canllaw tendro cyflwyniad
Ddeddf Caffael 2023 (DC23)
Pa reolau, rheoliadau a gweithdrefnau caffael y mae'r Cyngor yn eu dilyn
Ar hyn o bryd mae'r ffordd y mae'r Cyngor yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Caffael 2023 a chan reolau gweithdrefn gontractau mewnol y Cyngor ei hun.
Ddeddf Caffael 2023 (DC23)
Mae caffael y sector cyhoeddus yn ddarostyngedig i Ddeddf Caffael 2023 sy'n pennu'r prosesau i'w dilyn wrth gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith dros drothwy gwerth penodol, sef £213,477* ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau a chyflenwadau (neu £138,760* ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) a £5,336,937* ar gyfer contractau gwaith. Mae gan gontractau’r gyfundrefn cyffyrddiad ysgafn drothwy o £663,540*. Mae'r trothwyon hyn yn cael eu hadolygu bob 2 flynedd a daeth y gwerthoedd cyfredol i rym ar 1 Ionawr 2024.
*Gan gynnwys TAW*
Rhaid hysbysebu'r holl gyfleoedd hyn ar wefan y gwasanaeth 'ganfod tendr' trwy ddolen o’r wefan GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd).
Ar gyfer cyfleoedd nad ydynt yn uwch na throthwyon DC23, dylai darpar gyflenwyr fod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd gan sefydliadau amrywiol eu rheolau a’u rheoliadau mewnol eu hunain sy’n pennu’r prosesau y mae angen eu dilyn, yn ddibynnol ar werth amcangyfrifedig y caffaeliad. Mae manylion pob un o sefydliadau sector cyhoeddus Sir Benfro i'w gweld ar y dudalen nesaf.
Gellir manteisio ar gyfleoedd o fewn sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn Sir Benfro fel a nodir isod:
Contractau nad yw’n ofynnol eu hysbysebu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Yn gyffredinol, nid yw'r Bwrdd Iechyd yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd i gynnig am gontractau sy'n werth llai na £25,000.
- Fodd bynnag, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg a digonol, gwahoddir o leiaf tri chwmni i gyflwyno dyfynbrisiau ar gyfer cyfleoedd i gynnig am gontractau rhwng £5,000 a £24,999.
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Yn gyffredinol, nid yw'r Parc Cenedlaethol yn hysbysebu cyfleoedd i gynnig am gontractau sy'n werth llai na £25,000.
- Os yw gwerth y gofyniad yn £10,000 neu'n uwch, yna fel arfer sicrheir isafswm o dri dyfynbris.
Coleg Sir Benfro
- Ar gyfer gofynion sy'n werth £1,500 neu fwy fel arfer ceisir isafswm o dri dyfynbris. Mae'r coleg yn defnyddio'r cyfleuster blwch post electronig ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer llawer o geisiadau ac ymarferion tendro.
- Ar gyfer eitemau gwerth isel, yn enwedig y rhai o dan £1,500, y dull talu a ffefrir gan y Coleg yw â cherdyn prynu.
Grŵp Ateb
- Nid yw Grŵp Ateb yn hysbysebu cyfleoedd i gynnig am gontractau sy'n werth llai na £25,000.
- Os yw'r contract yn werth mwy na £10,000 fel arfer mae gofyn cael hyd at dri dyfynbris ysgrifenedig.
- Ar gyfer eitemau gwerth isel o dan £10,000, mae gofyn cael o leiaf un dyfynbris ond rhaid gallu dangos gwerth am arian.
Contractau y mae’n ofynnol eu hysbysebu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Mae'r holl gontractau sydd y tu hwnt i drothwyon perthnasol y Ddeddf Caffael 2023 yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) a'u hysbysebu ar wefan y gwasanaeth 'ganfod tendr'
- Gellir gofyn am ragor o fanylion am ymarferion Caffael y Bwrdd Iechyd gan yr Adran Gaffael (gweler y manylion cyswllt).
- Mae'r Gwasanaeth Caffael ar ran y Bwrdd Iechyd yn cael ei ddarparu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae'r sefydliad hwn yn darparu gwasanaeth negodi contractau a rheoli deunyddiau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau sy'n addas ar gyfer cydweithio o fewn y GIG. Trwy gydlynu gofynion holl Fyrddau Iechyd y GIG yng Nghymru, maent yn gallu negodi contractau sy'n ceisio cynyddu’r gallu i wario i’r eithaf er budd pawb sy'n gysylltiedig.
- Mae Timau Prynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru’n darparu amrywiaeth o gontractau o ffrwythau a llysiau i drydan a nwyon meddygol, sy'n diwallu anghenion y Byrddau Iechyd yng Nghymru.
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Mae pob contract sy'n werth mwy na £25,000 yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd).
Coleg Sir Benfro
- Bydd yr holl gontractau sy’n werth dros £30,000 yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) oni bai eu bod yn cael eu caffael o fewn telerau fframwaith sy'n bodoli eisoes neu eu bod o natur arbenigol. Os yw'r gwerth yn uwch na'r trothwy perthnasol yn y Ddeddf Caffael 2023 yna bydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar wefan y gwasanaeth 'ganfod tendr'
- Mae'r Coleg yn cynnal ei ymarferion tendro'n electronig gan ddefnyddio porth e-dendro cymeradwy Llywodraeth Cymru, sef e-tender Wales. Er mwyn bod mewn sefyllfa i ymateb i gyfleoedd tendro electronig gyda Choleg Sir Benfro, sicrhewch fod eich sefydliad wedi'i gofrestru ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd).
- Bydd ein holl gyfleoedd tendro’n cynnwys y ddolen i'r porth e-dendro Bravo e-tenderwales (yn agor mewn tab newydd) Efallai y byddai hefyd o fudd i chi gofrestru'n uniongyrchol ar y wefan hon.
- Mae'r Coleg yn ymwneud â chaffael cydweithredol o fewn y sector addysg bellach ac yn ymrwymedig i hynny trwy Crescent Purchasing Consortium (CPC).
- Mae'r CPC yn tendro am nwyddau a gwasanaethau sy'n greiddiol i'r mwyafrif o golegau.
Grŵp Ateb
- Bydd yr holl gontractau sy'n werth mwy na £25,000, oni bai eu bod yn cael eu caffael o fewn telerau fframwaith sy'n bodoli eisoes, neu eu bod o natur arbenigol yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd), felly gwnewch yn siŵr bod eich sefydliad wedi'i gofrestru ar y wefan hon.
- Os yw'r gwerth yn uwch na'r trothwy perthnasol yn y Ddeddf Caffael 2023 yna bydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar wefan y gwasanaeth 'ganfod tendr'. Mae Grŵp Ateb yn cynnal ei holl ymarferion tendro sy’n werth mwy na £25,000 yn electronig gan ddefnyddio porth e-dendro cymeradwy Llywodraeth Cymru, sef Bravo e-tenderwales (yn agor mewn tab newydd).
- Bydd pob un o'n cyfleoedd tendro’n cynnwys y ddolen i'r porth e-dendro.
- I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma ar gyfer y wefan Grŵp Ateb (yn agor mewn tab newydd).