Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Cyflawniadau Allweddol Yn Ystod Y Rhaglen Weinyddu Hon
Rhestrir isod ddetholiad o’r cyflawniadau y mae ein gweinyddiaeth wedi’u cyflawni ers 2022. Mae’r rhain yn adeiladu ar waith y weinyddiaeth flaenorol. Ni fyddai’r rhain wedi bod yn bosibl heb waith caled y rhai sy’n gweithio i’r cyngor a sefydliadau eraill.
Lle, y Rhanbarth, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Fe ddywedom y byddem yn sefydlu porthladd rhydd
- Sefydlwyd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn dilyn ein gwaith gyda’r llywodraeth ar bob lefel a’r sector preifat. Mae tîm rheoli ar waith, ac rydym wedi ymrwymo cyllid hyd at ddiwedd y weinyddiaeth hon i alluogi’r porthladd rhydd i greu mwy nag 11,000 o swyddi newydd ac ychwanegu dros £8 biliwn mewn gwerth economaidd i’r rhanbarth.
Fe ddywedom y byddem yn adfywio canol trefi
- Rydym wedi dod â bywyd newydd i ardal glan yr afon yn Hwlffordd; agorodd bar Waldo’s, sy’n rhan o Lan Cei’r Gorllewin, ym mis Tachwedd 2024, mae caniatâd cynllunio’n cael ei ystyried ar gyfer ‘byrddau bwyd dros dro’ ar hyn o bryd a bydd adeilad y Ffowndri, sydd wedi’i adnewyddu’n sensitif, yn agor fel bar newydd yn fuan. Mae’r bont droed newydd wedi’i gosod, yn gyswllt ffisegol ysbrydoledig rhwng prosiect Calon Sir Benfro, sy’n canolbwyntio ar y castell, a’r gyfnewidfa drafnidiaeth islaw.
Fe ddywedom y byddem yn gwella’r seilwaith trafnidiaeth
- Mae’r gwaith ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Hwlffordd yn mynd rhagddo ers tro erbyn hyn, a bydd yr adeilad newydd wedi’i gwblhau oddeutu gwanwyn 2027. Mae’r contract ar gyfer Cyfnewidfa Drafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau, sy’n cynnwys cyfnewidfa fysiau newydd, safle tacsis, maes parcio ffurfiol, mannau cyhoeddus a gwell cysylltiadau teithio llesol yn cael ei dendro, a bydd y prosiect wedi’i gwblhau erbyn mis Mawrth 2027.
Fe ddywedom y byddem yn gwella band eang
- Rydym wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a darparwyr, ac ym mis Medi 2025, roedd gan 95% o safleoedd Sir Benfro fynediad at fand eang cyflym iawn (dros 30 mb yr eiliad) ac roedd gan dros 57% o’r sir fynediad at gyflymderau a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit. Dim ond 1% o Sir Benfro sydd wedi’i chyfyngu i gyflymderau islaw 2Mbps.
Fe ddywedom y byddem yn cefnogi diwydiant twristiaeth Sir Benfro
- Rydym wedi ailsefydlu Croeso Sir Benfro fel partneriaeth wirioneddol â’r diwydiant twristiaeth. Mae’r bartneriaeth newydd wedi denu cyllid o’r sector i adeiladu sefydliad deinamig a chreadigol sy’n cyflawni gweledigaeth a rennir ar gyfer y diwydiant allweddol hwn. I gydnabod y pwysau y mae’r diwydiant yn ei wynebu, rydym wedi diystyru ardoll ymwelwyr ddewisol yn ystod y weinyddiaeth hon.
Fe ddywedom y byddem yn ehangu ynni adnewyddadwy ac yn gweithio i sicrhau fod y cyngor yn sero net erbyn 2030.
- Buom yn gweithio gydag Egni Co-op i osod systemau cynhyrchu ffotofoltäig solar ar doeau, yn ogystal â chyflwyno Sbarcynni yn llwyddiannus mewn 35 o ysgolion i leihau biliau. Mae bron pob un o’n goleuadau stryd bellach yn ddeuodau allyrru golau (LED) ynni isel sydd wedi lleihau’r defnydd o bŵer, gan arbed £270,000 y flwyddyn. Mae Ysgol Bro Penfro, sydd newydd ei hadeiladu, yn ysgol sero net; wedi’i gwresogi gan bympiau gwres o’r aer. Mae ei phaneli solar yn cynhyrchu cymaint o drydan ag y mae’n ei ddefnyddio.
