Canllawiau a Wybodaeth

Adrodd ar Berfformiad Plant 2020/21

Daw’r wybodaeth am berfformiad a gyflwynir isod o’n ffurflen ddata i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22. Dyma’r flwyddyn gyntaf i ni gyflwyno adroddiad trwy drefniadau gorfodol.

Yn ystod 2021/22 cawsom 4,690 o gysylltiadau a oedd yn ymwneud â phlant sy’n sylweddol uwch na’r flwyddyn flaenorol pan gawsom 3,012. Fel gyda’r gwasanaethau oedolion bu effaith sylweddol o ran nifer y cysylltiadau oddi wrth yr Heddlu. Yn 2020/21 roedd y ffigwr yn 1,711 ac yn 2021/22 roedd hwn wedi cynyddu i 2,431. Mae nifer y cysylltiadau oddi wrth y gwasanaethau Iechyd (632) ac Addysg (620) yn sylweddol uwch na’r flwyddyn flaenorol hefyd (Iechyd, 416 ac Addysg, 260). Ceir nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at y cynnydd mewn cysylltiadau gan gynnwys diwedd y cyfnodau clo Covid a’r argyfwng costau byw.

Yn dilyn adolygiad o bob cyswllt mae’r tîm yn penderfynu pryd y mae asesiad yn ofynnol. Roedd cyfanswm nifer yr asesiadau newydd a gwblhawyd ar gyfer plant yn ystod y flwyddyn yn 1,674, a oedd ychydig yn llai na’r flwyddyn flaenorol (1,709) er bod nifer sylweddol fwy o gysylltiadau. 

Yn dilyn asesiad mae nifer o ddeilliannau:

  • Daeth 769 o asesiadau i’r casgliad mai dim ond â chynllun gofal a chymorth y gellir diwallu anghenion plentyn
  • Daeth 882 o asesiadau i’r casgliad bod anghenion plentyn yn gallu cael eu diwallu trwy ddulliau eraill
  • Daeth 23 o asesiadau i’r casgliad nad oes gan blentyn unrhyw anghenion cymwys

Ar 31 Mawrth 2021 roedd 507 o blant o Sir Benfro a oedd â chynllun gofal a chymorth ac roedd y ffigwr hwn wedi codi i 605 erbyn 31 Mawrth 2022. Mae niferoedd cynyddol a materion recriwtio’n rhoi pwysau ychwanegol ar y timau gwaith cymdeithasol.

Mae nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant wedi bod yn cynyddu’n gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond wedi gostwng eto’n fwy diweddar. Ar 31 Mawrth 2017 roedd 36 o blant, 71 ym mis Mawrth 2019 a 95 yn 2021. Roedd nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant ym mis Mawrth 2022 wedi gostwng i 52. 

Mae plant yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Yn ystod 2021/22 cafodd cyfanswm o 120 o blant eu tynnu oddi ar y gofrestr.

Mae nifer y Plant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, a hynny o 127 ym mis Mawrth 2017 i 183 ym mis Mawrth 2020, 222 ym mis Mawrth 2021 a 217 ym mis Mawrth 2022. Unwaith eto mae’r niferoedd cynyddol hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar ein timau gofal plant. 

Yn ystod 2021/22 fe wnaethom barhau i weithio tuag at ein targedau i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru. Ym mis Mawrth 2021 fe lansiom ni ein Strategaeth 3 blynedd i Leihau Nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae hon yn cynnwys nifer o wahanol weithgareddau sydd wedi’u canoli’n fras ar 2 thema: atal plant rhag dod i mewn i’r system a chynorthwyo plant i adael y system derbyn gofal yn ddiogel. Rydym wedi gwneud cynnydd gyda sawl agwedd ar y cynllun gweithredu cysylltiedig, gan gynnwys gyda chymorth Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig, Cynadleddau Grŵp Teuluol a Diddymu Gorchmynion Gofal, er y derbynnir, hyd yn oed os gallwn leihau niferoedd y plant y mae angen gofal arnynt, y bydd niferoedd presennol yn cymryd amser i ostwng wrth i blant adael y system.

Rydym wedi gweld nifer o orchmynion gofal plant yn cael eu diddymu yn y 12 mis diwethaf gyda llawr mwy ar fin dod gerbron y llys. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio swm sylweddol o arian grant adferiad Covid ar gyfer amrywiaeth o fentrau ataliol gyda phartneriaid elusennol ac yn y trydydd sector megis banciau bwyd, gwasanaethau cwnsela a gwasanaethau cymorth ar gyfer plant a theuluoedd. Bydd y strategaeth yn cael ei hadolygu a’i diweddaru yn 2022.

Roedd cyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gofal nad ydynt wedi’u lleoli gyda theulu, rhieni neu ffrindiau yn 154 ym mis Mawrth 2021 ac yn 147 ym mis Mawrth 2022. Mae cyfanswm o 7 plentyn sy’n derbyn gofal wedi’u lleoli y tu allan i Gymru i sicrhau eu bod yn cael eu gofal a’r cymorth mwyaf priodol. Roedd nifer y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd i’w cartref yn ystod 21/22 yn 40. Mae’r nifer hwn yn sylweddol fwy na’r flwyddyn flaenorol pan oedd yn 29.

Adrodd ar Berfformiad mewn perthynas â Gofalwyr Ifainc yn 2021/22

Cafodd y gwasanaethau gofal cymdeithasol statudol 22 o gysylltiadau ar gyfer gofalwyr ifainc yn ystod 2020/21 gyda phobl person yn cael gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Roedd y ffigwr hwn wedi tyfu i 32 o gysylltiadau yn 2021/22. Fe ymatebwyd i’r holl gysylltiadau hynny â gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy.

Bu cynnydd hefyd yn nifer yr asesiadau o anghenion gofalwyr ifainc a gwblhawyd, gyda'r ffigwr yn cynyddu o 18 yn 2020/21 i 30 yn 2021/22. Fe arweiniodd pob un o’r 30 o asesiadau at ddarparu cynllun gofal a chymorth ar gyfer y gofalwr ifanc i ddiwallu ei anghenion. Ar 31 Mawrth 2021 roedd 142 o ofalwyr ifainc yn Sir Benfro â chynllun cymorth, ac roedd hyn wedi codi i 146 ar 31 Mawrth 2022.

ID: 9546, adolygwyd 16/03/2023