Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027

Newid Hinsawdd

Cenhadaeth

Byddwn yn cyrraedd ein targed i fod yn Gyngor carbon sero net, ac yn gweithio tuag at ddatgarboneiddio'r system drafnidiaeth dros y tymor hwy.

Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd arloesol at ddiogelu a hyrwyddo ein hamgylchedd a'n gallu i ymaddasu i newid hinsawdd.

Penawdau

Byddwn yn:

  • Hyrwyddo pwysigrwydd cynaliadwyedd amgylcheddol, gan ennill calonnau a meddyliau fel bod pawb yn ein cymunedau yn cael eu hysbrydoli i wneud eu rhan.
  • Parhau i fod yn awdurdod lleol sydd ar flaen y gad o ran ailgylchu.
  • Cael gwared ar garbon o weithrediadau'r Cyngor boed hynny’n golygu goleuadau stryd, gwresogi ein hadeiladau corfforaethol neu o'r allyriadau o bibellau gwacáu ein fflyd cerbydau.
  • Buddsoddi mewn cludiant cyhoeddus a seilwaith i gefnogi'r newid i gerbydau sy’n defnyddio tanwydd trydan/hydrogen.
  • Datblygu rhwydwaith o lwybrau beicio a cherdded rhwng 10 o'n trefi i leihau'r defnydd o geir ac annog pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.
  • Rheoli ein tir a'n hasedau i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei wella a'i ddiogelu.


 

ID: 9736, adolygwyd 09/03/2023