Camddefnyddio sylweddau, alcohol a chyffuriau eraill
Camddefnyddio sylweddau, alcohol a chyffuriau eraill
Defnydd o alcohol a chyffuriau eraill:
Mae defnydd o alcohol a chyffuriau eraill yn aml yn cychwyn ym mlynyddoedd yr arddegau, yn arbrofol, ac yn digwydd gyda chyfoedion ac mae'r math o alcohol neu gyffuriau a ddefnyddir yn cael ei ddylanwadu gan argaeledd i grŵp cyfoedion. Ar gyfer llawer o bobl, ni fydd hyn yn dod yn broblematig, ond bydd eraill yn ei chael hi'n anodd teimlo'n dda am fywyd heb ddefnyddio alcohol a/neu gyffur arall, yn enwedig pan fydd yn eu helpu i fyw gyda thrawma. Gall defnydd parhaus wedyn arwain at ddibyniaeth gorfforol a/neu seicolegol a bydd angen cymorth proffesiynol ar rai pobl i leihau'r niwed sy’n gysylltiedig â'u defnydd o alcohol a/neu gyffur arall neu i sicrhau ymataliad.
Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Oedolion Sir Benfro:
Caiff gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer oedolion sy'n byw neu sydd wedi cofrestru’n ddigartref yn Sir Benfro eu darparu gan nifer o wahanol wasanaethau. Yn y trydydd sector, mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD) a gwasanaeth cefnogaeth tenantiaeth Adferiad Recovery (CAIS yn gynt). Yn y sector statudol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Penfro yn cydweithio fel y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol.
Mae gwasanaethau a ddarperir gan GCAD yn cynnwys ymyriadau lleihau niwed megis gwasanaeth cyfnewid nodwyddau a chyngor ar chwistrellu’n fwy diogel, darparu naloxone, a phrofi am firysau a gludir yn y gwaed. Hefyd darperir ymgysylltiad â thriniaeth strwythuredig a thriniaeth sy'n canolbwyntio ar adferiad, a hynny ar lefel bersonol ac mewn grwpiau. Bydd GCAD hefyd yn cynnig cymorth i unrhyw un yr effeithir arno gan ddefnydd rhywun arall o alcohol a/neu gyffuriau. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Gwasanaethau Gorllewin (yn agor mewn tab newydd)
Mae Adferiad Recovery yn cynnig cymorth i bobl sy'n ddigartref neu sydd angen cymorth i reoli tenantiaeth sy'n gysylltiedig â'u defnydd o alcohol a/neu gyffuriau eraill. Mae Adferiad Recovery hefyd yn rheoli prosiect tai â chymorth pedair ystafell ar gyfer y rhai nad ydynt yn barod i ddychwelyd i denantiaeth ar ôl cwblhau triniaeth gymunedol neu breswyl yn llwyddiannus.
Mae Gwasanaeth Iechyd y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol yn darparu asesiad cynhwysfawr a thriniaeth wedi'i chynllunio ar gyfer gofal, gan gynnwys rhagnodi opiadau cyfnewid, dadwenwyno alcohol ac opiadau cymunedol, meddyginiaeth atal atglafychu, a mynediad at wasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbyty. Mae Gofal Cymdeithasol y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol yn darparu asesiad cynhwysfawr, cynllunio gofal a chymorth, ac adolygiad, yn ogystal â gweithwyr cymorth i gynorthwyo byw'n annibynnol yn barhaus – mae mynediad at gyfnod adfer preswyl drwy wasanaeth Gofal Cymdeithasol y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol.
Mae GCAD yn darparu pwynt cyswllt unigol i Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Oedolion Sir Benfro ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth o ran ei ddefnydd ei hun o alcohol a/neu gyffuriau eraill neu ddefnydd rywun arall.
Cysylltwch â ni:
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed: 0330 363 9997
Adferiad Recovery (CAIS): 01437 766299
Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol: 01437 774141
Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0300 333 2222
E-bost: substancemisuse@pembrokeshire.gov.uk
Mewn argyfwng:
Os ydych yn pryderu am les neu ddiogelwch uniongyrchol rhywun, dylech ffonio 999
Unrhyw rifau ffôn/dolenni defnyddiol eraill:
DAN 24/7 (yn agor mewn tab newydd): Cymorth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol
- Rhadffôn: 0808 808 2234
- Tecstiwch DAN i: 81066
CALL (yn agor mewn tab newydd): Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned: Gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl seiliedig yng Nghymru
- Rhadffôn: 0800 132 737
- Tecstiwch help i: 81066
Cymorth Eiriolaeth Dewis
- Ffôn: 01646 629 123
- E-bost: advocacy@dewiscil.org.uk
Barod: Gorllewin, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol i Bobl Ifanc
Y Samariaid
- Rhadffôn: 116 123