Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Gwasanaethau Trigolion
Cenhadaeth
Byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau ar ddarparu 'hanfodion gwych' – gwasanaethau craidd fel priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu'r cyhoedd a hamdden a diwylliant – sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd cymunedau, gan sicrhau bod trigolion yn byw mewn cymdogaethau sy’n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llesol.
Penawdau
Byddwn yn:
- Cynyddu potensial ein hasedau (tir ac adeiladau) i’r eithaf i wella llesiant cymunedol a gweithgarwch creu lleoedd trwy, er enghraifft, ddefnyddio prosesau trosglwyddo asedau cymunedol.
- Cynnal ein perfformiad fel un o'r awdurdodau ailgylchu gorau yn y DU trwy, er enghraifft, fuddsoddi mewn Parc Eco o'r radd flaenaf a chefnogi prosiectau economi gylchol.
- Cynnal a cheisio gwella ansawdd amgylcheddol lleol (ar strydoedd, tir y cyhoedd, parciau, cefn gwlad a thraethau) trwy, er enghraifft, ffocws ar leihau troseddau amgylcheddol.
- Cynnal a cheisio gwella bioamrywiaeth ac ecoleg ledled Sir Benfro yn unol â'n dyletswyddau dan Ddeddf yr Amgylchedd.
- Cynnal a chadw ein priffyrdd mewn cyflwr da, gwella diogelwch ar y ffyrdd a cheisio gwella ac estyn y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
- Parhau i gefnogi teithio llesol trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau hygyrch, llwybrau cyd-ddefnyddio a chludiant cyhoeddus, yn unol â Siarter Teithio Iach Cymru.
- Parhau i ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o gyfleusterau a rhaglenni hamdden, llyfrgelloedd a diwylliannol o ansawdd da sy'n cefnogi iechyd a llesiant ein trigolion.
- Gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnal diogelwch y cyhoedd.
- Parhau i gefnogi digwyddiadau mawr sy'n dwyn manteision economaidd a chymunedol, a chodi proffil y sir.
- Cefnogi amgylchedd byw a gweithio diogel trwy ddarparu gwasanaethau diogelu’r cyhoedd mewn modd effeithlon ac effeithiol.
ID: 9741, adolygwyd 09/03/2023