Fe ddywedom ni y byddem yn ymateb i newid hinsawdd
- Buom yn gweithio gyda phartneriaid drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gynhyrchu Strategaeth Ymaddasu i Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro, a Phecyn Cymorth Ymaddasu i Newid Hinsawdd i helpu cymunedau i baratoi ar gyfer newid hinsawdd. Cynhyrchwyd cynllun ynni ardal leol hefyd i arwain datblygiad ynni yn y sir hyd at 2050.
Tai
Fe ddywedom y byddem yn adeiladu tai cyngor newydd, tai gwarchod i bobl hŷn a llety byw â chymorth.
- Rydym wedi creu 73 o dai cyngor newydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf trwy ein rhaglen datblygu tai a chytundebau pecyn yn Johnston, Tiers Cross, Aberllydan, Hook a Thyddewi, y tai cyngor newydd cyntaf mewn cenhedlaeth. Rydym wedi gweithio gyda chymdeithasau tai i ddatblygu cartrefi newydd i’r rhai ar y rhestr aros; sicrhawyd 152 yn 2024-25. Rydym hefyd wedi caffael 182 o gartrefi dros y pedair blynedd diwethaf (cartrefi a werthwyd gennym ni yn wreiddiol o dan y cynllun hawl i brynu yn aml). Mae cyfanswm ein stoc tai bellach yn 5,863, sy’n cynyddu ein gallu i ymateb i ddigartrefedd yn ogystal â helpu pobl i aros yn eu cymunedau.
Fe ddywedom y byddem yn gweithio i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal, ei fod yn brin, yn fyrhoedlog, ac nad yw’n digwydd eto
- Fel y gwelwyd mewn siroedd eraill, roedd digartrefedd yn cynyddu yn 2022: wrth i landlordiaid preifat adael y farchnad; wrth i’r defnydd o ail gartrefi a llety gwyliau gynyddu; ac wrth i fwy o deuluoedd chwalu. Buom yn gweithio gyda’r nifer uchaf erioed o bobl ddigartref ym mis Gorffennaf 2023 sef 682 ac, ers hynny, mae’r ffigwr wedi haneru drwy ddefnyddio’r mesur hwn. Rydym yn parhau i ddibynnu’n fawr ar lety dros dro i bobl ddigartref, er gwaethaf y gostyngiad yn y niferoedd, a chydnabyddir bod angen gwneud mwy i atal digartrefedd a chefnogi ein hachosion cymhleth.
- Rydym wedi prydlesu 26 eiddo gan landlordiaid Sir Benfro i’w defnyddio fel eiddo rhent ar gyfer ein pobl ddigartref, ac rydym yn parhau i annog mwy o berchnogion eiddo i fod yn rhan o’r rhaglen Cynllun Lesio Cymru.
Fe ddywedom y byddem yn ymateb i newidiadau mewn argaeledd tai o ganlyniad i gynnydd mewn ail gartrefi a llety gwyliau
- Ym mis Ebrill 2025, penderfynom ddefnyddio’r cyllid a godwyd o bremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i lansio’r cynllun Cymorth Prynu Sir Benfro, gan helpu prynwyr tro cyntaf i brynu cartref yn Sir Benfro. Mewn chwe mis, rydym wedi derbyn 106 o ymholiadau ac wedi cymeradwyo wyth cais gyda phum cais arall ar y gweill.
Fe ddywedom y byddem yn adfywio ystadau tai ac yn atgyweirio a datgarboneiddio ein stoc tai ein hunain
- Yn 2024-2025, fe wnaethom gyflawni rhaglen gyfalaf ac atgyweirio gwerth £29.5 miliwn i gynnal a gwella ein stoc tai cyngor a’n hystadau. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â rhaglen o waith datgarboneiddio ar ein heiddo, sy’n cynnwys gosodiadau fel pympiau gwres o’r aer, inswleiddio waliau, systemau gwresogi effeithlon a phaneli solar ffotofoltäig.
Cyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd
Fe ddywedom y byddem yn mantoli cyllideb y cyngor
- Mae’r tair cyllideb olynol ers etholiadau Mai 2022 wedi mynd i’r afael â bylchau cyllido o £18.6miliwn, £31.9miliwn a £26.9miliwn wrth barhau i gynnal y mwyafrif helaeth o wasanaethau’r cyngor, gan ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau statudol allweddol megis addysg a gofal cymdeithasol wneud toriadau cymesur bach. Rydym wedi cadw lefel gall o gronfeydd wrth gefn ac wedi sicrhau bod ein costau benthyca ar gyfer prosiectau cyfalaf yn fforddiadwy i genedlaethau’r dyfodol.
Fe ddywedom y byddem yn gwneud y cyngor yn fwy effeithlon ac yn lleihau biwrocratiaeth ac yn ehangu dewis i gwsmeriaid
- Rydym wedi symleiddio prosesau ar draws y cyngor gan ddefnyddio methodoleg gyson o’r enw Vanguard, ac mae’r canlyniadau cynnar ym maes gofal cymdeithasol yn addawol iawn. Rydym wedi parhau i gyflwyno gwelliannau digidol fel y gall cwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw, ac mae nifer defnyddwyr Fy Nghyfrif wedi cynyddu dros 40% ers 2022, gyda’r niferoedd wedi cyrraedd dros 100,000 bellach.
Fe ddywedom y byddem yn mynd ar drywydd prosiectau buddsoddi i arbed er mwyn cyflawni arbedion ac effeithlonrwydd yn y dyfodol
- Drwy reoli cronfeydd wrth gefn, rydym wedi creu pot o arian y mae ein rhaglen newid carlam buddsoddi i arbed wedi’i ddefnyddio i ariannu prosiectau gwerth £4.6miliwn hyd yma yn ystod 2024-25 a 2025-26, yn bennaf i gyflawni’r agenda atal gan ganolbwyntio ar bobl ifanc 0 i 25 oed.
Fe ddywedom y byddem yn nodi ffrydiau incwm amgen er mwyn helpu i gau bylchau cyllido
- Pan fyddwn yn cydweithio ar y cyd â sefydliadau eraill (e.e. y bwrdd iechyd, cynghorau eraill a chyfleustodau), rydym wedi cynyddu ein ffioedd a’n taliadau i adlewyrchu’r gwaith yr ydym yn ei wneud (adennill y costau’n llawn) neu’n sicrhau cyfraniad teg gan y sefydliadau hyn at gost gwasanaethau ar y cyd. Rydym hefyd wedi gwneud y mwyaf o grantiau’r llywodraeth ar gyfer gwasanaethau yn ogystal â phrosiectau cyfalaf.
Fe ddywedom y byddem yn cael barn cymaint o drigolion â phosibl drwy’r ymgynghoriad blynyddol â rhanddeiliaid y gyllideb.
- Rydym wedi ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl roi eu barn ar gyllideb y cyngor. Cyfrannodd dros 1,000 o bobl at ein prif ymarfer ymgynghori ar gyllideb 2025-26 gyda dros 250 yn cyfrannu at yr ymgynghoriad cychwynnol ar gyfer 2025-26. Roedd yn bosibl i ymatebwyr weld effaith dewisiadau cyllidebol drwy ddefnyddio modelwr cyllideb rhyngweithiol. Yn ogystal â hyn, ymatebodd bron i 3,000 i’r ymgynghoriad ar bremiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ar gyfer 2025-26.
Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Fe ddywedom y byddem yn cynorthwyo pobl â gofal a chymorth priodol i fyw yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain
- Rydym wedi rheoli’r cynnydd sylweddol yn y galw am ofal cymdeithasol ac rydym bellach wedi haneru nifer y bobl sy’n aros am asesiadau, gyda’r gostyngiad mwyaf yn cael ei wneud i rai sy’n aros yn hwy na 91 diwrnod.
- Newidiwyd y ffordd y caiff pobl fynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, drwy gynnwys ein partneriaid yn y trydydd sector yn gynnar yn y broses er mwyn sicrhau y diwellir anghenion mwy o bobl drwy ddefnyddio gwasanaethau cymunedol yn hytrach na gwasanaethau statudol.
Fe ddywedom y byddem yn cyflwyno isafswm cyflog o £11.50 yr awr ar gyfer gweithwyr gofal cartref ac yn ehangu gofal cartref mewnol
- Cyflawnwyd yr ymrwymiad hwn a bellach caiff cyflog byw gwirioneddol ei dalu i weithwyr gofal sy’n gweithio i gwmnïau yr ydym ni’n eu comisiynu. Mae gweithwyr gofal cartref mewnol bellach yn cael tâl o £13.45 yr awr, sy’n adlewyrchu’r gwaith medrus a heriol y maent yn ei wneud. Rydym hefyd wedi ehangu ein gwasanaeth gofal cartref mewnol, gan leihau ein dibyniaeth ar ddarparwyr allanol.
