Canllawiau a Wybodaeth

Taflen Ffeithiau Talu am Ofal a Chymorth

Ar y dudalen hon: 

Mathau o ofal a chymorth

Beth dylwn i ei wneud pan fydd fy ngofal yn dechrau?

Pwy all fy helpu gyda’r ffurflenni a’r broses hon?

Pa ffurflen ariannol y dylwn i ei llenwi?

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn llenwi’r ffurflen ariannol?

Beth yw asesiad ariannol?

Beth yw diystyru a lwfansau?

Beth yw incwm?

Beth yw cyfalaf?

Beth os oes gennyf eiddo?

Beth yw cytundeb taliad gohiriedig?

Beth yw’r uchafswm wythnosol, y terfyn cyfalaf a’r ffactorau diystyru ar gyfer eleni?

Sut mae fy nghyfalaf yn disbyddu?

Faint byddaf yn ei dalu?

Pryd byddaf yn dechrau talu am wasanaeth y codir tâl amdano?

Sut gallaf dalu?

Beth os na fyddaf yn talu?

Beth os nad wyf yn cytuno â’m taliad a aseswyd?

Beth os bydd fy amgylchiadau’n newid?

Manylion cyswllt

 

Mathau o ofal a chymorth

Dibreswyl Cymorth yn y Gymuned

Byddwch yn talu am y gwasanaethau hyn.

Penderfynir ar daliadau fel rhan o asesiad ariannol.

  • Cymorth yn y cartref a’r gymuned.  Gofalwyr yn dod i'ch cefnogi yn eich cartref (gofal cartref) a rhai cymorth cyffredinol.

  • Cyfleoedd dydd (mynychu canolfan ddydd, gweithgareddau dydd).
  • Gwely gofal preswyl / nyrsio tymor byr – yn darparu gofal seibiant hyd at wyth wythnos o dan daliadau dibreswyl. Ar ôl wyth wythnos, codir tâl arnoch o dan daliadau preswyl dros dro. Ar ôl 12 mis, codir tâl arnoch o dan y polisi taliadau preswyl. Bydd cyfradd bob nos yn seiliedig ar gyfradd wythnosol cartrefi gofal unigol. Codir tâl fesul noson ar unigolyn am gyfnod yr arhosiad, p'un a yw'r arhosiad yn para am bythefnos ai peidio. Bydd hyn yn rhwym wrth yr uchafswm tâl dibreswyl wythnosol.  Bydd cyfradd gofal nos unrhyw fudd-daliadau y mae'r unigolyn yn eu cael yn cael eu defnyddio yn yr asesiad ariannol i bennu’r tâl am arosiadau preswyl tymor byr.
  • Gellir codi tâl am welyau gofal cartref sy’n aros i gael eu defnyddio dros dro ar sail yr oriau gofal cartref sydd i'w darparu dan daliadau dibreswyl. Ar ôl wyth wythnos, codir tâl arnoch o dan daliadau preswyl dros dro. Ar ôl 12 mis, byddwch yn cael eich asesu i sefydlu a fydd eich lleoliad dros dro yn dod yn barhaol pan godir tâl archoch o dan y polisi taliadau preswyl.
  • Taliadau uniongyrchol – wedi'u gwneud i'ch cefnogi wrth gyflogi eich cynorthwyydd personol eich hun neu wrth fynychu cyfleoedd dydd.
  • Cysylltu bywydau – darparu cymorth gan ofalwyr lleoliadau i oedolion yn eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau tymor byr a thymor hir, gwasanaethau sesiynol a gwasanaethau dydd.
  • Penderfynir ar ofal a chymorth arall ar ffurf seibiannau byr trwy asesiad gofal.

Ni fyddwch yn taluam hyd at chwe wythnos ar gyfer y gwasanaethau isod. Fodd bynnag, ar ôl chwech wythnos, os bydd angen pecyn gofal cartref arnoch ac na ellir ei gyrchu codir tâl arnoch fel lleoliad tymor byr (gweler uchod) nes bod pecyn ar gael. Penderfynir ar y tâl a godir yn rhan o asesiad ariannol.

  • Gwasanaethau ail-alluogi – darperir y rhain am hyd at chwe wythnos, gan ddibynnu ar asesiad neu adolygiad gofal.

