Canllawiau a Wybodaeth

Taflen Ffeithiau Cyfraniad at Gost Ychwanegol

Ar y dudalen hon:

Beth yw cyfraniad at gost ychwanegol Trydydd Parti?

Pam na allaf dalu’r cyfraniad at gost ychwanegol?

Pryd allaf dalu’r cyfraniad at gost ychwanegol?

Beth yw ein cyfrifoldeb ni yn y trefniant hwn?

Beth sy'n digwydd os nad yw'r trydydd parti yn talu mwyach?



 

Beth yw Cyfraniad at gost ychwanegol trydydd parti?

Mae Cyfraniad at Gost Ychwanegol yn daliad sy'n cael ei dalu i'r cartref preswyl neu'r cartref nyrsio ar eich rhan, fel arfer gan ffrind neu berthynas.

Pan fyddwn yn cyfrannu at gost eich gofal, byddwn ond yn talu swm penodol, ond mae rhai cartrefi gofal yn codi mwy na hyn.

Os na allwn ddarparu dau opsiwn ar gyfer lleoliad cartref gofal dros dro neu barhaol ar y gyfradd yr ydym ni'n ei thalu fel arfer, yna byddwn yn talu'r gost ychwanegol ar gyfer cartref gofal addas a fydd yn diwallu eich anghenion.

Os gallwn ddarparu dau opsiwn neu fwy ar gyfer lleoliad cartref gofal dros dro neu barhaol a fydd yn diwallu eich anghenion a bod cyfradd pob un yn uwch na'r hyn yr ydym yn ei dalu fel arfer, yna byddwn yn talu'r gyfradd sydd agosaf at ein cyfradd safonol.  

Gallwch ddewis cartref gofal sy'n ddrutach os bydd ffrind, aelod o'r teulu neu elusen yn talu'r gwahaniaeth. Gelwir hyn yn ‘Gyfraniad at Gost ychwanegol' ac fe'i delir fel arfer i'r Cyngor, fel bod y Cyngor, yn ei dro, yn medru talu'r cartref gofal.

Fel defnyddiwr y gwasanaeth, dim ond o dan rai amgylchiadau y caniateir i chi dalu cyfraniadau Trydydd parti. Cyfrifir y Cyfraniad at y Gost Ychwanegol drwy gymryd y gwahaniaeth rhwng y ffi y byddai'r Cyngor yn disgwyl ei thalu fel arfer a'r ffi a bennir gan y cartref gofal. Mae'n debygol y bydd y Cyfraniad at y Gost Ychwanegol yn cael ei addasu'n flynyddol, er bydd unrhyw newid wedi'i gysylltu â ffactorau chwyddiant. Nid oes unrhyw sicrwydd o ystyried y bydd unrhyw gynnydd o'r fath yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y cyngor a'r trydydd parti.  Felly, dylai unrhyw un sy'n ystyried bod yn gyfrifol am daliadau trydydd parti ystyried yr ymrwymiad hwn yn ofalus iawn.



Pam na allaf dalu’r cyfraniad at gost ychwanegol?

Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth yn datgan nad oes hawl gan breswylwyr mewn cartrefi gofal dalu'r cyfraniadau gan drydydd parti gan ddefnyddio’u hadnoddau eu hunain, ac nid oes unrhyw bŵer gan yr awdurdodau lleol i gasglu unrhyw daliadau ychwanegol gan ddefnyddio adnoddau'r preswylwyr eu hunain ar gyfer taliadau trydydd parti.  Fodd bynnag, ceir eithriadau i'r rheol - gweler isod.



Pryd allaf dalu’r cyfraniad at gost ychwanegol?

Os oes gennych eiddo i’w werthu, gallwch ymrwymo i drefniant taliad gohiriedig gyda'r awdurdod lleol. Yn yr achos hwn, bydd y cyngor yn ystyried darparu cyllid dros dro a allai fod yn fwy na phris y cyngor, oherwydd bydd y cyngor yn adennill y cyllid yn ddiweddarach drwy godi tâl ar yr eiddo.

Cofiwch, nid yr arfer arferol yw hwn. Nid ydym yn cytuno’n awtomatig i ganiatáu taliad gan drydydd parti ar gyfer taliad gohiriedig. Bydd angen i chi ofyn am hwn wrth wneud cais am daliad gohiriedig.



Beth yw ein cyfrifoldeb ni yn y trefniant hwn?

Rhaid i ni sicrhau bod y trydydd parti yn gallu talu'r cyfraniadau cyhyd â bod angen. O achos hyn, gofynnwn i'r trydydd parti ddarllen y daflen hon yn ofalus, darparu’r wybodaeth ariannol y gofynnwyd amdani a llofnodi'r ddogfen amgaeedig fel cofnod ei fod wedi darllen a deall y wybodaeth yn y daflen hon.

Dylech nodi, yn arbennig, bod y cyngor yn cadw'r hawl i adennill unrhyw gyfraniadau sy'n weddill ac yn ddyledus gan y trydydd parti.

Os nad yw'r cartref gofal yn darparu gofal boddhaol, neu wedi torri amodau a thelerau ein cytundeb gyda hwy, rydym hefyd yn cadw'r hawl i'ch symud chi i lety amgen. Os bydd eich anghenion yn newid yn sylweddol, byddwch yn cael eich ail-asesu gan weithiwr cymdeithasol i weld a yw'ch llety presennol yn parhau i ddiwallu eich anghenion. 



Beth sy'n digwydd os nad yw'r trydydd parti yn talu mwyach?

Byddwn yn trafod y sefyllfa gyda'r cartref gofal ar eich rhan er mwyn gweld a ydynt yn fodlon derbyn pris penodedig yr awdurdod lleol am eich llety.

Os nad yw'r cartref gofal yn fodlon ail-drafod y pris, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi symud i ystafell lai costus yn yr un cartref, neu i gartref arall sy'n derbyn pris yr awdurdod lleol. Cyn i hynny ddigwydd, bydd gweithiwr cymdeithasol yn cynnal asesiad gofal cymunedol llawn (gan gynnwys asesiad o'ch anghenion emosiynol a seicolegol) er mwyn canfod effaith y symud arnoch.

Os bydd yr asesiad gofal cymunedol yn nodi amgylchiadau eithriadol, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn eich cyfeirio chi at ystyriaeth arbennig o arian ychwanegol. Fodd bynnag, os nad yw'r asesiad gofal cymunedol yn nodi unrhyw amgylchiadau eithriadol, byddwn yn archwilio nifer o opsiynau er mwyn darganfod llety amgen sy'n derbyn pris yr awdurdod lleol.

ID: 10084, adolygwyd 05/11/2024