Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Lle a'r rhanbarth
Cenhadaeth
Byddwn yn helaethu mantais gymharol Sir Benfro ym maes ynni i sbarduno chwyldro o ran buddsoddi mewn ynni gwyrdd gan hefyd gefnogi a datblygu elfennau sylfaenol eraill yr economi leol, amaethyddiaeth a thwristiaeth.
Byddwn ni'n sicrhau bod Sir Benfro'n parhau i fod yn lle gwych i ymweld ag ef, byw a gweithio ynddo gyda chanolfannau trefol bywiog, cysylltedd digidol sydd ar flaen y gad yn y wlad ac arlwy hamdden o safon fyd-eang.
Penawdau
Byddwn yn:
Sicrhau bod Sir Benfro mewn sefyllfa i fod yn brifddinas ynni gwyrdd y DU, gan sicrhau'r genhedlaeth nesaf o swyddi diwydiannol gwyrdd ar gyfer dyfrffordd y Ddau Gleddau. Mae hyn yn golygu:
- Cefnogi ein diwydiant presennol gan hefyd greu'r amodau cywir ar gyfer buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol
- Sicrhau bod Sir Benfro’n arwain y DU o ran cyflawni technoleg ynni gwynt arnofiol oddi ar y glannau yn y Môr Celtaidd ac o ran cynhyrchu hydrogen gwyrdd a glas
- Cefnogi cais Porthladd Rhydd ar gyfer yr Hafan (a safleoedd cysylltiedig) fel rhan o strategaeth ehangach i wella mantais gystadleuol dyfrffordd y Ddau Gleddau ymhellach fel canolfan ynni allweddol yn y DU.
Parhau i ailddyfeisio canol trefi Sir Benfro a buddsoddi ynddynt gan eu gwneud yn fannau bywiog, byrlymus a ffyniannus y mae pobl yn eu mwynhau.
Cynyddu i’r eithaf y cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad a datblygu ein safleoedd cyflogaeth strategol ledled y Sir i gefnogi sectorau allweddol (ynni, bwyd ac amaethyddiaeth, twristiaeth a lletygarwch), yn arbennig trwy hybu datblygiad Parc Bwyd Sir Benfro i gefnogi anghenion cynyddol y diwydiant bwyd.
Cynorthwyo pobl i wella eu cydnerthedd a'u cyfleoedd bywyd trwy ennill y sgiliau a'r cymwysterau galwedigaethol hollbwysig sy'n eu galluogi i gamu ymlaen at waith a dysgu pellach.
Gweithio i sicrhau bod ein harlwy twristiaeth yn gynaliadwy ac o fudd i gymunedau a busnesau lleol.