  • Gofal canolradd – darperir gwelyau adsefydlu am hyd at chwe wythnos ac ni chodir tâl amdanynt.
  • Gwely asesu – penderfynir ar hyd yr arhosiad trwy asesiad. Gall fod yn fwy na chwe wythnos.

Preswyl (Lleoliadau Cartref Gofal Preswyl neu Nyrsio)

Byddwch yn talu am y gwasanaethau hyn.  Penderfynir ar y tâl a godir yn rhan o asesiad ariannol.

  • Dros dro, hyd at 12 mis
  • Tymor hir, 12 mis+

 

Beth dylwn i ei wneud pan fydd fy ngofal yn dechrau?

  • Dylech chi neu eich perthynas/cynrychiolydd gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i roi gwybod iddynt am eich amgylchiadau. Dylai hyn sicrhau eich bod yn cael y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
  • Dylech lenwi’r ffurflenni angenrheidiol a’u dychwelyd gyda’r dogfennau perthnasol.
  • Bydd gennych 15 niwrnod i lenwi a dychwelyd y ffurflen gyda’r dogfennau ategol.
  • Gellir trefnu estyniad 10 niwrnod os ydych yn ei chael hi’n anodd darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddiwedd y daflen ffeithiau hon i drafod estyniad. Os na chaiff y ffurflen hon ei chwblhau o fewn 25 diwrnod gwaith, byddwn yn cynhyrchu asesiad cost llawn ar gyfer y lleoliad preswyl.
  • Nodwch: bydd oedi rhwng dechrau eich gwasanaeth a'ch anfoneb gyntaf.  Mae hyn oherwydd y cyfnod amser a ganiateir ar gyfer dychwelyd eich ffurflen ariannol wedi'i chwblhau gyda dogfennaeth ategol a hefyd cylch proses anfonebau Cyngor Sir Penfro, a wneir bob pedair wythnos. Wrth i chi aros am ganlyniad eich asesiad ariannol, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu'r anfoneb gyntaf, a fydd yn cynnwys taliadau o'r diwrnod y dechreuodd y gwasanaeth.

 

Pwy all fy helpu gyda’r ffurflenni a’r broses hon?

Os ydych yn ei chael hi’n anodd llenwi’r ffurflen neu ddeall y broses hon neu ddarparu’r dogfennau ategol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y daflen ffeithiau hon.

Gallwch ofyn i rywun eich helpu hefyd, fel:

  • Cynrychiolydd (aelod o’r teulu, ffrind, pŵer atwrnai, eiriolwr, cyfreithiwr)
  • 3CEPA, sy’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol am ddim,
  • rhif ffôn 0800 206 1387, e-bost: info@cipawales.org.uk
  • Cyngor ar Bopeth, rhif ffôn: 01437 806070 (llinell gyngor leol) / 01437 767936 (Peiriant Ateb Hwlffordd) / 01646 623104 (Peiriant ateb Doc Penfro)



Pa ffurflen ariannol y dylwn i ei llenwi?

Dylech gael ffurflen gan weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol sydd wedi eich asesu ar gyfer gofal a chymorth. Os nad ydych yn cael ffurflen, gofynnwch iddo/iddi am un neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion a roddir ar ddiwedd y daflen ffeithiau hon.

Dylid cwblhau pob adran berthnasol o’r ffurflen Datganiad Modd a'i dychwelyd o fewn 15 diwrnod gwaith.

  

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn llenwi’r ffurflen ariannol?

Os na fyddwn yn derbyn eich ffurflen a’ch dogfennau o fewn y raddfa amser a bennwyd, efallai y byddwn yn codi’r tâl mwyaf am wasanaethau dibreswyl neu gost lawn gwasanaethau preswyl. Os ydych yn ei chael hi’n anodd darparu’r wybodaeth o fewn y raddfa amser hon, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y daflen ffeithiau hon.

 

Beth yw asesiad ariannol?

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd ar eich ffurflen ariannol i wneud asesiad ariannol ar eich cyfer. Bydd hyn yn dweud wrthym faint y dylech fod yn ei dalu am ofal a chymorth bob wythnos. Byddwn yn cadarnhau’r manylion a roddwyd trwy wirio’r dogfennau ategol a ddarperir gennych a chysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Byddwn yn defnyddio gwerth incwm a chyfalaf y mae gennych hawl iddynt yn unig. Mae hyn yn golygu os ydych yn rhannu eiddo neu fuddsoddiad gyda rhywun arall, byddwn yn ystyried eich rhan chi yn unig wrth wneud yr asesiad ariannol.