Fe ddywedom ni y byddem yn parhau i ddatblygu hyfforddeiaethau gweithwyr cymdeithasol i ateb y galw
- Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Penfro yn ariannu 16 o fyfyrwyr pellach i weithio tuag at hyfforddiant cymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol, gyda phump i fod i ennill eu cymhwyster eleni.
Fe ddywedom y byddem yn annog datblygiad microfentrau a mentrau cymdeithasol i adeiladu marchnad gofal amrywiol a bywiog
- Rydym yn gwneud cynnydd da a bellach mae 105 o ficrofentrau gweithredol yn bodoli (ym mis Medi 2025), sy’n gynnydd o’i gymharu â’r ffigwr o 30 ym mis Ebrill 2022. Sicrhawyd y cynnydd hwn drwy fanteisio ar y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ac mae’n enghraifft dda o sut yr ydym wedi defnyddio cyllid grant i gefnogi gwelliant yn Sir Benfro.
Fe ddywedom y byddem yn cynyddu’r nifer sy’n derbyn taliadau uniongyrchol (dewis amgen i ofal cartref)
- Am gyfnod sylweddol o’r weinyddiaeth hon, ac o ganlyniad i’n gwasanaeth broceriaeth, mae mwy o oriau gofal wedi bod yn cael eu darparu trwy daliadau uniongyrchol na darpariaeth gofal cartref. Mae hyn yn rhoi mwy o lais i’r bobl yr ydym ni’n eu helpu a mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain, a bellach mae 484 o bobl yn cael taliad uniongyrchol gweithredol, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r ffigyrau yr adeg hon y llynedd.
Fe ddywedom y byddem yn datblygu ystod o gyfleoedd dydd ystyrlon a gwasanaethau seibiant i deuluoedd a gofalwyr unigol.
- Fe wnaethom ailwampio cyfleoedd dydd a chefnogi datblygiad menter gymdeithasol cyfleoedd dydd newydd i ddisodli’r ddarpariaeth flaenorol, ynghyd â hyrwyddo mwy o gyfleoedd yn y gymuned. Rydym wedi parhau â’n hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth â chymorth.
Fe ddywedom y byddem yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl yn ailsefydlu’n llwyddiannus o Wcráin i Sir Benfro.
- Rydym yn falch o fod wedi gwneud ein rhan yn cynorthwyo pobl a orfodwyd i adael Wcráin o ganlyniad i oresgyniad anghyfreithlon Rwsia o’u gwlad ym mis Chwefror 2022. Crëwyd partneriaeth ymfudo ymroddedig ac amlddisgyblaethol sydd, mewn partneriaeth ag asiantaethau partner eraill, yn cefnogi’r ymdrech i ailsefydlu pobl o Wcráin yn Sir Benfro.
Pobl Ifanc, Cymuned, Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol
Fe ddywedom ni y byddem yn lleihau nifer y plant mewn gofal trwy atal plant rhag dod i ofal a chefnogi plant i adael gofal yn ddiogel
- Ers 2022, bu cynnydd digynsail yn y galw am ofal cymdeithasol i blant. Mewn ymateb, yn 2024 fe wnaethom gynyddu capasiti yn ein Tîm Asesu Gofal Plant, ac yng ngwanwyn 2025 fe wnaethom roi pecyn cynhwysfawr o fesurau ataliol ar waith, a ariannwyd trwy ein rhaglen buddsoddi i arbed. Caiff hyn ei ategu gan gynigion cyllid cyfalaf yn ein cynllun comisiynu.
Fe ddywedom ni y byddem yn anelu at gael lleiafswm o chwe lle i blant mewn cartrefi sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor o fewn cyfnod y weinyddiaeth hon.
- Agorwyd cartref gofal preswyl West Lodge gennym yn 2024 sydd â lle i bedwar o bobl ifanc ar y mwyaf. Mae cynlluniau i ehangu gofal preswyl ymhellach wedi’u cynnwys yn ein Cynllun Comisiynu Strategol ar gyfer Gofal Cymdeithasol 2025-35 (yn agor mewn tab newydd) gyda dau brosiect yn cael eu dilyn yn weithredol sydd â’r potensial i ragori’n fawr ar ein targed ar gyfer 2022 erbyn 2027.
