Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Cymunedau
Cenhadaeth
Byddwn yn cefnogi cymunedau Sir Benfro, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy i helpu i adeiladu cymunedau byw, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol.
Byddwn yn canolbwyntio ar yr egwyddorion allweddol canlynol:
- Prosesau penderfynu cymunedol: Cynnwys cymunedau a dinasyddion yn fwy ystyrlon wrth wneud penderfyniadau lleol.
- Cydweithio â chymunedau: Newid o’r ffyrdd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn draddodiadol wedi bod yn gweithio, sef o’r brig i lawr, i ddulliau mwy cydweithredol sy'n cynnwys ein hasiantaethau partner a'n cymunedau fel partneriaid hanfodol.
- Meithrin capasiti, gallu a hyder cymunedol: Helpu i arfogi cymunedau â'r adnoddau a'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i gyfranogi go iawn mewn gweithredu lleol.
Penawdau
Byddwn yn:
- Helpu cymunedau i wneud mwy drostynt hwy eu hunain.
- Gwella iechyd a lles unigolion, gan fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.
- Gwella cyfranogiad democrataidd, cynyddu amrywiaeth a hybu ymddiriedaeth.
- Gwreiddio dulliau atal ac ymyrryd yn gynnar mewn gwasanaethau cyhoeddus.
- Newid o ‘reoli angen’ i 'greu gallu'.
- Cysylltu bwriadau da ac adnoddau CSP â gwybod ymarferol leol a gweithredaeth gymunedol.
- Gweithio mewn ysbryd o gydweithio â'n hasiantaethau partner.
- Meithrin gwell dealltwriaeth am ein cymunedau gan ddefnyddio data a mewnwelediadau lleol.
- Cynyddu ein gweithgarwch i ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned.
- Lleihau biwrocratiaeth a chynyddu hyblygrwydd, yn enwedig o ran Gwella Grant Sir Benfro a Throsglwyddo Asedau Cymunedol.
- Darparu arweinyddiaeth i wella effeithlonrwydd ac effaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Hyrwyddo diwylliant gwirfoddoli o fewn CSP fel ein bod yn arwain trwy esiampl.
- Ceisio sicrwydd mai'r buddsoddiadau yr ydym yn eu gwneud yw'r rhai cywir, gan gydnabod hefyd y bydd yr effaith yn un hirdymor
ID: 9744, adolygwyd 16/04/2023