Camddefnyddio sylweddau, alcohol a chyffuriau eraill

Adsefydlu Preswyl

Ystyried cyfnod o adsefydlu preswyl

Nod Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gofal Oedolion, Cyngor Sir Penfro yw:

  • Helpu unigolion sy'n cael anawsterau oherwydd eu defnydd o alcohol a chyffuriau eraill drwy brynu a darparu ymyriadau yn y gymuned.
  • Helpu drwy gydweithio â sefydliadau statudol, trydydd sector a phreifat.
  • Cydnabod, ar adegau, y bydd angen triniaeth breswyl fel rhan o gynlluniau cyffredinol i hybu annibyniaeth. 

Y Camau Cyntaf

Os neilltuwyd gweithiwr i chi eisoes gyda Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD) neu Dîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol Sir Benfro (CDAT), gallwch ofyn iddynt drefnu i weithiwr cymdeithasol gwrdd â chi i fynd drwy'r broses asesu, cymhwysedd, strwythur, gweithgarwch a thriniaeth a'r trefniadau cyllido ar gyfer adsefydlu preswyl. Mae llawer o'r wybodaeth hon i'w gweld yn y daflen hon.

Os nad ydych yn cael cymorth gan wasanaethau cyffuriau ac alcohol ar hyn o bryd, eich cam cyntaf yw cysylltu â GCAD ar 03303 639997 a gofyn am asesiad cychwynnol a gynigir fel arfer o fewn deg diwrnod gwaith.  Gallwch hefyd alw heibio Llawr Cyntaf, Allied House, Rhes Ebenezer, Hwlffordd, SA61 2JP, ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 4pm a gofyn am asesiad.

Mae fideo byr sy'n cynnwys profiadau eraill sydd wedi cwblhau cyfnod o adsefydlu preswyl o'r blaen, a all eich helpu i benderfynu ai dyma'r hyn sydd ei eisiau arnoch.

Cymhwysedd

Os ydych wedi penderfynu bod angen cyfnod o adsefydlu preswyl arnoch, cynigir asesiad i chi gyda gweithiwr cymdeithasol.  Cewch daflen wybodaeth a fydd yn egluro mwy am y broses hon.

Bydd yr asesiad hwn yn ystyried a argymhellir cyfnod o adsefydlu preswyl fel rhan o gynllun ehangach i'ch helpu i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt gyda chi.

  • Byddwch yn ymrwymo i beidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau eraill am gyfnod hir.
  • Ystyrir ei bod yn annhebygol y gwnewch gyflawni'r canlyniadau y cytunwyd arnynt gyda chi heb gyfnod o adsefydlu preswyl a/neu y bydd yn anniogel i chi fod yn y gymuned wrth i chi gael therapi.
  • Byddwch wedi cael asesiad mewn canolfan adsefydlu preswyl gyda'ch gweithiwr cymdeithasol a bydd lleoliad wedi ei gynnig I chi.
  • Byddwch wedi dangos y gallu i gymryd rhan mewn gwaith therapy grŵp, a byddwch wedi cwblhau'r Grŵp Sylfaen seicogymdeithasol pedair wythnos o hyd o leiaf.
  • Byddwch yn cwblhau unrhyw broses ddadwenwyno o ran alcohol cyn cychwyn y lleoliad.
  • Byddwch wedi cwblhau unrhyw raglen ddiddyfnu o ran opiadau neu benzodiazepines sy'n angenrheidiol cyn cychwyn y lleoliad.
  • Bydd gennych gyfeiriad y gallwch ddychwelyd iddo ar ôl cwblhau'r lleoliad, neu os daw'r lleoliad i ben mewn unrhyw ffordd annisgwyl.
  • Byddwch wedi cwblhau asesiad ariannol gyda'ch gweithiwr cymdeithasol cyn cychwyn y lleoliad a bydd gennych gynlluniau talu ar waith ar gyfer unrhyw ddyledion a allai fod gennych.
  • Ni fydd gennych unrhyw gyhuddiadau troseddol heb eu datrys.

Brynawel House

  • Mae Cyngor Sir Penfro yn comisiynu Brynawel House ger Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu gwasanaeth adsefydlu preswyl.
  • Brynawel yw'r lleoliad adsefydlu preswyl agosaf at Sir Benfro ac mae ganddo hanes profedig o ddarparu triniaeth o ansawdd uchel.

Darparwyd y wybodaeth ganlynol gan Brynawel ar gyfer y daflen wybodaeth hon:

  • Mae Brynawel yn sefydliad seciwlar, sy'n golygu nad yw'n seiliedig ar gredoau crefyddol nac ysbrydol, ond mae'n cyflawni ymyriadau ar sail tystiolaeth megis Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapi Ymddygiad Dialectig sy'n rhan o raglan driniaeth breswyl 16 wythnos o hyd.
  • Ffocws y rhaglen yw gwaith grŵp, ond cynigir o leiaf un sesiwn yr wythnos gyda therapydd neilltuedig i bob unigolyn.
  • Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cwnsela i deuluoedd os oes angen.