Fe ddywedom ni y byddem yn ehangu gofal maeth mewnol
- Fe wnaethom gynyddu nifer y lleoedd gofalwyr maeth mewnol a gofrestrwyd o 105 yn 2013 i 128 yn 2024 ond, oherwydd cynnydd digynsail yn y galw, mae angen i ni ehangu’r niferoedd ymhellach. Yn ddiweddar, fe wnaethom gytuno ar ystod o gymhellion newydd i bobl ddod yn ofalwyr maeth, gan gynnwys cymhelliant trawiadol i eithrio gofalwyr maeth Cyngor Sir Penfro rhag talu’r dreth gyngor.
Fe ddywedom ni y byddem yn hyrwyddo diwylliant gwirfoddoli o fewn Cyngor Sir Penfro er mwyn sicrhau ein bod yn arwain trwy esiampl
- Fe wnaethom weithio gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i ddatblygu strategaeth wirfoddoli ar gyfer Sir Benfro. Rydym wedi adfywio ein polisi gwirfoddoli presennol i weithwyr ac wedi gweld cynnydd yn y nifer sy’n dewis gwirfoddoli, gan wireddu manteision i’r gymuned yn ogystal â darparu ymarferion adeiladu tîm rhagorol.
Fe ddywedom ni y byddem yn datblygu gwasanaethau sy’n helpu i atal anghenion pobl rhag gwaethygu
- Fe wnaethom gyflwyno cerdyn mynediad am ddim i ofalwyr i Faenordy Scolton ac aelodaeth hamdden am ddim neu am bris gostyngol i gydnabod y gwaith diflino mae gofalwyr yn ei wneud ac i leihau’r risg o ynysigrwydd cymdeithasol.
- Rydym wedi buddsoddi yn y Tîm Asesu Gofal Plant a’i ehangu er mwyn sicrhau y gallwn ymateb yn brydlon i adroddiadau am les plant a sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel.
Fe ddywedom y byddem yn datblygu a gweithredu strategaeth i leihau tlodi a gwella ffyniant
- Rydym wedi cytuno ar strategaeth gwrth-dlodi sy’n cael ei datblygu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus amlasiantaeth. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn dod â sefydliadau sy’n mynd i’r afael â thlodi ynghyd mewn uwchgynadleddau tlodi blynyddol, ac yn ddiweddar cynhaliodd y gyntaf mewn cyfres o ymgyrchoedd manteisio ar fudd-daliadau sy’n targedu unigolion.
Gwasanaethau Preswylwyr a Hamdden
Fe ddywedom y byddem yn gwella gallu ein hasedau parthed llesiant cymunedol drwy drosglwyddo asedau cymunedol
- Rydym wedi symleiddio’r broses ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol ac mae trafodaethau gweithredol ar y gweill i drosglwyddo nifer o doiledau cyhoeddus i ofal y gymuned. Rydym wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros Faes Awyr Hwlffordd i gwmni awyrennau lleol gan sicrhau dyfodol y cyfleuster pwysig hwn heb unrhyw gost i’r trethdalwr lleol.
Fe ddywedom y bydden yn cynnal cyfraddau ailgylchu uchel
- Fe wnaethom adeiladu cam cyntaf y Parc Eco newydd yn Waterston, sy’n seilwaith hanfodol i sicrhau bod Sir Benfro yn parhau i fod yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru. Roedd ffigur 2023-24 yn 72% (yr ail uchaf yng Nghymru) a disgwylir i ffigur 2024-25 fod hyd yn oed yn uwch. Rydym hefyd wedi ehangu’r ystod o eitemau yr ydym yn eu casglu ar ochr y ffordd i gael eu hailgylchu i gynnwys eitemau trydanol bach.
Fe ddywedom y byddem yn cynnal ac yn gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
- O’i gymharu ag awdurdodau eraill, mae ein strydoedd yn parhau i fod yn lanach na’r hyn sy’n arferol ar draws Cymru. Rydym wedi rhoi contract ar waith i orfodi dirwyon am daflu sbwriel yn ogystal â chynghori ymwelwyr ar gyfyngiadau parthed cŵn ar draethau.
