Camddefnyddio sylweddau, alcohol a chyffuriau eraill

Gofal Cymdeithasol I Oedolion Tim Camddefnyddio Sylweddau: Asesiad Gofal Cymdeithasol

Pwy ydym ni?

Rydym yn dîm o Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Ymyrraeth sy'n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol, yn rhan o Dîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol Sir Benfro.

Pwy a allwn ni eu helpu?

Rydym yn gweithio gyda phobl 18 oed a hŷn sy'n:

  • Ddigartref, neu sy'n gofrestredig fel pobl ddigartref yn Sir Benfro.
  • Cael problemau yn ymwneud â'u defnydd o gyffuriau a/neu alcohol.
  • Problemau nad ydynt yn gallu mynd i'r afael â nhw ar eu pen eu hunain.
  • Rydym hefyd yn gweithio gyda gofalwyr sy'n gofalu am rywun sydd â phroblem cyffuriau a/neu alcohol.

Gall hyn gynnwys cynorthwyo'r bobl ganlynol:

  • Person sy'n teimlo'n ynysig
  • Neu sy'n profi problemau sylweddol wrth geisio byw yn y gymuned
  • Neu'n sy'n cael anhawster gofalu amdano ei hun.
  • Unigolyn y mae ei Blant yn destun, neu mewn perygl o fod yn destun, Gweithdrefnau Diogelu Plant neu Weithdrefnau Gofal.
  • Person y mae ei rôl ofalu neu rôl ei Ofalwr mewn perygl o chwalu.
  • Person sy'n ddigartref.
  • Person sy'n wynebu dyledion sylweddol neu broblemau ariannol.
  • Person sydd â phroblemau sylweddol yn ymwneud â pherthynas deuluol / pherthnasoedd teuluol.
  • Person sy'n destun Gweithdrefnau Diogelu Oedolion.

Beth yr ydym yn ei wneud?

Os cewch eich atgyfeirio at y tîm, bydd asesiad o'ch anghenion yn cael ei gynnig i chi, a fydd yn cael ei wneud gan Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig.

Yn ogystal â siarad â chi, ynghyd ag unrhyw aelodau o'r teulu neu ffrindiau y gofynnwch i ni siarad â nhw, bydd yr asesiad fel arfer yn cynnwys trafodaeth â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig â'ch gofal, er enghraifft eich meddyg teulu neu eich Swyddog Tai. Bydd hefyd yn aml yn cynnwys adolygiad o unrhyw gofnodion y mae gwasanaethau eraill yn eu cadw mewn perthynas â chi.

Cyn yr asesiad, gofynnir i chi arwyddo ‘Cydsyniad i Ddatgelu’,sy'n arwyddo eich bod yn cytuno i ni ofyn am yr wybodaeth hon.

  • Bydd yr asesiad yn ystyried yr hyn sy'n mynd yn dda ar eich cyferyn ogystal â'r hyn nad yw'n mynd cystal
  • a bydd yn eich cynorthwyo i nodi canlyniadau sy'n bwysig I chi ac yr hoffech eu cyflawni.

Yn dilyn asesiad anfeirniadol, byddwn yn cytuno ar gynllun gofal a chymorth â chi, a byddwn yn eich cynorthwyo i gyflawni eich canlyniadau.

Gofynnir i chi lofnodi eich cynllun gofal a chymorth i gadarnhau hyn.

Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn goruchwylio eich cynllun gofal a chymorth, a bydd Gweithiwr Ymyrraeth yn eich cynorthwyo i gael gafael ar

  • weithwyr proffesiynol,
  • gwasanaethau a gweithgareddau a nodwyd a allai eich helpu.

Bydd Gweithiwr Ymyrraeth hefyd yn eich cynorthwyo i gofnodi eich alcohol a chyffuriau eraill yn gywir ac i weithio tuag at gyflawni'r canlyniadau y cytunwyd arnynt gyda chi.

O bryd i'w gilydd, bydd eich cynllun gofal a chymorth yn cael ei adolygu gan eich Gweithiwr Cymdeithasol, gyda'r nod eich bod yn cyflawni'r canlyniadau yr ydym wedi cytuno yn eu cylch â chi, bod eich annibyniaeth yn cynyddu, ac nad oes arnoch angen ein cymorth bellach.

Rhowch wybod i ni os hoffech i'ch asesiad gael ei gynnal yn Gymraeg, neu os bydd arnoch angen cyfieithydd gan fod eich iaith gyntaf yn wahanol.

Cyfrinachedd

Mae llawer o'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni, neu y mae eraill yn ei rhoi i ni ar eich rhan, yn bersonol.

Rydym yn parchu hyn, ac yn sicrhau bod gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei chadw'n ddiogel, yn aros yn breifat, ac yn cael ein defnyddio dim ond i'n helpu i drefnu'r gwasanaethau, y gefnogaeth a'r cymorth y mae arnoch eu hangen.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar system gyfrifiadurol Cyngor Sir Penfro.