Mae Brynawel hefyd yn cynnig rhaglen o therapïau amgen fel ioga, celf a gweithgareddau yn yr awyr agored, gan gynnwys cerdded, dringo dan do a garddio. Ar y safle, mae campfa fach â chyfarpar da, ond trefnir ymweliadau rheolaidd â chanolfan hamdden leol, lle y gall unigolion nofio a chwarae badminton.

Neilltuir gweithiwr allweddol i bob unigolyn a chyfaill a fydd wrth law bob amser i helpu gyda phroblemau a all godi mewn perthynas â threfn y cartref, amseroedd grŵp, budd-daliadau ac ati.

Yn wahanol i sefydliadau adsefydlu eraill, rydym yn caniatáu i unigolion ddod â'u ffonau a'u gliniaduron gyda nhw ac rydym yn annog ymweliadau gan aelodau o'r teulu a ffrindiau a fydd yn ddylanwad cadarnhaol ar adferiad rhywun.

Dewisiadau amgen yn lle Brynawel

Mae'n bosibl na fyddwch chi a/neu eich gweithiwr cymdeithasol o'r farn bod Brynawel yn lleoliad addas, a hynny am resymau gwahanol.  Os felly, dylid ystyried dewisiadau amgen.

Gall y rhesymau dros wneud hyn gynnwys y rhai canlynol :

  • Lleoliad mam a'i babi.
  • Cysylltiadau cryf ag ardal arall.
  • Angen triniaeth deuddeg cam.
  • Angen cymuned seiliedig ar ffydd.

Cychwyn eich lleoliad

Unwaith y bydd lleoliad wedi ei gynnig i chi mewn canolfan adsefydlu preswyl, trefnir dyddiad derbyn i chi a fydd wedi ei gydlynu ag adeg cwblhau unrhyw baratoad

angenrheidiol, gan gynnwys:

  • Cwblhau'r Grŵp sylfaen seicogymdeithasol pedair wythnos o hyd.
  • Cwblhau unrhyw raglen ddadwenwyno angenrheidiol o ran alcohol.
  • Cwblhau unrhyw raglen ddiddyfnu o ran opiadau neu benzodiazepines.
  • Cwblhau asesiad ariannol a sicrhau bod cynlluniau talu ar waith ar gyfer unrhyw ddyledion a allai fod gennych.
  • Cadarnhad o'r cyfeiriad y byddwch yn dychwelyd iddo.
  • Unrhyw beth arall y cytunwyd arno rhyngoch chi a'ch gweithiwr cymdeithasol, y credir y bydd yn tarfu arnoch ac yn eich atal rhag cael budd o'r driniaeth breswyl.

Cewch gefnogaeth i gyrraedd y lleoliad gan weithiwr cymdeithasol a neilltuir i chi, os nad oes un gennych eisoes, oni fyddai'n well gennych wneud trefniadau gyda theulu neu ffrindiau.

Cyllid

Mae cyllid ar gyfer adsefydlu preswyl yn seiliedig ar brawf modd, a chyfrifir hyn drwy asesiad ariannol a gwblheir gyda'ch gweithiwr cymdeithasol.

Yn gyffredinol, bydd gennych hawl i lwfans personol o £29.50/wythnos a bydd gweddill eich incwm yn cyfrannu at eich lleoliad.

  • Gellir cytuno ar gostau eraill rhyngoch chi a'ch gweithiwr cymdeithasol megis taliad atodol tuag at rent, ad-dalu dyledion a chostau gofal plant neu daliadau cynhaliaeth plant.
  • Bydd gofyn i chi ddarparu dogfennau i gadarnhau eich incwm ac unrhyw dreuliau yr hoffech iddynt gael eu hystyried.
  • Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau gwladol, mae'n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith i hysbysu'r asiantaeth budd-daliadau am unrhyw newid mewn amgylchiadau, a fyddai'n cynnwys cyfnod o adsefydlu preswyl.
  • Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn rhoi ffigur bras i chi fel y gallwch ddechrau gwneud taliadau yn y lleoliad o'r wythnos gyntaf ymlaen, gan y bydd yn cymryd peth amser i'r adran gyllid roi ffigur pendant i chi.
  • Efallai y bydd eich amgylchiadau ariannol yn caniatáu i chi hunanariannu eich lleoliad, ond nid yw hyn yn eich eithrio rhag cael asesiad gwaith cymdeithasol na chymorth o ran manteisio ar gyfnod o adsefydlu preswyl ac ôl-ofal priodol.

Meddyginiaeth a ragnodir

Wrth gwrs, byddwch yn gallu parhau i gael unrhyw feddyginiaeth a ragnodir i chi am eich iechyd corfforol drwy gydol y lleoliad.