Fe ddywedom ni y byddem yn cadw ein priffyrdd mewn cyflwr da ac yn gwella diogelwch ffyrdd
- Rydym wedi gostwng terfynau cyflymder ledled y sir, gan gynnwys terfyn diofyn 20mya Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr a chynnal adolygiadau a gwelliannau parhaus. Rydym wedi parhau i weithredu mesurau diogelwch ffyrdd mewn ardaloedd, yn aml ar y cyd â buddsoddi mewn mesurau teithio llesol a llwybrau cyd-ddefnyddio. Agorwyd cyswllt rhwng Gorsaf Llanusyllt a’r pentref ar hyd Fan Road. Mae uwchraddio’r rhwydwaith presennol, megis Llwybr Brunel ynghyd â chael gwared ar rwystrau hefyd yn hyrwyddo beicio hamdden hygyrch i bob oed.
Fe ddywedom ni y byddem yn parhau i ddarparu ystod gynhwysfawr o gyfleusterau hamdden, diwylliannol a llyfrgell o ansawdd da
- Rydym wedi creu partneriaethau newydd i ddarparu gwasanaethau llyfrgell yn Neyland (a gynhelir yn Hwb Cymunedol Neyland) ac wedi agor llyfrgell gymunedol newydd yn Arberth, y ddau ohonynt yn cynnig cynllun mynediad agored sy’n galluogi ymweliadau â’r llyfrgell unrhyw bryd rhwng 6am a 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.
- Mae cynnydd da yn cael ei wneud i greu cyfleusterau diwylliannol newydd yng Nghastell Hwlffordd a Chei’r De, Penfro. Ym Mhenfro, bydd y cyfleuster cymunedol newydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion gofal cymdeithasol.
Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio
Fe ddywedom ni y byddem yn datblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd
- Fe wnaethom barhau i weithio ar Gynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer cymunedau Sir Benfro sydd y tu allan i’r parc cenedlaethol, a fydd yn llywio datblygiad yn y dyfodol. Bydd y cam olaf, sef yr archwiliad cyhoeddus, yn dechrau ym mis Hydref 2025 a disgwylir y bydd y cynllun newydd wedi cael ei fabwysiadu erbyn mis Tachwedd 2026. Bydd CDLl 2 yn ceisio cyflawni’r lefel ganlynol o dwf dros gyfnod y cynllun rhwng 2017 a 2033: 5,840 o gartrefi newydd a 1,970 o swyddi newydd, ond gyda’r posibilrwydd o 1,000 o swyddi pellach yn cael eu creu yn ystod cyfnodau cychwynnol cynigion y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Fe ddywedom y byddem yn cyflymu’r broses o wneud penderfyniadau cynllunio
- Ers mis Rhagfyr 2022, mae canran y ceisiadau cynllunio a wnaed o fewn yr amserlenni wedi bod yn uwch na 90% ac ers mis Ebrill 2024, mae’r ganran fel arfer wedi bod yn uwch na 98%. Cyflawnwyd hyn drwy ddatblygu’r tîm cynllunio drwy recriwtio hyfforddeion cynllunio, a hynny yng nghyd-destun cymhlethdod cynyddol parthed y ffactorau y mae angen i gynllunwyr eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.
Fe ddywedom ni y byddem yn gwella gorfodi cynllunio, gan sicrhau bod y system gynllunio’n parhau i fod yn deg i bawb.
- Fe wnaethom recriwtio Tîm Gorfodi, ac mae nifer yr achosion gorfodi sydd heb eu datrys wedi lleihau dros ddwy ran o dair ers mis Ebrill 2023. Mabwysiadwyd protocol gorfodi cynllunio i gyfleu disgwyliadau ac i helpu i ddatrys problemau yn gynnar.
Fe ddywedom ni y byddem yn darparu gwasanaeth rheolaeth adeiladu o ansawdd uchel
- Mae ein tîm rheolaeth adeiladu wedi bodloni’r holl ofynion cofrestru newydd ac wedi dangos bod aelodau’r tîm yn meddu ar y lefelau cymhwysedd priodol. Mae’r ffaith bod ein gwasanaeth rheolaeth adeiladu yn gyfrifol am 91% o’r farchnad o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o oddeutu 60% yn arddangos yr hyder sydd gan y diwydiant yn y tîm.
