canllaw tendro cyflwyniad
Rhestr o'r prif fframweithiau allanol a ddefnyddir
- Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) Llywodraeth Cymru
- Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS)
- Eastern Shires Purchasing Organisation (ESPO)
- The Procurement Partnership (TPPL)
Cyhoeddir yr holl gyfleoedd caffael a gynigir gan Lywodraeth Cymru ar GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) hefyd.
Gall meysydd gwasanaeth unigol y Cyngor hefyd ddefnyddio’r wefan GwerthwchiGymru ar gyfer ymarferion dyfynbrisiau ac i chwilio am gyflenwyr posibl ar gyfer unrhyw gyfleoedd sydd ganddynt o dan £25k.
GwerthwchiGymru yw’r wefan gaffael genedlaethol ar gyfer Sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru lle mae cyfleoedd i gynnig am gontractau’n cael eu hysbysebu. Bydd y cyfleoedd a hysbysebir yma’n darparu manylion y gofyniad a sut y gallwch gymryd rhan yn y broses dendro. Mae gan GwerthwchiGymru ddolen uniongyrchol hefyd i’r gwasanaeth 'ganfod tendr' ar gyfer y DU gyfan lle mae'n rhaid cyhoeddi contractau sydd uwchlaw'r trothwy, fel a nodir yn Ddeddf Caffael 2023.
Mae'r Cyngor yn annog pob cyflenwr i gofrestru ar y wefan GwerthwchiGymru. Gellir gwneud hyn yn rhad ac am ddim ac mae'n galluogi cyflenwyr i greu, diweddaru a chynnal eu proffil, gweld cyfleoedd, cael hysbysiadau tendro awtomataidd trwy e-bost, cael cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad at ddogfennau tendro a gweld manylion contractau a ddyfarnwyd. Bydd cofrestru ar GwerthwchiGymru hefyd yn eich galluogi i weld nifer o gyfleoedd a hysbysebir gan nifer fawr o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n bwysig cofrestru ar GwerthwchiGymru yn erbyn y categorïau sy'n berthnasol i'r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gwaith a ddarperir gennych. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond hysbysiadau am gyfleoedd i gynnig am gontractau sy'n berthnasol i chi y byddwch yn eu cael a hefyd nad ydych yn colli unrhyw hysbysiadau allweddol.
Awgrym: Mae hefyd yn werth gwirio’r wefan GwerthwchiGymru yn uniongyrchol o bryd i’w gilydd rhag ofn nad yw'r cyfleoedd a hysbysebwyd wedi cael eu paru â’r categorïau yr ydych wedi cofrestru ynddynt.
Mae'r Cyngor yn cynnal ei holl gyfleoedd tendro ffurfiol yn electronig ac ar hyn o bryd mae'n defnyddio porth e-dendro Bravo e-tenderwales (yn agor mewn tab newydd) i wneud hyn.