  • Ni chewch bresgripsiwn ar gyfer unrhyw opiadau na benzodiazepines yn ystod y lleoliad nac unrhyw feddyginiaeth arall rydych yn ei chymryd fel rhan o'ch ymddygiad o ran defnyddio cyffuriau, megis pregabalin.
  • Byddwch yn gallu parhau i gael meddyginiaeth seiciatrig, ond os yw'r feddyginiaeth yn cael effaith dawelu arnoch, gellir gofyn i'r seiciatrydd neu'r meddyg am ragor o gyngor, er mwyn gweld a yw therapi siarad yn addas i chi.

Adolygu ac Ôl-ofal

Trefnir adolygiad i chi mewn lleoliad ar ddiwedd eich pedair wythnos gyntaf neu oddeutu'r adeg honno.

  • Ffocws yr adolygiad hwn yw sicrhau eich bod wedi setlo a'ch bod yn ymgysylltu â'r strwythur, y driniaeth a'r gweithgarwch a gynigir i chi.
  • Bydd eich gweithiwr cymdeithasol a'r therapydd yn y lleoliad yn cwrdd â chi ar gyfer yr adolygiad hwn.
  • Bydd angen i chi fod yn ymwybodol bod parhau i roi cyllid yn dibynnu ar eich ymroddiad llawn.
  • Cynhelir adolygiad pellach hanner ffordd drwy eich lleoliad, neu oddeutu'r adeg honno.
  • Yn yr adolygiad hwn caiff eich cynllun ôl-ofal ei ystyried ac, yn ogystal â'ch gweithiwr cymdeithasol a'ch therapydd yn y lleoliad, gwahoddir y rhai a fydd yn eich helpu gyda'ch ôl-ofal megis gweithiwr cymorth a gweithiwr adfer i fod yn bresennol.
  • Gallwch wahodd eich teulu a/neu eich ffrindiau i'ch adolygiadau.

Bydd eich cynllun ôl-ofal yn cynnwys:

  • Atal ail bwl o salwch un i un
  • Grŵp Symud Ymlaen yn Fy Adferiad
  • Mentora Cymheiriaid
  • Gweithgarwch Hamdden/Dysgu/Hyfforddiant/Cyflogaeth

Yn ystod ychydig wythnosau olaf eich lleoliad byddwch yn raddol yn dychwelyd i'r gymuned, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus I deithio rhwng eich cartref a'r lleoliad.

  • Caiff hyn ei ariannu i chi os na fydd y modd ariannol gennych i'w ariannu eich hun.
  • Argymhellir y dylech ddod â rhywfaint o'ch eiddo gyda chi yn ystod pob ymweliad â'ch cartref fel y gallwch ymdopi ag unrhyw beth sy'n weddill ar y diwrnod y byddwch yn cwblhau'r lleoliad.
  • Trefnir adolygiad pellach i chi o fewn pythefnos ar ôl i chi ddychwelyd i'r gymuned, a gwahoddir y rhai sy'n ymwneud â'ch ôl-ofal i fod yn bresennol.

Llety â ChymorthNorthgate House

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn trafod Northgate House â chi ac, os bydd hynny'n briodol, bydd yn trefnu I chi ymweld â'r lle cyn i chi gychwyn y lleoliad.

Os dymunwch, gallwch wneud cais i symud i Northgate House hanner ffordd drwy eich lleoliad.

Mae Northgate House yn gynllun tai â chymorth Adferiad mewn lleoliad canolog yn Hwlffordd, a gall y cynllun gefnogi hyd at bedwar tenant sydd wedi cwblhau triniaeth ar gyfer camddefnyddio alcohol a/neu gyffuriau eraill.

Mae Northgate House yn gam tuag at fyw yn annibynnol, ac yn gyfle i feithrin sgiliau byw o ddydd i ddydd a chael budd-daliadau, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Gall y staff yn Northgate House eich helpu i gyllidebu, cael gafael ar wasanaethau a'ch helpu i symud ymlaen pan ddaw'r adeg iawn i chi wneud hynny. 

Gallwch gael y cymorth hwn yn Northgate House am hyd at ddwy flynedd a gellir cynnig cymorth pellach I chi drwy ein gwasanaeth cymorth fel y bo'r angen pan fyddwch wedi gadael Northgate House.

Er mwyn bod yn gymwys i gael lle yn Northgate House, byddwch wedi gorfod cwblhau triniaeth o ran camddefnyddio alcohol/a neu gyffuriau eraill ac yn ymrwymedig i ddatblygu a chynnal ffordd o fyw heb gyffuriau ac alcohol, a bod yn barod i gymryd rhan mewn cynllun cymorth personol.

Rhifau defynddiol

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed 03303 639997

Cymorth tenantiaeth Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Adferiad 01437 766299

Cymorth Eiriolaeth 0800 206 1387

Dan 24/7 Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru 0800 808 2234

ID: 8779, adolygwyd 10/03/2023