canllaw tendro cyflwyniad

Llesiant a Masnachu Moesegol yn y Gadwyn Gyflenwi

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Rydym yn ymdrechu i gyrraedd nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ddull cyfannol o gynnal ein prosesau caffael a byddwn yn cynnwys, lle y bo'n berthnasol, ddarpariaeth benodol yn ein dogfennau tendro.

Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Sefydlwyd y Cod Ymarfer "Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi" i helpu i sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru’n cael eu cyflogi mewn ffordd deg a moesegol. Mae cwmpas y Cod Ymarfer yn cynnwys caffael, dethol cyflenwyr, tendro, rheoli contractau a rheoli cyflenwyr.

Deddf Caethwasiaeth Fodern

Mae gan gaffael rôl bwysig o ran mynd i'r afael â Chaethwasiaeth Fodern trwy sicrhau bod strategaethau prynu’n ei gwneud yn bosibl gwobrwyo cyflenwyr sydd ag arferion cyflogaeth da yn hytrach na phrynu mewn modd sy'n ysgogi defnydd o arferion caethwasiaeth fodern.

Buddion Cymunedol

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i hybu Datblygu Cynaliadwy trwy ein polisïau, ein strategaethau a'n gwasanaethau, a thrwy hynny sicrhau'r gwerth gorau am arian yn yr ystyr ehangaf. Y nod yw creu cymunedau cryfach, lleihau allgáu cymdeithasol a thlodi a hybu datblygiad yr economi.

Ar ben hynny, mae ein dyletswydd i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ni geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y Sir ym mhopeth a wnawn. Felly bydd ein hymrwymiad i fynd ar drywydd Buddion Cymunedol trwy ein gweithgarwch caffael yn cefnogi'r nod hwn trwy ymgorffori Pecyn Mesur Buddion Cymunedol Llywodraeth Cymru yn ein proses dendro lle bynnag y bo modd.

Datblygwyd y Pecyn Mesur Buddion Cymunedol i fonitro a chasglu ffigyrau fel; Cynhwysiant Cymdeithasol, Anweithgarwch Economaidd mewn Recriwtio a hyfforddiant wedi'u targedu, mentrau’r gadwyn gyflenwi, mentrau cymunedol, hybu mentrau cymdeithasol a busnesau â chymorth, cyfrannu at addysg, hybu buddion amgylcheddol a chadw a hyfforddi'r gweithlu presennol fel rhan o gontractau.

Dyma enghreifftiau o fuddion cymunedol o'r fath:

  • Recriwtio a Hyfforddiant wedi'u Targedu e.e. darparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl economaidd anweithgar.
  • Mentrau’r Gadwyn Gyflenwi e.e. ymgysylltu â busnesau lleol, Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) a'r Trydydd Sector trwy ddigwyddiadau "Cwrdd â'r Prynwr" i gynyddu cyfleoedd isgontractio.
  • Mentrau Addysg e.e. gweithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i helpu pobl ifanc ddi-waith i gael profiad gwaith drwy brentisiaethau neu waith gwirfoddol.
  • Mentrau Cymunedol e.e. cyfrannu at Gynlluniau/Cronfeydd Cymunedol presennol.
  • Mentrau Amgylcheddol e.e. lleihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi.

Sylwer mai dim ond os ydynt yn greiddiol i'r contract y gellir gwerthuso a sgorio Buddion Cymunedol (h.y. bod yn rhan o’r meini prawf dyfarnu). Os nad ydynt yn greiddiol, yna ni fyddant yn rhan o'r gwerthusiad; fodd bynnag, byddant yn gytundebol rwymol.

Bydd pob ymarfer tendro penodol yn nodi'n glir a yw Buddion Cymunedol wedi'u cynnwys fel gofyniad creiddiol ynteu gofyniad nad yw’n greiddiol, a sut y bydd eich ymateb yn cael ei werthuso.

ID: 10856, adolygwyd 14/12/2023