canllaw tendro cyflwyniad
Talu
BACS
Mae gan bob partner dargedau talu’n brydlon ac maent wedi ymrwymo i dalu pob anfoneb ddiamheuol o fewn 30 niwrnod, neu 10 niwrnod lle y bo hynny'n briodol.
Y Cerdyn Pryniant Cymreig
Ffordd arall o dalu yw â Cherdyn Pryniant gyda hyn yn cael ei gynnwys mewn rhai tendrau fel y dull talu a ffefrir neu mewn rhai achosion fel gofyniad gorfodol. Mae llawer o gyflenwyr hefyd yn hoffi cael eu talu fel hyn ni waeth beth fo gofynion y contract gan ei fod yn darparu'r dull talu cyflymaf ac yn gwella llif arian.
Cerdyn talu yw’r Cerdyn Pryniant Cymreig a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru fel eu dewis ddull talu ar gyfer llawer o nwyddau/gwasanaethau gwerth isel.
I ymuno â'r Rhaglen Cerdyn Pryniant bydd angen i'ch busnes allu derbyn trafodion gan ddefnyddio’r Cerdyn Pryniant a gallu dangos manylion TAW ar wahân naill ai fel rhan o Fanylion yr Eitem ar Bob Llinell neu ar lefel TAW Gryno. Cysylltwch â procurement@pembrokeshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.