Canllawiau a Wybodaeth
Archwiliad Rheoleiddiol Archwilio Cymru
Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar y modd y mae cynghorau’n darparu Taliadau Uniongyrchol.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru a chynghorau, ac yn taflu goleuni ar sut y gall darparu Taliadau Uniongyrchol chwarae rhan allweddol mewn gwaith i roi egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar waith. Cyflwynwyd cyfanswm o 10 argymhelliad. Mae’r Tabl isod yn dangos sut y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd i’r afael â’r argymhellion hynny.
I sicrhau bod pobl yn gwybod am Daliadau Uniongyrchol, sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a’u bod yn cael eu hannog i’w defnyddio, rydym yn argymell bod awdurdodau lleol:
Argymhellion yr Adroddiad 1 - Yn adolygu gwybodaeth gyhoeddus gan drafod gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr i sicrhau ei bod yn eglur, yn gryno ac yn egluro’n llawn yr hyn y mae angen iddynt ei wybod am Daliadau Uniongyrchol
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Fe ddechreuom ni reoli’r gwasanaeth yn uniongyrchol ym mis Ebrill 2021. Fel rhan o’r newid hwn fe wnaethom adolygu ein gwybodaeth gyhoeddus ac mae hon ar gael ar wefan CSP. Mae fersiwn hawdd i’w darllen wedi cael ei datblygu hefyd.
Rydym wedi ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau ac ymgynghorwyr personol er mwyn deall yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt.
Rydym wedi ymgynghori â’n cydweithwyr ym maes Gofal Cymdeithasol i sicrhau eu bod yn gallu rhannu gwybodaeth gyda defnyddwyr gwasanaethau a allai ddefnyddio taliadau uniongyrchol. Dyrennir Ymgynghorydd Byw’n Annibynnol i bob defnyddiwr gwasanaethau sy’n eu cynorthwyo i gael mynediad at yr wybodaeth a’i deall.
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Wedi’i gwblhau
Argymhellion yr Adroddiad 2 - Yn gwneud gwaith hyrwyddo ychwanegol i annog pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol.
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Ers dod â’r gwasanaeth dan reolaeth uniongyrchol y Cyngor rydym wedi gallu ei alinio’n agos â’r timau gwaith cymdeithasol. Mae’r rheolwr sy’n gyfrifol am y gwasanaeth gweinyddol yn aelod o Dîm Rheoli’r Gyfarwyddiaeth gyda rheolwr y gwasanaeth Gofal i Oedolion. Mae cyfathrebu agos ar draws y timau ac ymgysylltu wedi ein galluogi i hyrwyddo’r gwasanaeth ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol. O ganlyniad mae nifer y defnyddwyr gwasanaethau sy’n cael mynediad at daliadau uniongyrchol wedi tyfu o 375 i 425. Ym mis Awst 2021 roedd dros 40% o’r oriau o ofal a oedd yn cael eu darparu yn Sir Benfro’n cael eu darparu o ganlyniad i daliad uniongyrchol. Mae’r tîm gweinyddu Taliadau Uniongyrchol wedi mynychu’r fforwm ymarferwyr i hyrwyddo’r gwasanaeth. Mae niferoedd y ceisiadau wedi parhau i dyfu wrth i hyder yn y gwasanaeth gynyddu.
Mae hyfforddiant diweddaru i Weithwyr Cymdeithasol ar Daliadau Uniongyrchol yn cael ei ddatblygu
Gweler Hefyd A6
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Tachwedd 2022
Argymhellion yr Adroddiad 3 - Yn sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth yn cael eu hystyried ar y pwynt cyswllt cyntaf i roi cyngor annibynnol ynghylch Taliadau Uniongyrchol i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Yn ddiweddar rydym wedi comisiynu darparwr gwasanaethau eiriolaeth newydd gyda’n partneriaid rhanbarthol. Mae ein holl ffurflenni atgyfeirio’n cael eu cwblhau gan y ganolfan gyswllt gorfforaethol ac maent yn cynnwys cwestiwn am gymorth eiriolaeth. Rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau eiriolaeth ar daflenni ffeithiau, ffurflenni cais ac ar ein gwefan.
Mae deunydd marchnata a gwybodaeth atgyfeirio/porth yn cael eu rhannu gyda’r holl dimau a rhanddeiliaid allweddol. Rydym yn darparu hyfforddiant diweddaru a gwybodaeth ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol ynghylch mynediad at y fframwaith gwasanaethau eiriolaeth newydd i gynorthwyo Defnyddwyr Gwasanaethau gyda chyngor annibynnol.
Byddwn yn cysylltu â’r pwynt cyswllt cyntaf i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r fframwaith newydd.
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Medi 2022
I sicrhau bod Taliadau Uniongyrchol yn cael eu cynnig yn gyson rydym yn argymell bod awdurdodau lleol:
Argymhellion yr Adroddiad 4 - Yn sicrhau bod gwybodaeth am Daliadau Uniongyrchol ar gael yn y drws blaen i ofal cymdeithasol a’u bod yn cael eu cynnwys yn y drafodaeth gychwynnol am yr opsiynau o ran gofal sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Rydym wedi diweddaru gwybodaeth a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol allweddol sy’n gysylltiedig â darparu opsiynau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. (gweler A2)
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Wedi’i gwblhau
Argymhellion yr Adroddiad 5 - Yn darparu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar Daliadau Uniongyrchol i sicrhau eu bod yn deall eu potensial yn llawn ac yn teimlo’n hyderus yn eu hyrwyddo i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Mae peth hyfforddiant wedi cael ei ddarparu ac mae hyfforddiant pellach yn cael ei ddatblygu.
