Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027

Cynllunio

Cenhadaeth

Byddwn yn llunio ac yn gwella amgylchedd Sir Benfro, ac yn cyflawni rôl hanfodol o ran darparu tai, cynnal a denu busnesau, taro cydbwysedd o ran effeithiau datblygiadau ar gymunedau a chyfrannu at ymateb y Cyngor i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Penawdau

Byddwn yn:

  • Cryfhau rôl strategol cynllunio i roi cymorth i gyflawni twf tai a chyflogaeth yn y Sir.
  • Bwrw ymlaen â chyflawni Cynllun Datblygu Lleol 2, gan ddefnyddio cyngor polisi interim i sicrhau bod ein dull gweithredu’n gyson â chyfeiriad polisi cenedlaethol lle y bo hynny'n briodol.
  • Creu Cynllun Datblygu newydd (CDLl2) ar gyfer Sir Benfro sy’n uchelgeisiol ac yn canolbwyntio’n ddiedifar ar dwf,  gan gefnogi a galluogi twf tai sylweddol a chysylltu’n ddi-dor â rhai ein partneriaid ar draws y rhanbarth a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  • Bwrw ymlaen â chyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer De Orllewin Cymru trwy'r Cydbwyllgorau Corfforedig.
  • Cychwyn rhaglen wella gan arwain at benderfynu ynghylch 90% o’r holl geisiadau cynllunio o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt, a bod yn gyson o fewn chwarter uchaf holl Awdurdodau Cynllunio Lleol Cymru mewn perthynas â monitro perfformiad gan Lywodraeth Cymru.
  • Sicrhau bod gorfodi (sy'n dal i fod yn ddewis olaf), yn cael ei ddefnyddio’n briodol, a chlirio'r ôl-groniad hanesyddol o achosion gorfodi, cynyddu adnoddau ymchwilio, diogelu'r gwasanaeth at y dyfodol ac adolygu prosesau a pholisi presennol.
  • Symud achosion gorfodi ymlaen i’r cam erlyn a sicrhau bod achosion llwyddiannus yn cael eu cyfleu i'r cyhoedd, gyda golwg ar godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau posibl datblygu heb awdurdod.
  • Archwilio gwelliannau o ran TG i gynyddu tryloywder y gwasanaeth cynllunio a gwella'r broses ar gyfer swyddogion cynllunio, ymgeiswyr a'r gymuned.
  • Cryfhau ein cyfraniad i'r agenda adfer natur, gan weithio mewn partneriaeth i wneud y gorau o gyfleoedd i gael cyllid a chyflawni gwelliannau i fioamrywiaeth ar raddfa fawr.
  • Darparu gwasanaeth Rheoli Adeiladu o ansawdd da a chodi proffil gwaith y tîm.
  •  
ID: 9740, adolygwyd 09/03/2023