Canllawiau a Wybodaeth

Arolygiad Rheoleiddiol Arolygiaeth Gofal Cymru

Fe gynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad o’r gwasanaethau oedolion a phlant yng Nghyngor Sir Penfro ym mis Mawrth a mis Ebrill 2022.

Diben yr arolygiad hwn oedd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol o ran cyflawni ei ddyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â’r ddeddfwriaeth.

1.  Pobl – llais a rheolaeth

Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn asesu anghenion unigolyn am ofal a chymorth (gan gynnwys oedolion a phlant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso), neu gymorth yn achos gofalwr?

2.  Atal

Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn adolygu cynlluniau gofal a chymorth pobl yn barhaus, gan gynnwys pan fydd angen diwallu anghenion yr unigolyn er mwyn ei amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso?

3.  Llesiant

Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn cadw pobl yn ddiogel ac yn hyrwyddo llesiant mewn perthynas â chyflawni ei gyfrifoldebau statudol?

4.  Partneriaethau ac Integreiddio

Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn diwallu’r angen am ofal a chymorth (gan gynnwys y rheini y mae angen eu hamddiffyn) a sut mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau i’r bobl?


Pobl

  • Yn y gwasanaethau oedolion, mae llawer o bobl yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol a nodwyd gan eu hunain. Dywedodd pobl fod y gwasanaethau cymdeithasol o gymorth a’u bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.
  • Mae taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio’n gadarnhaol a cheir enghreifftiau o gynorthwywyr personol yn gweithio gyda phobl ag anghenion cymhleth.
  • Ceir enghreifftiau cadarnhaol o oedolion yn cael cynnig eiriolaeth a’r manteision a ddaw yn sgîl hyn wrth ddatblygu gofal a chymorth.
  • Ceir enghreifftiau o ymarferwyr yn cydweithio’n gyson gyda phlant; dywedodd un unigolyn ifanc fod ganddo’r un gweithiwr cymdeithasol ers blynyddoedd lawer a bod hwnnw’n “nabod fi’n dda iawn” ac roedd “bob amser ar ochr arall y ffôn” pan fo angen.

Yr hyn y mae angen ei wella

  • Mae oedi wrth helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau yn bryder sylweddol. Roedd hyn yn bennaf oherwydd canlyniad anochel y galw uchel a diffyg adnoddau.  Roedd siom nad oedd ceisiadau am gapasiti ychwanegol i wella darpariaeth gwasanaethau ar draws y gwasanaethau oedolion a phlant wedi cael eu cefnogi gan y cyngor.
  • Sicrhau y cynigir asesiad gofalwr yn brydlon ac yn ddiamwys.
  • Sicrhau bod pob un o’r ymarferwyr yn deall pa mor bwysig yw darparu gwasanaeth yn iaith dewis cyntaf y bobl.
  • Dywedodd llawer o bobl y gallai cysylltu â gofal cymdeithasol drwy’r brif linell ffôn gymryd amser maith. Roedd cysylltu mewn argyfwng yn bryder arbennig ac awgrymwyd y dylid cael llinell gofal cymdeithasol bwrpasol.
  • Yn y gwasanaethau plant, o ran goruchwyliaeth mae angen gwella cymorth llesiant, a chymorth dysgu a datblygu.
  • Mae angen datblygu cyd-gynhyrchu cynlluniau gofal a chymorth rhywfaint. Mae angen defnyddio iaith glir, a rhaid esbonio’r newidiadau y mae disgwyl i rieni a gofalwyr eu gwneud yn glir.

