Cadwraeth

Cyflwyniad a Chyd-destun

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 - Adran 6

Mae Cyngor Sir Penfro (CSP) yn sefydliad:

  • sy'n berchen ar neu’n meddiannu adeilad swyddfa ac nid yw eu swyddogaethau wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â bioamrywiaeth a/neu reoli tir.
  • sy'n berchen ar, yn meddiannu, neu'n rheoli tir a'u hadeiladau a'u tiroedd eu hunain, ac y mae eu swyddogaethau'n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir, neu gallent ddylanwadu ar y rhai sy'n berchen ar dir neu'n ei reoli.
  • sy'n berchen ar dir neu'n ei reoli y tu hwnt i'w tiroedd eu hunain, p'un a yw eu swyddogaethau'n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir ai peidio.
    • Is-Sir VC 45 er nad oes ganddynt Swyddogaeth Gynllunio ar gyfer yr ardal o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP);
    • Mae Cyngor Sir Penfro (CSP) yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (DLlCD), maent yn aelod statudol o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae ganddynt gynllun llesiant cyhoeddedig
  • Mae gwella bioamrywiaeth yn cyfrannu at, ac yn cael ei effeithio gan, ymrwymiad CSP i gefnogi Partneriaeth Natur Sir Benfro, Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau a chan eu rôl fel Cynrychiolydd CLlLC ar Grŵp Llywio Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig Llywodraeth Cymru.
  • Mae Tîm Cadwraeth CSP yn cynnwys Swyddog Tir Comin, Swyddog Map Diffiniol, Swyddog Tirwedd, Swyddog Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Ecolegydd Cynghorol Arbenigol (swydd sy’n darparu swyddogaeth cynllunio ecoleg ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro), Swyddog Bioamrywiaeth, ac maent hefyd yn lletya'r Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth (Partneriaeth Natur Sir Benfro).
  • Mae polisïau, amcanion, dangosyddion perfformiad a threfniadau monitro corfforaethol perthnasol wedi'u hymgorffori ar draws yr adrannau, a bydd pob ardal yn debygol o ddatblygu dull o adrodd am weithgareddau A6 gan gyfeirio at gynllun CSP A6. Caiff hyn ei gydlynu gan y Swyddog Bioamrywiaeth. 
  • Mae gwella bioamrywiaeth yn cefnogi polisïau a chynlluniau eraill ar draws yr awdurdod ac mae amcanion a chamau gweithredu penodol o fewn y cynlluniau hyn:  
  • Cynllun Llesiant 2018-19
    • Diogelu ein hamgylchedd (Blaenoriaeth 4, ac Amcan 5)
  • Prosiectau'r Cynllun Llesiant – Asesiad Risg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd.
  • Cynllun Corfforaethol a Rhaglen Weinyddu 2019-20
    • Byddwn yn annog balchder yn Sir Benfro, ardal sy'n ceisio hyrwyddo a gwella ei henw da fel lle ag ansawdd amgylcheddol eithriadol (Amcan 5, a gaiff ei fonitro bob chwarter). Camau gweithredu - cynnal a gwella ansawdd pob agwedd ar yr amgylchedd yn Sir Benfro a'i fioamrywiaeth naturiol (i’w fonitro bob chwarter).
  • Cynllun Gwasanaeth Cynllunio 2019-20
    • Amcan - Edrych ar sut rydym yn rheoli ein tir er mwyn gwella seilwaith gwyrdd, gan gynnwys, er enghraifft, creu coridorau bywyd gwyllt i hwyluso symudiad rhywogaethau o un ardal i'r llall a helpu poblogaethau presennol o rywogaethau allweddol i fod yn fwy cadarn (PL1901-5.2, i’w fonitro bob chwarter).

 

ID: 8528, adolygwyd 09/03/2023