 

Beth yw diystyru a lwfansau?

Mae rheoliadau a pholisïau yn amlinellu rhai pethau sy’n cael eu diystyru a lwfansau. Bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar b’un a ydych yn cael gwasanaeth dibreswyl neu breswyl. Dyma rai ohonynt:

  • Gallai budd-daliadau symudedd gael eu diystyru.
  • Gellir diystyru nifer o gynlluniau a dyfarniadau iawndal.
  • Costau cysylltiedig â thai – gallai eich rhan chi o rent, morgais a’r Dreth Gyngor, er enghraifft, gael ei didynnu o gyfanswm eich incwm.
  • Ni fydd Credydau Cynilo hyd at £5.75 yr wythnos yn cael eu cyfrif.
  • Preswyl – Lleiafswm Incwm (Lwfans Personol) – Mae rheoliadau’n gosod y swm hwn bob blwyddyn ac mae’n cael ei ddiystyru o gyfanswm eich incwm.
  • Preswyl Tymor Hir – Diystyrir eiddo am 12 wythnos (Gweler y cwestiwn am eiddo isod.)
  • Dibreswyl – Caniateir 45% ychwanegol ar ben hyn i bobl sy’n derbyn Gwarant Credyd Pensiwn (Cymhorthdal Incwm) cyn i’w hincwm gael ei gyfrif.
  • Dibreswyl – Ni fydd y tŷ rydych yn byw ynddo yn cael ei gyfrif.
  • Mae terfynau cyfalaf yn cael eu cyfrifo cyn penderfynu p’un ai codi’r gost lawn. 

 

Beth yw incwm?

Incwm yw’r arian rydych chi’n ei ennill o weithio neu rydych chi’n ei dderbyn fel pensiwn, budd-daliadau neu log sy’n cael ei dalu ar fuddsoddiadau.

 

Beth yw cyfalaf?

Amrywiaeth o gynilion, buddsoddiadau ac eiddo yw cyfalaf, fel arfer.

 

Beth os oes gennyf eiddo?

  • Os byddwch yn mynd i gartref gofal am lai na 12 mis, bydd gwerth eich rhan chi o’r eiddo yn cael ei ddiystyru yn eich asesiad ariannol.
  • Diystyru eiddo am 12 wythnos – Pan fyddwch yn mynd i ofal preswyl ar gyfer lleoliad tymor hir / parhaol (12 mis+), ni fydd gwerth eich rhan chi o’r eiddo yn cael ei gynnwys yn eich asesiad am y 12 wythnos gyntaf y byddwch yn y cartref gofal. Mae’r ffactor diystyru eiddo hwn yn berthnasol i’r 12 wythnos gyntaf y byddwch mewn cartref gofal neu leoliad tymor hir/parhaol yn unig.
  • Bydd gwerth eich rhan chi o’r eiddo yn cael ei ddiystyru hefyd os yw’n cael ei feddiannu’n barhaus o’r adeg cyn i chi fynd i’r cartref gofal, gan berthynas sydd:
    • (1) Yn 60 oed neu’n hŷn, neu
    • (2) Yn blentyn i’r preswylydd sy’n iau na 18 oed, neu
    • (3) Yn analluog.
  • Os nad ydych eisiau gwerthu eich rhan chi o’ch eiddo pan fyddwch yn mynd i’r cartref gofal gyntaf, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cytundeb taliad gohiriedig.

 

Beth yw cytundeb taliad gohiriedig?

  • Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cytundeb taliad gohiriedig os ydych yn berchen ar eiddo. 
  • Os yw’ch cais am daliad gohiriedig yn llwyddiannus, gallwch ohirio rhan o’ch taliad wythnosol yn erbyn gwerth eich eiddo. 
  • Bydd rhaid i chi barhau i dalu’r rhan o daliad wythnosol y gost lawn nad yw’n cael ei gohirio. 
  • Byddwn yn gosod pridiant cyfreithiol yn erbyn eich eiddo a fydd yn aros ar waith hyd nes bod unrhyw ddyled ohiriedig yn cael ei chlirio. 
  • Byddwch yn parhau i ohirio rhan o’ch taliad hyd nes bod cyfanswm eich cyfalaf (sy’n cynnwys gwerth eich rhan chi o’r eiddo) yn disbyddu i lefel islaw’r terfyn cyfalaf cenedlaethol. 

