Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Cyllid
Cenhadaeth
Byddwn yn gweithio'n arloesol ac yn ddarbodus i gyflawni'r Rhaglen Weinyddu o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael, cyfyngiadau o ran graddfeydd amser ac ansawdd.
Penawdau
Byddwn yn:
- Gweithio gyda'r holl randdeiliaid i gytuno ar gyllideb fforddiadwy, fantoledig flynyddol ac yna’i chyflawni fel rhan o Gynllun Ariannol Tymor Canolig cynaliadwy ac ymatebol.
- Gweithio tuag at gyflwyno gwybodaeth “fyw” i randdeiliaid am faterion ariannol ac adnoddau.
- Mynd ati’n barhaus i wella ein prosesau busnes a'n cynhyrchiant i ddarparu gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y diben am y gost gynaliadwy isaf.
- Cyfleu'r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Cyngor mewn ffordd glir ac argymell mesurau priodol i liniaru bygythiadau a gwneud y gorau o gyfleoedd.
- Mynd ar drywydd cyfleoedd 'buddsoddi i arbed' ac 'ailgyflunio gwasanaethau' i ddwyn arbedion ac effeithlonrwydd yn y dyfodol.
- Adnabod ffrydiau incwm amgen i helpu i gau bylchau o ran y cyllid gan ddefnyddio pŵer cymhwysedd cyffredinol y Cyngor.
- Argymell opsiynau blaenoriaethu i ddiogelu gwasanaethau statudol a'r rhai y mae eu hangen ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein Sir.
- Casglu barn cymaint o drigolion â phosibl trwy'r ymgynghoriad blynyddol â rhanddeiliaid ynghylch y gyllideb.
- Sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio'n llawn â'r holl rwymedigaethau statudol ariannol
ID: 9742, adolygwyd 09/03/2023