Atal    

  • Roedd pobl yn gadarnhaol am ddull gweithredu’r awdurdod lleol o ran atal, a seilwaith gwasanaethau a helpodd i ddatblygu cymorth yn y gymuned.
  • Ceir enghreifftiau o wasanaethau sy’n gallu ymateb yn brydlon i fodloni lefel benodol o angen er gwaethaf galw uchel; mae gwasanaeth ail-alluogi therapi galwedigaethol yn ymatebol ac yn darparu gofal a chymorth i helpu’r bobl i ddychwelyd i’w cartrefi neu i aros ynddynt.
  • Mae’r awdurdod lleol yn ymwybodol o restrau aros ar draws meysydd gwasanaethau oedolion ac yn eu monitro, ac mae wedi comisiynu sefydliad allanol i helpu i fynd i’r afael â’r asesiadau sydd wedi ôl-gronni.
  • Blaenoriaeth strategol oedd sicrhau ‘y gwasanaeth iawn ar yr amser iawn’.
  • Mae aelodau staff arweiniol y Tîm o Amgylch y Teulu a diogelu addysg yn darparu cyswllt rhwng ysgolion a’r awdurdod lleol a phartneriaid. Nododd AGC fod prosesau cyfnewid gwybodaeth da ar waith. Mae hyn yn rhoi cyfle i weithio gyda theuluoedd yn gynnar. Gwelsom hefyd rai arferion da sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
  • Mae Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol wedi’u hyfforddi ymhlith y staff ym mhob ysgol ac mae eraill wedi derbyn hyfforddiant ar arferion ar sail emosiynol ac ar sail trawma.
  • Mae gan yr awdurdod lleol gryfderau yn ei gynhadledd amddiffyn plant ac adnodd ei Swyddogion Adolygu Annibynnol. Roedd adolygiadau ar gyfer plant, drwy gynadleddau amddiffyn plant a gweithdrefnau plant sy’n derbyn gofal, yn gadarnhaol ar y cyfan.

Yr hyn y mae angen ei wella

  • Dylai’r awdurdod lleol ganolbwyntio o’r newydd ar sut y gall fynd i’r afael yn brydlon ag anghenion a gyflwynir ar draws y system gofal cymdeithasol. Roedd oedi wrth asesu, adolygu, cynllunio gofal a chymorth a chyfathrebu yn rhesymau pam yr oedd rhai pobl yn anhapus â’r gwasanaeth yr oeddent yn ei dderbyn gan y gwasanaethau oedolion.
  • Mae heriau’n wynebu’r awdurdod lleol wrth atal anghenion rhag dwysáu oherwydd y nifer cyson uchel o atgyfeiriadau, ynghyd â chymhlethdod anghenion y plant a’r peryglon maent yn eu hwynebu.
  • Gwelsom fod llwyth gwaith staff yn anochel yn uchel a’i bod yn anodd blaenoriaethu gwaith a throsglwyddo ffeiliau ar draws timau yn effeithlon.
  • Roedd rhai asesiadau risg wedi anwybyddu dangosyddion risg. Roedd diffyg chwilfrydedd proffesiynol a gwelwyd cyfleoedd a gollwyd i archwilio risg yn drylwyr, gan gynnwys pryderon hanesyddol.
  • Gwelsom fod bylchau hollbwysig mewn ymweliadau i weld rhai plant, ac nid oedd grwpiau craidd yn amlwg. Mae’r rhain yn elfennau hanfodol o’r system amddiffyn plant a rhaid mynd i’r afael â nhw.
  • Mae’n amserol i’r awdurdod lleol ail-rymuso ei ddull o roi sicrwydd bod pobl yn cael gofal a chymorth sy’n ddiogel, yn effeithiol ac yn ymatebol.

Partneriaethau ac Integreiddio

  • Yn gyffredinol, manteisir yn gadarnhaol ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth ar lefel weithredol. Mae’r tîm rhyddhau ar y cyd a’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth yn enghreifftiau arbennig o gadarnhaol, gyda chydweithrediad agos rhwng therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, a gweithwyr cymdeithasol.
  • Roedd yr adborth oddi wrth bartneriaid yn gadarnhaol ar y cyfan o ran gweithio rhyngasiantaethol.
  • Roedd yr ymatebion gan sefydliadau partner mewn perthynas â’r gwasanaethau plant yn gadarnhaol ar y cyfan, a dywedasant fod cysylltiadau gwaith cynhyrchiol rhwng timau gofal cymdeithasol a phartneriaid. Ategwyd hyn mewn gweithgarwch arolygu arall lle gwelsom fod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n dda rhwng yr heddlu, ysgolion a thimau mewnol.

