Cadwraeth
Dyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru)
Yng Nghymru mae fframwaith o ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau cysylltiedig sydd wedi’u datblygu i arwain camau gweithredu i gynnal a gwella bioamrywiaeth a sicrhau defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol.
Mae’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau (dyletswydd Adran 6) a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled ag y bod hynny’n gyson â chyflawni eu swyddogaethau yn briodol gan hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau drwy wneud hynny.
Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn cydweithio i ddatblygu camau gweithredu o fewn y sefydliad sy'n bodloni'r ddyletswydd hon ar draws yr Awdurdod. Byddwn yn adrodd mewn perthynas â'r cynllun hwn bob tair blynedd. Lluniwyd yr adroddiad byr cyntaf yn 2019 a disgwylir yr adolygiad nesaf yn 2022.
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Cynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Adran 6
Adroddiad Byr dan Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2022
Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Adroddiad Byr 2019
Cynlluniau cysylltiedig
Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Sir Benfro (Rhan 1) yn gosod y cyd-destun strategol ar gyfer camau gweithredu i warchod a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau yn y Sir. Mae'n nodi’r prif themâu ar gyfer gweithredu.
Mae diogelu ein hamgylchedd hefyd yn un o bedair blaenoriaeth allweddol Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro.
Mae ceisio gwella enw da Sir Benfro fel lle sydd ag ansawdd amgylcheddol eithriadol hefyd yn un o amcanion Cynllun Corfforaethol y Cyngor Sir.