 

Beth yw’r uchafswm wythnosol, y terfyn cyfalaf a’r ffactorau diystyru ar gyfer eleni?

 

O 6 Ebrill 2023 ymlaen:

  • Diystyru Credydau Cynilo – hyd at £5.75 yr wythnos
  • Terfyn Cyfalaf Dibreswyl - £24,000.00 y flwyddyn
  • Uchafswm Taliad Wythnosol Dibreswyl - £100.00
  • Terfyn Cyfalaf Preswyl - £50,000.00 y flwyddyn
  • Isafswm Incwm Preswyl - £43.90 yr wythnos

 

Sut mae fy nghyfalaf yn disbyddu?

  • Bydd eich taliad gofal wythnosol yn cael ei seilio ar incwm a chyfalaf sy’n uwch na’r terfyn cyfalaf.
  • Byddwn yn cyfrifo faint o’r taliad wythnosol i’w seilio ar incwm a faint i’w seilio ar y cyfalaf.
  • Bydd eich cyfalaf yn disbyddu’n wythnosol yn ôl y rhan gyfalaf o’ch taliad.
  • Enghraifft: £500.00 yr wythnos, lle mae’r rhan o incwm yn £200.00 a’r rhan gyfalaf yn £300.00.  Bob wythnos, bydd £300.00 yn cael ei ddidynnu o gyfanswm gwerth eich cyfalaf.
  • Pan fydd gwerth eich cyfalaf yn cyrraedd y terfyn cyfalaf, byddwch yn cael eich ailasesu a bydd taliad yn seiliedig ar eich incwm yn unig yn cael ei ddefnyddio.  Yn yr enghraifft uchod, mae hyn yn golygu y byddwch yn talu £200.00 ac y byddwn ni’n talu am falans cost y cartref gofal.

 

Faint byddaf yn ei dalu?

  • Mae rhai gwasanaethau’n cael eu darparu am ddim hyd at uchafswm nifer o wythnosau.  Fodd bynnag, bydd nifer yr wythnosau yn dibynnu ar eich anghenion a aseswyd.  Ar ôl y cyfnod cychwynnol y cytunwyd arno, byddwch yn cael adolygiad.  Os bydd arnoch angen rhagor o ofal a chymorth, bydd y tâl priodol yn berthnasol.
  • O ran gwasanaethau y codir tâl amdanynt, bydd y tâl yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.  Dyna pam mae’n bwysig i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen ariannol briodol.
  • O ran gwasanaeth dros dro – aros am wely gofal cartref, bydd eich taliadau’n cael eu seilio ar nifer yr oriau gofal cartref a nodwyd yn rhan o’ch asesiad integredig.  Bydd yr uchafswm wythnosol cenedlaethol yn berthnasol.  Fodd bynnag, mae’n rhaid adolygu’r gofal a’r cymorth ar ôl 8 wythnos a bydd taliadau’n cael eu codi yn dibynnu ar y gwasanaeth y mae ei angen. 
  • O ran gwasanaethau dibreswyl y codir tâl amdanynt, codir uchafswm tâl wythnosol cenedlaethol.  Hyd yn oed os yw’ch asesiad ariannol yn dangos y gallwch dalu cost lawn y gwasanaeth, codir yr uchafswm wythnosol arnoch yn unig.
  • O ran gwasanaethau preswyl y codir tâl amdanynt, mae terfyn cyfalaf yn berthnasol.  Os yw’ch cyfalaf yn uwch na’r swm hwn, byddwch yn talu cost wythnosol lawn eich lleoliad hyd nes bod eich cyfalaf yn disbyddu i lefel islaw’r terfyn cyfalaf.
  • Oni bai y cytunwyd y byddwch yn cael cyllid Gofal Iechyd Parhaus llawn, bydd rhaid i chi gyfrannu tuag at leoliad cartref gofal bob amser.  Mae hyn yn cynnwys lleoliadau nyrsio oherwydd bod y rhain yn cael eu hariannu’n rhannol yn unig gan y gwasanaeth iechyd.
  • Os byddwch yn dewis taliad uniongyrchol, bydd y taliad a godir arnoch yn cael ei alw’n gyfraniad.  Mae’r cyfraniad hwn yn cael ei gyfrifo yn ôl eich amgylchiadau ariannol.  Bydd y cyfraniad wythnosol yn cael ei ddidynnu o swm y taliad uniongyrchol wythnosol a ddyfarnwyd i chi.  Bydd y swm net yn cael ei dalu i chi.
  • Mae Adran 117 yn ymwneud â gwasanaethau ôl-ofal a allai fod yn angenrheidiol ar ôl rhyddhau o gyfleuster iechyd meddwl neu er mwyn atal aildderbyn i gyfleuster o’r fath.  Gellid codi tâl am wasanaethau eraill nad ydynt yn gysylltiedig.