Fe ddywedom y byddem yn cryfhau ein cyfraniad i’r agenda adfer natur
- Rydym wedi parhau i gyflawni prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, a thynnwyd grantiau refeniw a chyfalaf gwerth £2.7 miliwn i’r sir ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2023-2025. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys gwelliannau sy’n gyfeillgar i natur yn Fortune’s Frolic yn Hwlffordd ac yng ngerddi amlosgfa Arberth.
Fe ddywedom ni y byddem yn cefnogi amgylcheddau byw a gweithio diogel drwy ddarparu gwasanaethau diogelu’r cyhoedd yn effeithlon ac yn effeithiol
- Rydym wedi delio â dros 5,500 o geisiadau gwasanaeth ar gyfer trwyddedu a gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ac wedi cyflwyno sawl achos llys yn ymwneud â safonau masnach, iechyd cyhoeddus ac iechyd anifeiliaid.
- Er mwyn mynd i’r afael â heriau recriwtio parhaus rydym wedi cyflwyno porth a thaliadau ‘croeso euraidd’, sydd wedi arwain yn llwyddiannus at weithwyr newydd yn cael eu recriwtio i’r gwasanaeth.
Addysg a’r Gymraeg
Fe ddywedom y byddem yn galluogi pob dysgwr, waeth beth fo’i gefndir, i fod y gorau y gall fod
- Rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws y rhanbarthau, ysgolion a’u cyrff llywodraethu i wella addysgu a chanlyniadau addysgol. Nid oes yr un o’n hysgolion bellach o dan gategori ymyrraeth Estyn. Mae’r camau rydym wedi’u cymryd i gyflawni hyn yn cynnwys cyflwyno’r rhaglen bartneriaeth Gwella Ysgolion ac annog ysgolion i weithio mewn clystyrau gyda chynlluniau o ansawdd da. Mae ein rhaglen datblygu arweinyddiaeth ysgolion, 50Penfro, yn cael effaith ardderchog ar ein gallu i ddarparu’r staff ysgol uwch a’r penaethiaid sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol.
Fe ddywedom y byddem yn darparu prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd erbyn mis Medi 2023
- Fe wnaethom gwblhau’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Rydym yn parhau i hyrwyddo’r cynllun i annog mwy i fanteisio arno, yn enwedig plant o deuluoedd incwm isel.
Fe ddywedom y byddem yn creu amgylchedd meithringar ac yn ysbrydoli pob dysgwr
- Rydym wedi cyflwyno ymarfer sy’n ystyriol o drawma ar draws ein holl ysgolion, ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar nifer y gwaharddiadau, sy’n is nag unrhyw sir arall yng Nghymru.
- Fe wnaethom ehangu’r rhaglen datblygu blynyddoedd cynnar Dechrau’n Deg i wasanaethu Abergwaun ac Wdig a chyflwyno’r rhaglen Sbardun+ ynghyd â darpariaeth ddysgu deuluol mewn un ar ddeg o ysgolion cynradd.
Fe ddywedom y byddem yn moderneiddio ysgolion gan eu gwneud yn lleoedd addas i bobl ifanc ddysgu ynddynt (ein rhaglen Dysgu Cynaliadwy)
- Cwblhawyd y gwaith o adeiladu ysgol uwchradd newydd Hwlffordd ym mis Awst 2022, ochr yn ochr â chyfleusterau chwaraeon newydd rhagorol y gall y gymuned eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. Cwblhawyd Bro Penfro, ysgol cyfrwng Cymraeg (a sero net), ym mis Medi 2024. Mae disgwyl i gam un Ysgol Portfield fod wedi’i gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb erbyn Ionawr 2026. Mae’r ysgolion newydd hyn yn amgylcheddau dysgu addas i’r diben, ac rydym yn gwneud cynnydd da parthed cynigion ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd Cymraeg a Saesneg yn Aberdaugleddau.
Fe ddywedom y byddem yn cyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
- Rydym wedi gwneud cynnydd yn erbyn y cynllun hwn, gydag adroddiadau blynyddol yn cael eu hystyried gan y cabinet. Mae’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn un ffordd yr ydym yn gwneud ein rhan i gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Fe ddywedom y byddem yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r Gymraeg a diwylliant Cymru
- Mae cael ein dewis i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026 yn anrhydedd ac rydym yn gweithio gyda’r gymuned ac awdurdodau cyfagos i ddathlu’r iaith a’r diwylliant Cymreig yn y digwyddiad mawreddog hwn.
ID: 9734, adolygwyd 15/10/2025