Cabinet Rhaglen Weinyddu 2022-2027

Tai

Cenhadaeth

Byddwn yn arloesol wrth ymdrin â'r heriau tai yr ydym yn eu hwynebu trwy sicrhau bod gan bobl Sir Benfro fynediad at gartref addas sydd o safon uchel, yn fforddiadwy ac yn gwella’u hansawdd bywyd.

Penawdau

Byddwn yn:

  • Mynd ati’n uniongyrchol i adeiladu hyd at 300 o unedau tai newydd erbyn 2027 ynghyd â symud ymlaen gyda datblygu ein tai gwarchodol i bobl hŷn a darpariaeth byw â chymorth.
  • Darparu tai’n gyflymach yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynyddu'r ystod o brosiectau tai fforddiadwy gan gynnwys datblygu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol (CLTs) a threfnu bod lleiniau llai o dir y Cyngor ar gael i’r rhai sy'n chwilio am gyfleoedd hunan-adeiladu. Bydd hyn yn helpu i dyfu cyflenwad tai Sir Benfro.
  • Gweithio i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal, ei fod yn fyr, yn brin ac nad yw’n cael ei ailadrodd.
  • Gweithio gyda landlordiaid a chynorthwyo landlordiaid yn y sector rhentu preifat yn wyneb cyflenwad sy'n lleihau.
  • Bod yn ymatebol i raddfa a chyflymder y newid ym maes rheoleiddio’r sector rhentu preifat a deddfwriaeth ar ail gartrefi / llety gwyliau gan beidio â cholli golwg ar ein nod i sicrhau bod Sir Benfro yn dal i fod yn lle gwych i fyw ynddo ac ymweld ag ef.
  • Gweithio gyda chydweithwyr ym maes Adfywio i wneud canol ein trefi’n lleoedd gwych i fyw ynddynt unwaith eto trwy fynd i'r afael â phla eiddo gwag hirdymor.
  • Provide gwasanaeth landlord o ansawdd da sy'n gwrando ac yn ymateb i anghenion ein tenantiaid.
  • Adnabod cyfleoedd i adfywio ein hystadau presennol gan hefyd dyfu ein stoc dai a gwella'r amgylchedd ar yr un pryd.
  • Gweithio tuag at ddatgarboneiddio ein stoc dai ein hunain yn ogystal â chynorthwyo deiliaid tai preifat i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
ID: 9739, adolygwyd 09/03/2023