canllaw tendro cyflwyniad
Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (RCC)
Pa Reolau, Rheoliadau a Gweithdrefnau Caffael y mae'r Cyngor yn eu dilyn
Ar hyn o bryd mae'r ffordd y mae'r Cyngor yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau Contractau Cyhoeddus (RCC) 2015 a chan Reolau Gweithdrefn Gontractau mewnol y Cyngor ei hun.
Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (PCR)
Mae caffael y Sector Cyhoeddus yn ddarostyngedig i Reoliadau Contractau Cyhoeddus (RCC) 2015 sy'n pennu'r prosesau i'w dilyn wrth gaffael Nwyddau, Gwasanaethau a Gwaith dros drothwy gwerth penodol, sef £213,477* ar hyn o bryd ar gyfer Gwasanaethau a Chyflenwadau (neu £122,976 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) a £5,336,937* ar gyfer contractau Gwaith. Mae gan gontractau’r gyfundrefn cyffyrddiad ysgafn drothwy o £663,540*. Mae'r trothwyon hyn yn cael eu hadolygu bob 2 flynedd a daeth y gwerthoedd cyfredol i rym ar 1 Ionawr2022.
*Gan gynnwys TAW*
Rhaid hysbysebu'r holl gyfleoedd hyn ar wefan y gwasanaeth Find a Tender trwy ddolen o’r wefan GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd).
Ar gyfer cyfleoedd nad ydynt yn uwch na throthwyon y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, dylai darpar gyflenwyr fod yn ymwybodol y bydd gan bob sefydliad ei reolau a'i reoliadau mewnol ei hun sy'n pennu'r prosesau y mae angen eu dilyn gan ddibynnu ar werth amcangyfrifedig yr ymarfer caffael. Manylir ar y rhain ar gyfer pob un o'r partneriaid cydweithredol fel a ganlyn:
Gellir manteisio ar gyfleoedd o fewn Sefydliadau eraill y Sector Cyhoeddus yn Sir Benfro fel a nodir isod:-
Contractau Nad Yw’n Ofynnol Eu Hysbysebu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Yn gyffredinol, nid yw'r Bwrdd Iechyd yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd i gynnig am gontractau sy'n werth llai na £25,000.
- Fodd bynnag, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg a digonol, gwahoddir o leiaf tri chwmni i gyflwyno dyfynbrisiau ar gyfer cyfleoedd i gynnig am gontractau rhwng £5,000 a £24,999.
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Yn gyffredinol, nid yw'r Parc Cenedlaethol yn hysbysebu cyfleoedd i gynnig am gontractau sy'n werth llai na £25,000.
- Os yw gwerth y gofyniad yn £10,000 neu'n uwch, yna fel arfer sicrheir isafswm o dri dyfynbris.
Coleg Sir Benfro
- Ar gyfer gofynion sy'n werth £1,500 neu fwy fel arfer ceisir isafswm o dri dyfynbris. Mae'r coleg yn defnyddio'r cyfleuster blwch post electronig ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer llawer o geisiadau ac ymarferion tendro.
- Ar gyfer eitemau gwerth isel, yn enwedig y rhai o dan £1,500, y dull talu a ffefrir gan y Coleg yw â Cherdyn Prynu.
Grŵp Ateb
- Nid yw Grŵp Ateb yn hysbysebu cyfleoedd i gynnig am gontractau sy'n werth llai na £25,000.
- Os yw'r contract yn werth mwy na £10,000 fel arfer mae gofyn cael hyd at dri dyfynbris ysgrifenedig.
- Ar gyfer eitemau gwerth isel o dan £10,000, mae gofyn cael o leiaf un dyfynbris ond rhaid gallu dangos gwerth am arian.
Contractau y Mae’n Ofynnol Eu Hysbysebu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Mae'r holl gontractau sydd y tu hwnt i Drothwyon perthnasol y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) a'u hysbysebu ar wefan y gwasanaeth Find a Tender.
- Gellir gofyn am ragor o fanylion am ymarferion Caffael y Bwrdd Iechyd gan yr Adran Gaffael (gweler y manylion cyswllt).
- Mae'r Gwasanaeth Caffael ar ran y Bwrdd Iechyd yn cael ei ddarparu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae'r sefydliad hwn yn darparu gwasanaeth negodi contractau a rheoli deunyddiau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau sy'n addas ar gyfer cydweithio o fewn y GIG. Trwy gydlynu gofynion holl Fyrddau Iechyd y GIG yng Nghymru, maent yn gallu negodi contractau sy'n ceisio cynyddu’r gallu i wario i’r eithaf er budd pawb sy'n gysylltiedig.
- Mae Timau Prynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru’n darparu amrywiaeth o gontractau o ffrwythau a llysiau i drydan a nwyon meddygol, sy'n diwallu anghenion y Byrddau Iechyd yng Nghymru.
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Mae pob contract sy'n werth mwy na £25,000 yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd).
Coleg Sir Benfro
- Bydd yr holl gontractau sy’n werth dros £30,000 yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) oni bai eu bod yn cael eu caffael o fewn telerau fframwaith sy'n bodoli eisoes neu eu bod o natur arbenigol. Os yw'r gwerth yn uwch na'r trothwy perthnasol yn y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yna bydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar wefan y gwasanaeth Find a Tender.
- Mae'r Coleg yn cynnal ei ymarferion tendro'n electronig gan ddefnyddio porth e-dendro cymeradwy Llywodraeth Cymru, sef e-tender Wales. Er mwyn bod mewn sefyllfa i ymateb i gyfleoedd tendro electronig gyda Choleg Sir Benfro, sicrhewch fod eich sefydliad wedi'i gofrestru ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd).
- Bydd ein holl gyfleoedd tendro’n cynnwys y ddolen i'r porth e-dendro Bravo e-tenderwales (yn agor mewn tab newydd) Efallai y byddai hefyd o fudd i chi gofrestru'n uniongyrchol ar y wefan hon.
- Mae'r Coleg yn ymwneud â chaffael cydweithredol o fewn y sector Addysg Bellach ac yn ymrwymedig i hynny trwy The Crescent Purchasing Consortium (CPC).
- Mae'r CPC yn tendro am nwyddau a gwasanaethau sy'n greiddiol i'r mwyafrif o golegau.
Grŵp Ateb
- Bydd yr holl gontractau sy'n werth mwy na £25,000, oni bai eu bod yn cael eu caffael o fewn telerau fframwaith sy'n bodoli eisoes, neu eu bod o natur arbenigol yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd), felly gwnewch yn siŵr bod eich sefydliad wedi'i gofrestru ar y wefan hon.
- Os yw'r gwerth yn uwch na'r trothwy perthnasol yn y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yna bydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar wefan y gwasanaeth Find a Tender. Mae Grŵp Ateb yn cynnal ei holl ymarferion tendro sy’n werth mwy na £25,000 yn electronig gan ddefnyddio porth e-dendro cymeradwy Llywodraeth Cymru, sef Bravo e-tenderwales (yn agor mewn tab newydd).
- Bydd pob un o'n cyfleoedd tendro’n cynnwys y ddolen i'r porth e-dendro.
- I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma ar gyfer y wefan Grŵp Ateb (yn agor mewn tab newydd).