Ar adegau, efallai y gofynnir i ni rannu gwybodaeth â gweithwyr proffesiynol eraill. Fel arfer, fodd bynnag, ni fyddai'r wybodaeth hon yn cael ei datgelu heb eich caniatâd, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Mae yna rai adegau pan fo'n rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, ddatgelu gwybodaeth heb eich cydsyniad, a bydd y ‘Cydsyniad I Ddatgelu’, y gofynnir i chi ei arwyddo yn eich asesiad, yn cadarnhau y caiff cyfrinachedd ei dorri os byddwn yn dod yn ymwybodol eich bod yn bwriadu achosi niwed i chi eich hun neu I eraill, neu os oes rhywun yn peri niwed i chi.

Bydd y cyfrinachedd hefyd yn cael ei dorri os:

  • yw Gweithiwr Cymdeithasol gofal i oedolion/gofal plant yn ymchwilio i'ch lles chi/lles eich plant
  • les oedolyn/blentyn bregus yr ydych mewn cysylltiad ag ef.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn yn digwydd, oni bai ein bod o'r farn y byddai gwneud hynny yn cynyddu'r risg i chi neu i rywun arall.

Defnyddio Cyffuriau ac Alcohol

Rydym yn rhoi pwys difrifol ar eich diogelwch chi a diogelwch y tîm, ac ni fyddem chwaith yn ystyried bod rhywun yn gallu cydsynio'n llawn i'n cyfranogiad tra ei fod dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.

Pan fo rhywun yn gorfforol ddibynnol ar alcohol, rydym yn cydnabod y gallai fod yn angenrheidiol iddo gael diod cyn apwyntiad. Fodd bynnag, os byddwn o'r farn eich bod wedi cael gormod i'w yfed i sicrhau bod ein gwaith gyda'n gilydd yn ddiogel ar eich cyfer chi a ninnau, bydd eich apwyntiad yn cael ei aildrefnu.

Os nad ydych yn gorfforol ddibynnol ar alcohol, gofynnwn i chi fynychu eich apwyntiadau heb fod dan ddylanwad alcohol na chyffuriau.

Byddwn yn gofyn i chi a ydych wedi defnyddio cyffuriau neu gael diod cyn yr apwyntiad, ac os byddwch yn ateb yn gadarnhaol, bydd y cyfarfod yn cael ei aildrefnu.

Ni fydd cymryd meddyginiaethau rhagnodedig yn effeithio ar ein gwaith gyda'n gilydd.

Bydd eich Gweithwyr Ymyrraeth yn eich cynorthwyo i reoli unrhyw orbryder y byddwch yn ei brofi mewn sefyllfaoedd cymdeithasol fel arfer, lle rydych wedi defnyddio cyffuriau neu alcohol i'w reoli yn y gorffennol.

Y modd i wneud atgyfeiriad

Os oes gennych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano eisoes weithiwr yn y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn Sir Benfro, ac yr hoffech gael asesiad Gofal Cymdeithasol, yna gallwch ofyn i'ch gweithiwr wneud cais ar eich rhan.

Os nad oes gennych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano eisoes weithiwr yn y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn Sir Benfro, gallwch ffonio Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed ar 01437 967980 a gofyn am asesiad cychwynnol; fel arfer, bydd yr asesiad yn cael ei gynnig o fewn 10 niwrnod gwaith.

Gallwch hefyd ofyn am asesiad Gofal Cymdeithasol yn yr Asesiad Cychwynnol hwn, os hoffech gael un.

Dewisiadau Barod

Os ydych o dan 18 oed, gallwch gael cymorth cyffuriau ac alcohol rhad am ddim gan Dewisiadau Barod.

Mae gwasanaeth Dewisiadau Barod yn cynnig:

  • cymorth
  • gwybodaeth ataliol/lleihau niwed
  • a help therapiwtig ac ymarferol i blant, pobl ifanc a theuluoedd ynghylch eu defnydd o gyffuriau ac alcohol.

Gallwch gysylltu â nhw ar 01554 755779.

Angen rhagor o gyngor?

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, neu os oes arnoch angen rhagor o gyngor, gallwch gysylltu â Gofal Cymdeithasol trwy ein canolfan gyswllt. Y rhif yw 01437 764551, a dylech ofyn am gael siarad â'r swyddog ar ddyletswydd.

Rhifau Ffôn Defnyddiol

Dan 24/7- Cyffuriau ac Alcohol Cymru 0800 808 2234

Cymorth Eiriolaeth 0800 206 1387

Cwynion, Sylwadau a Chanmoliaeth

Croesawn eich syniadau a'ch sylwadau.

Os oes gennych unrhyw farn mewn perthynas â'ch cyswllt â'r tîm, boed yn dda neu'n ddrwg, rhowch wybod i ni.

Byddwch yn cael taflen yn eich asesiad sy'n cadarnhau gweithdrefn cwynion, canmoliaeth a sylwadau Cyngor Sir Penfro, ynghyd â ffurflen gwyno i'w llenwi os bydd arnoch ei hangen.

Gallwch gysylltu â'r swyddog cwynion yn uniongyrchol ar 01437 775303 neu cysylltwch â ni ar-lein yn socialcarecomplaints@pembrokeshire.gov.uk

Byddem yn ddiolchgar pe gallech roi'r cyfle i ni gyntaf sgwrsio a cheisio datrys unrhyw beth yr ydych yn anfodlon arno.

ID: 8777, adolygwyd 01/06/2023