 

Pryd byddaf yn dechrau talu am wasanaeth y codir tâl amdano?

  • Codir tâl arnoch o’r diwrnod y bydd eich gwasanaeth yn dechrau.
  • Os byddwch yn cael gwasanaeth rhad ac am ddim ac yna’n symud ymlaen i gael gwasanaeth y codir tâl amdano, codir tâl arnoch o’r diwrnod y bydd eich gwasanaeth y codir tâl amdano’n dechrau.
  • Bydd rhaid i chi dalu ar ôl i chi gael yr anfoneb gyntaf.
  • Byddwch yn cael anfoneb bob 4 wythnos.

 

Sut gallaf dalu?

  • Gallwn sefydlu trefniant Debyd Uniongyrchol ar eich cyfer.
  • Dros y ffôn.
  • Ar-lein trwy wefan Cyngor Sir Penfro gan ddefnyddio’r cyfleuster ‘Fy Nghyfrif’.
  • Gallwch sefydlu gorchymyn atal gyda’ch banc.
  • Gallwch dalu â siec gan ddefnyddio rhif eich anfoneb ddiweddaraf fel cyfeirnod.
  • Gallwch dalu yn ein canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid gan ddefnyddio’ch anfoneb ddiweddaraf.

 

Beth os na fyddaf yn talu?

  • Os ydych yn cael trafferth talu am eich gofal a’ch cymorth, cysylltwch â ni.
  • Mae’r rheoliadau’n amlinellu proses adennill dyledion. Cysylltwch â’n swyddog adennill dyledion i gael rhagor o fanylion. 

 

Beth os nad wyf yn cytuno â’m taliad a aseswyd?

  • Os ydych yn credu nad yw’ch taliad wedi cael ei gyfrifo’n iawn neu os ydych yn credu bod eich amgylchiadau’n arbennig, gallwch ofyn am gael apelio yn erbyn eich taliad.
  • Dylid cyflwyno ceisiadau am apêl i’r Swyddog Adennill Dyledion.



Beth os bydd fy amgylchiadau’n newid?

  • Os ydych yn credu bod arnoch angen gofal a chymorth gwahanol, efallai y bydd angen i chi gael eich atgyfeirio i’r gwasanaethau cymdeithasol i gael asesiad. Ffoniwch ein canolfan gyswllt, os gwelwch yn dda.
  • Os yw’ch amgylchiadau ariannol wedi newid, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y daflen ffeithiau hon i roi eich gwybodaeth wedi’i diweddaru i ni. Yna, byddwn yn cynnal asesiad ariannol newydd ar eich cyfer.

 

Manylion cyswllt

  • Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro - 01437 764551
    • Os yw’ch anghenion yn newid ac rydych yn credu bod angen i chi gael eich atgyfeirio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
    • Os yw’ch amgylchiadau ariannol yn newid ac rydych eisiau rhoi gwybod i ni neu os oes gennych ymholiad ynglŷn â’r ffurflen neu ddogfennau ategol. Gofynnwch am Dîm Asesiadau Ariannol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
    • Os ydych eisiau talu anfoneb dros y ffôn.

  • Tîm Asesiadau Gwasanaethau Cymdeithasol - 01437 775611
    • Os bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid ac rydym am ein hysbysu, neu os oes gennych ymholiad am y ffurflen neu ddogfennau ategol

  • Swyddog Adennill Dyledion y Gwasanaethau Cymdeithasol - 01437 776088
    • Os ydych eisiau cael gwybodaeth am daliad gohiriedig neu wneud cais amdano.
    • Os ydych eisiau trafod dyled sy’n ddyledus.
    • Os ydych eisiau gofyn am adolygiad o’ch taliad a aseswyd.
ID: 10077, adolygwyd 15/08/2024