canllaw tendro cyflwyniad
Sut y mae Caffael wedi'i Strwythuro
Ym mlwyddyn ariannol 2022-23, gwariodd Cyngor Sir Penfro oddeutu £208 miliwn (heb gynnwys TAW) ar gaffael ystod amrywiol o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan sefydliadau allanol yn y sector preifat a'r trydydd sector. Rydym yn cydnabod manteision economaidd cefnogi busnesau lleol ac roedd dros 52% o'n gwariant ar Gaffael yn y Flwyddyn Ariannol hon gyda busnesau sydd â chanolfan leol yn Sir Benfro.
Rhaid rheoli'r gwariant hwn yn effeithlon ac effeithiol a chyfrifoldeb y tîm Caffael yw rheoli holl weithgareddau caffael y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn defnyddio dull Rheoli Categorïau o gaffael trwy grwpio cynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig ar draws y Cyngor cyfan gyda’i gilydd yn y naw categori a nodir yn y siart isod.
Cyngor Sir Penfro 2022/23 Categori Gwarian
- Gofal Cymdeithasol I Oedolian - £83.1m (40%)
- Gofal Cymdeithasol Plant - £8.8m (4%)
- Gwasanaethau Proffesiynol ac Ymgynghoriaeth – £8.6m (4%)
- Cynnal a Chadw Adeiladau - £15.7m (8%)
- Adeiladu a Phrosiectau Arbennig - £34m (16%)
- Rheoli Cyfleusterau - £15.3m (8%)
- Corfforaethol a TGCh - £17m (8%)
- Priffyrdd a Pharciau – £8.2m (4%)
- Trafnidiaeth - £17m (8%)
ID: 10849, adolygwyd 14/12/2023