ddatblygu hyfforddeiaethau gweithwyr cymdeithasol, gan adeiladu ar ein dull ‘tyfu ein hunain’ ar gyfer cynyddu niferoedd o weithwyr cymdeithasol i ateb y galw.
- Hyrwyddo gofal cymdeithasol fel gyrfa o ddewis gyda’r cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan ddatblygu llwybr gyrfa.
- Creu’r gallu i ddarparu gwasanaethau gofal i bobl sy’n agored i niwed sydd eu hangen nhw, gan adeiladu mewn gwytnwch i ymateb i fethiant y farchnad a’r heriau.
- Ymgorffori’r cynnydd a wnaethom o ran ail-ddarparu ystod o gyfleoedd dydd ystyrlon a gwasanaethau seibiant i deuluoedd a gofalwyr unigol, a bwrw ymlaen â datblygiad Cei’r De.
- Adeiladu marchnad amrywiol a bywiog, sy’n cynnwys datblygu microfentrau a mentrau cymdeithasol, yn unol â’n Cynllun Comisiynu Strategol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
- Gweithio gyda’r bwrdd iechyd i sicrhau bod pobl yn cael darpariaeth ddi-dor a chydgysylltiedig a sicrhau nad oes unrhyw un sydd angen cymorth yn cael ei adael yn y bylchau rhwng y gwasanaethau.
- Parhau i nodi a gweithredu dulliau effeithiol o ymdrin â chynhwysiant digidol a gofal a chymorth a alluogir gan dechnoleg.
- Cynyddu’r nifer sy’n derbyn taliadau uniongyrchol ymhellach.
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl yn ailsefydlu’n llwyddiannus o Wcráin i Sir Benfro.
- Cyflawni ein hymrwymiad i ddiogelu, gan amddiffyn hawliau pob plentyn ac oedolyn sydd mewn perygl i fod yn rhan o gymdeithas ddiogel a chael eu hamddiffyn rhag niwed. Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud diogelu yn gyfrifoldeb i bawb a thrwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar.
Pobl Ifanc, Cymuned, Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol
Cenhadaeth
- Datblygu gwasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi’u cynllunio i atal anghenion rhag cynyddu, eu darparu drwy ddull sy’n seiliedig ar gydberthynas ac sy’n canolbwyntio ar gyflawni’r canlyniadau gorau i bobl ifanc a’u teuluoedd.
- Cryfhau cydberthynas â chymunedau i’w helpu i feithrin gwytnwch, i aros mewn cysylltiad, a defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael.
- Sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau, gan gydbwyso’r adnoddau sydd eu hangen i ymdopi â phwysau uniongyrchol dros y tymor hwy.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Ailstrwythuro sut mae pobl ifanc a theuluoedd yn cael mynediad at wasanaethau plant gan sicrhau bod y gwasanaeth mwyaf priodol yn cael ei gynnig iddynt er mwyn atal anghenion rhag cynyddu, gan gryfhau ein hymdrechion i atal plant rhag dod yn blant mewn gofal.
- Cefnogi mwy o blant i adael gofal yn ddiogel
- Darparu model cymorth ar gyfer plant 0 i 25 oed gan sicrhau bod y plant a fydd angen cymorth fel oedolion ifanc yn pontio i’r gwasanaethau hyn yn ddidrafferth.
- Ehangu llety preswyl y cyngor ar gyfer plant yn Sir Benfro ymhellach er mwyn gwella canlyniadau ein plant sy’n derbyn gofal (rydym mewn trafodaethau ac ni allwn fod yn benodol, ond bydd ein cynlluniau ehangu yn diwallu cyfran sylweddol o’r galw presennol).
- Parhau i ehangu ein gwasanaeth gofal maeth mewnol ein hunain, gan adeiladu ar gymhellion megis rhoi gostyngiad ar y dreth gyngor i bobl sydd wedi agor eu cartrefi i blant sy’n derbyn gofal yn Sir Benfro.
- Treialu dull amlasiantaeth sy’n seiliedig ar y gymuned o ddarparu gwasanaethau ataliol a chymorth i deuluoedd, gan ddechrau yn Aberdaugleddau. Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, bydd yn cael ei ymestyn ar draws Sir Benfro.
- Cynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar Gynllun Gwirfoddoli Gweithwyr y Cyngor Sir i gefnogi cymunedau lleol yn uniongyrchol.
- Parhau i ymgysylltu â chynghorau cymuned a thref, gan rannu arferion gorau ac adnoddau.
- Parhau i ddatblygu ein strategaeth tlodi, gan adeiladu ar ymgyrchoedd wedi’u targedu at gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar fudd-daliadau allweddol.
- Darparu arweinyddiaeth i wella effeithiolrwydd ac effaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ddod â sefydliadau ynghyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro.
- Parhau i ddatblygu trefniadau llywodraethu sy’n cydbwyso anghenion presennol ag anghenion y dyfodol ac sy’n ystyried tueddiadau hirdymor.
Gwasanaethau Preswylwyr
Cenhadaeth
- Byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau ar ddarparu ‘hanfodion gwych’ – gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu’r cyhoedd a hamdden a diwylliant – sy’n cyfrannu at ansawdd bywyd cymunedau, gan sicrhau bod trigolion yn byw mewn cymdogaethau sy’n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llesol.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Gwneud y mwyaf o botensial ein hasedau (tir ac adeiladau) i wella llesiant cymunedol a chreu lleoedd trwy, er enghraifft, ddefnyddio trosglwyddiadau asedau cymunedol.