Yr hyn y mae angen ei wella 

  • Rhaid i’r uwch reolwyr ar draws yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd gydweithio.
  • Nodwyd rhywfaint o anawsterau wrth gydweithio â chydweithwyr iechyd yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Barnwyd bod y trothwyon ar gyfer mynediad at y gwasanaethau’n uchel.
  • Cafwyd enghreifftiau pan nad oedd cefnogaeth gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl awtistig, anableddau dysgu ac iechyd meddwl ar gael neu roeddent yn cymryd gormod o amser i’w cyrchu. Mae hon yn sefyllfa argyfyngus a rhaid ei datrys gan fod rhai oedolion agored i niwed yn cael eu gadael yn ynysig ac mewn perygl y bydd eu hanghenion yn dwysáu.
  • Rhaid i’r awdurdod lleol weithio gyda phartneriaid i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Statudol ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth.
  • Mae AGC yn disgwyl i’r awdurdod lleol weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â bylchau critigol mewn meysydd gwasanaethau eraill, gan gynnwys meysydd arbenigol fel asesiadau synhwyraidd a lleferydd ac iaith. Roedd cymorth ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol plant hefyd yn gyfyng iawn.
  • Roedd pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion yn faes problemus. Gwelodd AGC fylchau yn y gwasanaethau a ddarperir i bobl ifanc 17/18 oed ac yn hŷn.

Llesiant

  • Yng nghyd-destun y galw cynyddol, ac adnoddau’n brwydro i fodloni’r galw hwn, canfuom fod yr awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau yn bennaf, a’i fod yn cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant pobl.
  • Mae llais yr unigolyn a’i farn yn y cyd-destun diogelu yn cael eu cynrychioli’n dda ar y cyfan.  Yn ystod y gweithgarwch arolygu ffurfiol diwethaf fe wnaed sylwadau ar ddadansoddiadau ymarferwyr ac oedd crynodeb o ffeiliau gwasanaethau oedolion yn glir ac â phwyslais ar y cyfan. Gwelodd AGC fod cydbwysedd da o wybodaeth.
  • Mae gweithwyr cymdeithasol yn glynu at brosesau diogelu oedolion ac yn eu deall ar y cyfan. Gwelwyd rhai enghreifftiau rhagorol o ddadansoddiadau ymarferwyr a rhesymeg a gofnodwyd.  Pan oedd gan bobl weithiwr penodedig, gwelwyd gwaith eithriadol gyda phobl ag anghenion cymhleth fel awtistiaeth.
  • Gwelwyd enghreifftiau o fynediad prydlon at asesiadau therapi galwedigaethol a gwasanaethau’n cael eu darparu drwy’r llwybr hwn ac ymatebion amserol ar y cyfan yn sicrhau diogelwch uniongyrchol plant a phobl ifanc. Gwelwyd tystiolaeth o arfer cadarnhaol wrth ymateb i’r bobl ifanc a oedd mewn perygl o fod yn destun cam-fanteisio.

Yr hyn y mae angen ei wella 

  • Sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i reoli gweithgarwch diogelu oedolion.
  • Cynnig asesiad i’r bobl pan ymddengys fod ganddynt anghenion gofal a chymorth cymwys, ac os caiff y cynnig hwn ei dderbyn, sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gynnal.
  • Gwneud gwaith yn canolbwyntio ar bobl awtistig a phobl ag anableddau dysgu i ddeall eu safbwyntiau a’u profiadau.
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hasesu pan ymddengys fod ganddynt anghenion gofal a chymorth cymwys. Mae rhai elfennau allweddol o’r system amddiffyn plant yn destun oedi ac ni chynhaliwyd neu ni chofnodwyd ymweliadau statudol a grwpiau craidd.
  • Mae patrwm comisiynu gwasanaethau heb eu rheoleiddio yn bryder sylweddol gan na all AGC fod yn sicr o safonau a diogelwch. Mae’n galonogol bod gan yr awdurdod lleol gynlluniau i gynyddu nifer y lleoliadau. Bydd cefnogaeth gorfforaethol yn hanfodol i lwyddiant y cynlluniau hyn.
  • Mewn perthynas â phlant coll, gwelodd AGC wybodaeth yn cael ei rhannu gan yr heddlu ar ffurf atgyfeirio ac atodiadau. Fodd bynnag, ni welsom yn benodol gyfweliadau dychwelyd adref yn ddiogel (a gynhaliwyd gan Llamau). Mae angen gweithio’n agosach gyda Llamau i fynd i’r afael â’r pryder hwn.

Bydd cynnydd yn erbyn y meysydd a nodwyd i’w gwella yn dilyn yr arolygiad yn cael ei fonitro’n chwarterol gan Dîm Rheoli’r Gyfarwyddiaeth. Bydd tystiolaeth o wella’n cael ei chyflwyno i AGC yn ystod eu cyfarfodydd gyda Phenaethiaid Gwasanaeth yn 2022/23.

ID: 9547, adolygwyd 16/03/2023