Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027

Rhaglen Weinyddu ar gyfer Cyngor Sir Penfro 2022-2027

Mae gan y Cyngor rôl arwain bwysig o ran trefnu’r math o le y mae arnom eisiau i Sir Benfro fod yn y dyfodol ac mae ein gweledigaeth ar y cyd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Mae Sir Benfro yn lle gwych i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef
  • Mae ein pobl ifanc a'n dysgwyr yn cael addysg o safon uchel
  • Mae pobl fregus yn cael gofal a chymorth trwy eu cylch oes
  • Mae tai priodol ar gael, yn hygyrch ac yn fforddiadwy
  • Mae Sir Benfro’n sir â statws carbon net, sy'n arwain y ffordd o ran ynni adnewyddadwy gwyrdd a glas
  • Mae llai o deuluoedd ac aelwydydd yn profi tlodi ac anghydraddoldeb
  • Mae ein cymunedau'n weithgar ac yn ffynnu
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i genedlaethau'r dyfodol drwy'r pethau yr ydym yn eu gwneud heddiw

Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn cymryd amser, ymdrech ac ymrwymiad wrth i ni barhau i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd dros y 5 mlynedd flaenorol.

Mae ein Rhaglen Weinyddu wedi’i threfnu o gwmpas portffolios aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro ac mae wedi'i bwriadu i'n helpu i gyrraedd lle’r ydym am fod ac i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Ym mhob achos bydd yr aelod Cabinet perthnasol yn gyfrifol am ei rannau unigol o'r Rhaglen sy'n ymwneud â'i bortffolio, ond mae'r Cabinet cyfan yn croesawu cydgyfrifoldeb am y rhaglen gyfan, dan arweiniad Arweinydd y Cyngor gyda'i gyfrifoldeb portffolio am Faterion Corfforaethol. Mewn llawer o achosion, bydd rhannau unigol o'r rhaglen yn golygu bod angen i ddau neu fwy o Aelodau’r Cabinet a chyfarwyddiaethau gwasanaethau gydweithio'n agos gyda'i gilydd.

Er bod y rhan fwyaf o feysydd portffolio’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen i'n trigolion, mae rhai – megis Gwella Corfforaethol, Cyllid a Chymunedau – yn darparu'r sylfeini ar gyfer gwaith y Cyngor yn ei gyfanrwydd, gan gryfhau ein gallu cyfunol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon. Mae rhai egwyddorion allweddol yn sail i'r dull hwn: byddwn yn ystwyth, yn arloesol ac yn uchelgeisiol, a byddwn yn meithrin perthynas gref a chynaliadwy â'n partneriaid, rhanddeiliaid allweddol a chymunedau.

Mae’r rhaglen hon wedi’i bwriadu i gyflawni newid cadarnhaol a pharhaol ar gyfer Sir Benfro ac edrychwn ymlaen at ei chyflawni gyda'n swyddogion, Cynghorwyr, partneriaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac yn bwysicaf oll gyda chymunedau a phobl Sir Benfro

ID: 9732, adolygwyd 09/03/2023