canllaw tendro cyflwyniad

Cyflwyniad

Ystyrir yn aml bod tendro am gontractau’r sector cyhoeddus yn dasg frawychus a beichus heb fawr ddim siawns o ennill unrhyw fusnes. Nod y canllaw hwn yw helpu darpar gyflenwyr i ddeall sut yr ydym yn prynu ein nwyddau, ein gwaith a'n gwasanaethau. Mae'r canllaw’n darparu ystod o awgrymiadau a chyngor ar sut i dendro ac fe ddylai eich cynorthwyo i ddod i wybod yn gyntaf pa gyfleoedd sydd gennym ac yna i allu cynnig amdanynt.

ID: 10848, adolygwyd 14/12/2023