Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Gofal cymdeithasol
Cenhadaeth
Byddwn yn cynorthwyo pobl â gofal a chymorth priodol i fyw yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl agored i niwed yn ddiogel.
Penawdau
Byddwn yn:
- Cyflwyno cyfradd tâl isafswm ar gyfer gweithwyr gofal cartref sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl o £11.50 yr awr a hynny o 2023, gan werthfawrogi'r gwaith proffesiynol ac anodd y mae gofalwyr yn ei wneud mewn modd priodol.
- Tyfu ein presenoldeb darparu’n uniongyrchol ac ailbennu cydbwysedd y farchnad. Bydd hyn yn golygu buddsoddi mewn tyfu a/neu ddatblygu cartrefi gofal sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor.
- Parhau i ddatblygu hyfforddeiaethau gweithwyr cymdeithasol, gan adeiladu ar ein dull 'tyfu ein talent ein hunain' o gynyddu nifer y gweithwyr cymdeithasol i ateb y galw.
- Hyrwyddo gofal cymdeithasol fel gyrfa o ddewis gyda'r cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan ddatblygu llwybr gyrfa.
- Datblygu a gweithredu strategaeth i leihau tlodi a gwella ffyniant.
- Amcanu at fod ag o leiaf 6 lle i blant mewn cartrefi sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor yng nghyfnod y weinyddiaeth hon.
- Gostwng niferoedd y plant mewn gofal trwy atal plant rhag dod i mewn i’r system ofal a chynorthwyo plant i adael gofal yn ddiogel.
- Creu gallu i ddarparu gwasanaethau gofal i bobl agored i niwed y mae eu hangen arnynt, gan feithrin cydnerthedd i ymateb i fethiant a heriau'r farchnad.
- Datblygu ystod o gyfleoedd dydd a gwasanaethau seibiant ystyrlon i deuluoedd a gofalwyr unigol.
- Adeiladu marchnad amrywiol a bywiog, sy'n cynnwys datblygu micro-fentrau a mentrau cymdeithasol, ailbennu cydbwysedd y farchnad a strategaeth gomisiynu mewn ymateb i adroddiad sefydlogrwydd y farchnad.
- Gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau bod pobl yn cael darpariaeth ddi-dor a chydgysylltiedig a sicrhau nad oes neb y mae angen cymorth arnynt yn cael eu gadael yn y bylchau rhwng gwasanaethau.
- Parhau i adnabod a gweithredu dulliau effeithiol o fynd ar drywydd cynhwysiant digidol a gofal a chymorth a alluogir gan dechnoleg.
- Cynyddu’r nifer sy'n manteisio ar daliadau uniongyrchol.
- Gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod pobl o Wcráin yn cael eu hadsefydlu’n llwyddiannus yn Sir Benfro.
ID: 9738, adolygwyd 09/03/2023