- Cynnal ein perfformiad fel un o’r awdurdodau ailgylchu gorau yn y DU drwy, er enghraifft, gwblhau camau olaf prosiect y Parc Eco a chefnogi prosiectau economi gylchol (e.e. gosod cyfleusterau ailddefnyddio mewn canolfannau gwastraff ac ailgylchu ledled Sir Benfro).
- Cynnal a cheisio gwella ansawdd yr amgylchedd lleol (mewn strydoedd, meysydd cyhoeddus, parciau, cefn gwlad a thraethau) trwy, er enghraifft, ganolbwyntio ar leihau troseddau amgylcheddol.
- Cadw ein priffyrdd mewn cyflwr da, gwella diogelwch ffyrdd a cheisio gwella ac ymestyn y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
- Parhau i gefnogi teithio llesol drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau hygyrch, llwybrau a rennir a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn unol â Siarter Teithio Llesol Cymru. Hyrwyddo cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol o Aberdaugleddau i Paddington yn Llundain.
- Parhau i ddarparu ystod gynhwysfawr o gyfleusterau a rhaglenni hamdden a diwylliannol a llyfrgell o ansawdd da sy’n cefnogi iechyd a llesiant ein trigolion.
- Gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnal diogelwch y cyhoedd.
- Parhau i gefnogi digwyddiadau mawr sy’n creu buddion economaidd a chymunedol, ac sy’n codi proffil y sir.
- Ymdrechu i ddod yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar berfformiad ac sy’n darparu gwasanaethau modern, effeithiol ac effeithlon drwy weithredu ein rhaglen Trawsnewid ac Arloesi.
Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio
Cenhadaeth
- Byddwn yn llunio ac yn gwella amgylchedd Sir Benfro, ac yn cyflawni rôl hanfodol o ran darparu tai, cynnal a denu busnesau, taro cydbwysedd o ran effeithiau datblygiadau ar gymunedau a chyfrannu at ymateb y cyngor i’r argyfwng hinsawdd a natur.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Cwblhau’r cynllun datblygu newydd ar gyfer Sir Benfro (CDLl2) sy’n cefnogi ac yn galluogi twf sylweddol mewn tai ac yn cysylltu’n ddi-dor â’n partneriaid ar draws y rhanbarth a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
- Cefnogi datblygwyr i fynd i’r afael â gofynion niwtraliaeth o ran maethynnau yn y dalgylchoedd yr effeithir arnynt er mwyn eu galluogi i barhau i ddatblygu yn Sir Benfro.
- Bwrw ymlaen â chyflawni’r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer de-orllewin Cymru drwy’r cydbwyllgorau corfforaethol.
- Cynnal y lefel ragorol bresennol o wasanaeth yn yr adran gynllunio.
- Parhau i symud achosion gorfodi yn eu blaen, gan leihau yr ôl-groniad o achosion ymhellach. Er mai dyma’r dewis olaf, byddwn yn ceisio erlyn ac yn sicrhau yr adroddir am achosion llwyddiannus i’r cyhoedd, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am oblygiadau posibl datblygu heb awdurdod.
- Gweithredu system gynllunio newydd i gynyddu tryloywder y gwasanaeth cynllunio a gwella’r broses ar gyfer swyddogion cynllunio, ymgeiswyr a’r gymuned.
- Cyfrannu mwy at yr agenda adfer natur, gan weithio mewn partneriaeth i wneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu a gwella bioamrywiaeth ar raddfa fawr.
- Darparu gwasanaeth rheolaeth adeiladu o ansawdd uchel a chodi proffil gwaith y tîm.
- Cefnogi amgylcheddau byw a gweithio diogel drwy ddarparu gwasanaethau diogelu’r cyhoedd yn effeithlon ac yn effeithiol.
Addysg a’r Gymraeg
Cenhadaeth
- Byddwn yn gwneud Sir Benfro yn lle gwych i ddysgu, byw a thyfu.
Penawdau
Byddwn yn cyflawni’r canlynol:
- Galluogi pob dysgwr, waeth beth fo’i gefndir, i fod y gorau y gall fod.
- Creu amgylchedd meithringar ac ysbrydoli pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol, galluog, hyderus, cyfrifol a gwydn.
- Cefnogi ysgolion i greu llwybrau dysgwyr a chwricwla o ansawdd uchel er mwyn creu gwelliant cynaliadwy sy’n galluogi ein hysgolion i berfformio’n dda.
- Parhau i gyflawni ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gyfer Aberdaugleddau.
- Cyflwyno dulliau ysgol gyfan i ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant ein dysgwyr.
- Parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu er mwyn sicrhau rhagoriaeth.
- Cyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
- Creu partneriaethau rhagorol gyda busnesau i ddatblygu sgiliau ac economi’r dyfodol.
- Datblygu dulliau sy’n addas i blant a chyflawni ein rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn llawn.
- Cyflawni ein prosiect braenaru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gwella gwasanaethau ar gyfer ein teuluoedd a’u plant ieuengaf.
- Cyflwyno gwaith ieuenctid cymunedol a rhaglenni gwyliau ysgol ledled y sir.
ID: 14281, adolygwyd 15/10/2025