Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027

Addysg

Cenhadaeth

Byddwn yn gwneud Sir Benfro yn lle gwych i ddysgu, byw a thyfu ynddo.

Penawdau

  • Byddwn yn:
  • Galluogi pob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir, i fod y gorau y gallant fod.
  • Darparu prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd erbyn mis Medi 2023.
  • Creu amgylchedd yn llawn anogaeth ac ysbrydoli pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol, yn alluog, yn hyderus, yn gyfrifol ac yn gydnerth.
  • Cynorthwyo ysgolion i greu llwybrau a chwricwla o safon uchel ar gyfer dysgwyr, a byddwn yn creu gwelliant cynaliadwy i alluogi ein hysgolion i fod â pherfformiad uchel.
  • Parhau i gyflawni ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, gan fuddsoddi yn Ysgol Portfield, Ysgol Bro Penfro, Ysgol Gynradd Aberdaugleddau ac Ysgolion Uwchradd Aberdaugleddau.
  • Darparu dulliau ysgol gyfan o fynd ar drywydd iechyd meddwl a lles ar gyfer ein dysgwyr.
  • Parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu i gyflawni rhagoriaeth.
  • Cyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
  • Buddsoddi ymhellach mewn technolegau digidol trwy ein rhaglen Technoleg Addysg mewn cydweithrediad â Hwb.
  • Creu partneriaethau ardderchog gyda busnesau i ddatblygu sgiliau ac economi'r dyfodol.
  • Datblygu dulliau sy’n ystyriol o blant a chyflawni ein rhwymedigaethau’n llawn dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
  • Cyflawni ein prosiect blaenaru’r blynyddoedd cynnar a gwella gwasanaethau i'n teuluoedd a'u plant ieuengaf.
  • Ehangu ein harlwy Dechrau'n Deg i Abergwaun ac Wdig, a chyflwyno darpariaeth dysgu-fel-teulu Springboard mewn ysgolion cynradd targed sydd â chyfraddau tlodi plant uwch.
  • Cyflawni ein hymrwymiad i ddiogelu dysgwyr ar y cyd â'n cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol.
  • Gwella a datblygu clystyrau ein hysgolion i ddarparu datblygu cynaliadwy hirdymor i'n holl ddysgwyr.
  • Cyflawni gwaith ieuenctid cymunedol a rhaglenni yn ystod gwyliau ysgol ledled y Sir.
ID: 9737, adolygwyd 09/03/2023