Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027
Gwella Corfforaethol
Cenhadaeth
Byddwn yn cynnig arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu cryf i hwyluso gwaith i gyflawni blaenoriaethau Sir Benfro, yn y tymor byr a'r tymor hir. Byddwn yn canolbwyntio ar bedwar prif faes, sef:
- Llywodraethu
- Ffocws ar gwsmeriaid
- Pobl a diwylliant sefydliadol
- Digidol, data a thechnoleg
Byddwn yn tanategu’r rhain trwy barhau i ddatblygu ein gweithgarwch cyfathrebu, meithrin perthynas wych â rhanddeiliaid, a darparu arweinyddiaeth gref, gan wleidyddion a rheolwyr.
Penawdau
Byddwn yn:
- Ymegnïo i ddarparu cyfundrefn lywodraethu gref ac effeithiol, sy’n ymwybodol o risg (ond nid yn amharod i dderbyn risg).
- Cefnogi perthnasoedd adeiladol, gyda phawb yn parchu ei gilydd, ar draws y Cyngor.
- Buddsoddi mewn datblygu a chynorthwyo Aelodau Etholedig i wireddu eu potensial i sicrhau’r gorau dros eu cymunedau.
- Gwneud dinasyddion, cymunedau a busnesau’n ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud.
- Newid o gynnig cwsmer traddodiadol i brofiad aml-sianel, digidol, modern i gefnogi'r holl ddinasyddion.
- Gwella hygyrchedd, dewis a phrofiad ein cwsmeriaid pan ydynt yn ymwneud â'r cyngor, gan ddylunio gwasanaethau o amgylch anghenion cwsmeriaid a dinasyddion.
- Ymegnïo i ddod yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar berfformiad ac sy'n darparu gwasanaethau modern, effeithiol ac effeithlon.
- Cynorthwyo ein pobl i gyflawni eu llawn botensial, a lansio arolwg ymgysylltu ar gyfer y staff cyfan, i wrando ar ein staff a gweithredu ar feysydd y mae angen eu gwella.
- Cefnogi newid ac arloesi, a chefnogi gweithlu sy'n fwy ystwyth ac yn fwy hyblyg o ran sut, pryd a ble y mae'n darparu gwasanaethau.
- Parhau â'n hymgais i fod yn Gyngor sy'n gymwys yn ddigidol ac yn cael ei lywio gan ddata, er mwyn ei gwneud yn bosibl dadansoddi, gwneud penderfyniadau a thargedu adnoddau yn fwy effeithiol.
- Rhyngweithio a chyfathrebu â chwsmeriaid a darparu gwasanaethau gan ddefnyddio ystod o dechnolegau digidol.
ID: 9743, adolygwyd 05/04/2023