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Tachwedd 2022
I sicrhau bod digon o gapasiti Cynorthwywyr Personol, rydym yn argymell bod awdurdodau lleol, trwy Fforwm Taliadau Uniongyrchol awdurdodau lleol Cymru Gyfan a Gofal Cymdeithasol Cymru:
Argymhellion yr Adroddiad 6 - Yn cydweithio i ddatblygu Cynllun Recriwtio a Chadw ar y cyd ar gyfer Cynorthwywyr Personol
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Mae cynllun datblygu’r gweithlu yn ei le sy’n cynnwys rolau gofalu a gwaith cymdeithasol allweddol.
Mae ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â phwysau’r gweithlu o fewn gofal cymdeithasol wedi cael ei ddatblygu; fe’i lansiwyd ym mis Ionawr 2022 ac mae’n cynnwys Cynorthwywyr Personol. Mae sioeau teithiol/ digwyddiadau wedi’u trefnu ac mae ffrydiau parhaus yn y cyfryngau yn eu lle. Mae hyn wedi arwain at rai penodiadau er bod gennym fel arfer rhwng 30 a 40 o swyddi gwag ar gyfer Cynorthwywyr Personol ar unrhyw adeg benodol.
Er mwyn rhoi cymorth i gadw pobl yn y gweithlu rydym wedi datblygu ystod o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer Cynorthwywyr Personol.
Byddwn yn datblygu mentrau eraill megis cyfleoedd ymgysylltu a rhannu i Gynorthwywyr Personol. Bydd fforwm Cynorthwywyr Personol yn cael ei gynnull lle gall pobl ddylanwadu ar y gwasanaeth gweinyddol.
Datblygu a gwella gwasanaethau cyflogres i alluogi Cynorthwywyr Personol i gael mynediad at borth i rannu gwybodaeth.
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Ionawr 2023
I sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu mewn modd cyfartal a theg rydym yn argymell bod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru:
Argymhellion yr Adroddiad 7 - I sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu mewn modd cyfartal a theg rydym yn argymell bod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
Yn egluro disgwyliadau polisi mewn iaith glir, hygyrch ac yn nodi:
- yr hyn y gall Taliadau Uniongyrchol dalu amdano;
- sut y mae prosesau ymgeisio ac asesu, graddfeydd amser a phrosesau adolygu’n gweithio;
- sut y bydd monitro taliadau uniongyrchol a’r gwaith papur sy’n ofynnol i wirio taliadau’n gweithio;
- sut y bydd arian nas defnyddiwyd yn cael ei drin a pha un a ellir ei fancio;
- sut i weinyddu a rheoli cyllidebau cyfun
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Byddwn yn sicrhau bod yr holl feysydd allweddol yn cael eu cynnwys fel a nodir isod:
- yr hyn y gall Taliadau Uniongyrchol dalu amdano;
- sut y mae prosesau ymgeisio ac asesu, graddfeydd amser a phrosesau adolygu’n gweithio;
- sut y bydd monitro taliadau uniongyrchol a’r gwaith papur sy’n ofynnol i wirio taliadau’n gweithio;
- sut y bydd arian nas defnyddiwyd yn cael ei drin a pha un a ellir ei fancio;
Bydd ffrwd waith ar wahân yn cael ei sefydlu i fapio’r system a’r broses o ran sut i weinyddu a rheoli Taliadau Uniongyrchol cyfun.
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Mawrth 23
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru:
Argymhellion yr Adroddiad 8 - Yn sicrhau bod gan bobl sy’n cael gofal iechyd parhaus y GIG a Thaliadau Uniongyrchol fwy o lais, dewis a rheolaeth pan wneir penderfyniadau.
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Llywodraeth Cymru - Dim gweithredu’n ofynnol gan CSP
I reoli perfformiad yn effeithiol a gallu barnu effaith Taliadau Uniongyrchol a’u gwerth am arian, rydym yn argymell bod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru:
Argymhellion yr Adroddiad 9 - Yn cydweithio i sefydlu system i werthuso Taliadau Uniongyrchol yn llawn a honno’n system sy’n cofnodi pob elfen o’r broses – gwybodaeth, hyrwyddo, asesu, rheoli a gwerthuso effaith ar lesiant ac annibyniaeth.
Camau gweithredu y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhellion - Mae Adolygiad o’r gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol wedi cael ei gynnal ym mis Mawrth 2022. Mae canfyddiadau’r adolygiad hwn wedi goleuo’r strwythur a’r blaenoriaethau allweddol cysylltiedig i ddatblygu’r gwasanaeth TU ymhellach. Mae grŵp prosiect wedi cael ei ffurfio i roi’r blaenoriaethau ar waith ac mae hwnnw’n atebol i grŵp llywio. Mae’r blaenoriaethau allweddol yn cynnwys:
- Ail-gomisiynu’r system bancio a chyflogres a reolir sy’n bodoli ar hyn o bryd
- Parhau i ddatblygu cymorth gyda llesiant i Gynorthwywyr Personol, gan gynnwys cymorth o ran Adnoddau Dynol a hyfforddiant.
- Datblygu defnydd mwy creadigol o TU e.e. cyllid cyfun
- Adolygu’r model costau
- Arallgyfeirio’r arlwyon h.y. datblygu mentrau cymdeithasol a micro-fentrau
Dyddiad targed ar gyfer cwblhau - Wedi’i gwblhau