canllaw tendro cyflwyniad

Yr Hyn y Dylech a’r Hyn Na Ddylech Ei Wneud wrth Dendro

 Yr Hyn y Dylech Ei Wneud

  • Gwiriwch yr amser a'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd tendrau.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo digon o amser i gwblhau'r ddogfennaeth.
  • Sicrhewch eich bod yn ateb yr holl gwestiynau’n llawn fel y’u gosodwyd, gan roi manylion y gofynion penodedig a darparu tystiolaeth fel a nodir yn y canllawiau.
  • Gofynnwch am eglurhad os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw ran o'r fanyleb neu os oes gennych ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â dogfennau tendro, gan gynnwys telerau ac amodau'r contract. Rhaid cyflwyno ymholiadau’n gofyn am eglurhad ac ymholiadau eraill sy'n gysylltiedig â’r tendr trwy borth e-tender wales (Bravo) ar gyfer pob tendr electronig.

Yr Hyn Na Ddylech Ei Wneud

  • Peidiwch â dychwelyd eich tendr ar ôl y dyddiad na’r amser cau gan na fydd tendrau hwyr yn cael eu hystyried ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol.
  • Peidiwch â "dyfeisio’r" y cwestiynau fel y gallwch gynnwys yr hyn y mae arnoch eisiau ei gynnwys yn eich ymateb: dim ond gwybodaeth yr ydym wedi gofyn amdani y gallwn ei gwerthuso.
  • Peidiwch â chael eich digalonni gan y dogfennau, ceisiwch gymorth e.e. gan ymgynghorwyr tendro, trwy fynd i ddigwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr.
  • Peidiwch â chyflwyno prisiau sydd mor isel fel eu bod yn golygu, os dyfernir y contract i chi, na fyddwch yn galluyflenwi'r nwyddau / gwasanaethau am y pris hwnnw i'r ansawdd a nodwyd.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod popeth am eich cwmni a'r nwyddau a'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gwmnïau sydd â chontract gyda'r Awdurdod ar hyn o bryd neu a fu â chontract gyda’r Awdurdod o'r blaen. Bydd tendrau'n cael eu gwerthuso ar sail yr hyn a gyflwynwyd gennych yn ysgrifenedig ac nid ar sail unrhyw brofiad blaenorol o ymwneud â ni.

Sylwch fod gan y Cyngor yr hawl i beidio â derbyn unrhyw dendr sydd, yn ein barn ni, yn anarferol o isel neu'n anhyfyw.

ID: 10857, adolygwyd 14/12/2023