Canllawiau a Wybodaeth
Perfformiad Gofal Oedolion 2021/22
Mae’r adran hon yn darparu trosolwg o ran sut y perfformiodd gofal i oedolion yn ystod 2021/22. Daw peth o’r wybodaeth am berfformiad isod o’n ffurflen ddata i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22. Dyma’r ail flwyddyn i ni gyflwyno adroddiad sydd bellach yn orfodol dan y cod ymarfer newydd.
Mae cyfanswm y cysylltiadau ffôn ac e-bost ynglŷn â gofal cymdeithasol a gafwyd gan ein Canolfan Gyswllt gorfforaethol wedi bod yn gostwng yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf o 43,219 yn 2016/17 i 25,077 yn 2021/22. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol dros gyfnod o 6 blynedd. Gallai hyn olygu bod mwy o bobl yn cysylltu â ni trwy ddulliau electronig megis e-bost gan y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y galwadau sy’n cael eu trosglwyddo i bobl o 7,527 yn 2017/18 i 674 yn 2021/22.
Rydym ni’n credu mai rheswm arall dros y gostyngiad hwn mewn cysylltiadau â’r Awdurdod yw ein bod ni wedi bod wrthi’n barhaus yn datblygu ein gwasanaethau ataliol ac yn estyn yr ystod o sefydliadau sy’n gallu rhoi gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy o ansawdd. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r sector Gwirfoddol ac ystod eang o fentrau cymunedol i gefnogi pobl yn eu cymunedau eu hunain.
Mae’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid gorfforaethol, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Croesffyrdd, Cysylltwyr Cymunedol a llawer o sefydliadau eraill yn parhau i roi gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Roedd yr Hyb Cymunedol a sefydlwyd mewn ymateb i bandemig Covid yn gallu dod â gwybodaeth ynghyd o’r holl bwyntiau cyswllt hyn ynghyd â gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i ddatrys problemau ar gyfer anghenion penodol pobl.
Mae nifer y cysylltiadau yr ydym wedi’u cael a’u cofnodi o ran defnyddwyr gwasanaethau newydd wedi cynyddu’n sylweddol gyda 3,325 yn cael eu cofnodi yn 2020/21 a 5,216 yn 2021/22. Mae cynnydd sylweddol wedi dod oddi wrth yr Heddlu a anfonodd 1,010 o gysylltiadau yn 2021/22 a 115 yn 2020/21. Bu cynnydd sylweddol hefyd mewn cysylltiadau oddi wrth wasanaethau Iechyd trwy ein tîm gofal canolradd. Mae cysylltiadau oddi wrth wasanaethau Iechyd wedi cynyddu o 530 i 1,145.
O’r cysylltiadau hyn o ran defnyddwyr gwasanaethau newydd fe arweiniodd 67% at roi gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn 2021/22 sydd 7% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, pan oedd y ffigwr yn 60%.
Mae timau gofal cymdeithasol yn cwblhau mwy o asesiadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau newydd nag a wnaethant mewn blynyddoedd blaenorol. Eleni fe wnaethom gwblhau 1,661 o asesiadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau newydd, a ninnau wedi cwblhau 900 o asesiadau yn 2020/21. Rydym yn ystyried bod dechrau’r pandemig a’r cyfnod clo cyntaf wedi cael effaith sylweddol ar nifer y bobl a oedd yn gofyn am gymorth a bod niferoedd wedi dechrau codi unwaith y dechreuwyd llacio’r cyfyngiadau.
Er y bu cynnydd yn nifer yr asesiadau sy’n cael eu cwblhau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau newydd mae nifer gwirioneddol y bobl a all gael eu cefnogi â chynllun gofal a chymorth yn unig yn 878 ar gyfer 2021/22 a 741 ar gyfer 2020/21. Arweiniodd canran sylweddol fwy o asesiadau at gynllun gofal a chymorth yn 2020/21 ar 82% tra bo hyn wedi gostwng i 52% yn 2021/22.
O dan ein strategaeth atal rydym wedi gallu rheoli’r galw demograffig uwch am ofal cymdeithasol mewn rhai sectorau. Mae’r tabl isod yn cymharu nifer y defnyddwyr gwasanaethau a gafodd fynediad at wasanaethau dros gyfnod o 6 blynedd.
Nifer y defnyddwyr gwasanaethau a gafodd fynediad at wasanaethau
Gofal |
2016/17 |
2017/18 |
2018/19 |
2019/20 |
2020/21 |
2021/22 |
---|---|---|---|---|---|---|
Nyrsio |
95 |
90 |
92 |
113 |
168 |
176 |
Preswyl |
641 |
767 |
812 |
634 |
816 |
767 |
Gofal Cartref |
1530 |
1326 |
1118 |
844 |
1155 |
1010 |
Taliadau Uniongyrchol |
- | - | - | - |
369 |
427 |
Gofal Dydd |
771 |
695 |
675 |
527 |
504 |
454 |
Gofal Dydd â Chymorth yn y Gymuned |
57 |
57 |
57 |
43 |
46 |
44 |
Gofal Seibiant |
237 |
328 |
236 |
114 |
138 |
63 |
Byw â Chymorth |
161 |
178 |
221 |
291 |
292 |
321 |
Gwelyau Gofal Cymunedol |
- | - | - | - |
251 |
143 |
Ailalluogi |
- | - | - | - |
55 |
246 |
Mae’r wybodaeth yn dangos bod anghenion pobl yn dod yn fwy cymhleth. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael mynediad at Ofal Preswyl gyda chymorth nyrsio a gwasanaethau byw â chymorth.
Bu effaith sylweddol ar bobl a fyddai’n cael mynediad at gyfleoedd dydd a gofal seibiant fel arfer. Mae’r newid hwn yn gysylltiedig â phandemig Covid.
Mae’r data yn y tabl yn dynodi bod mwy a mwy o bobl yn dewis defnyddio taliad uniongyrchol, yn unol â’n strategaeth. Defnyddir Taliadau Uniongyrchol yn awr i ddarparu, ar gyfartaledd, dros 5,000 o oriau o ofal yr wythnos o’i gymharu â darpariaeth gofal cartref sy’n cyrraedd cyfartaledd o oddeutu 8,100 o oriau yr wythnos. Mae pobl yn cael cymorth i reoli eu taliad ac mae gennym dîm wedi’i neilltuo sy’n darparu gwasanaeth cyflogres, recriwtio a chymorth Adnoddau Dynol a chyllidebu. Dyrennir ymgynghorydd byw’n annibynnol i bob defnyddiwr gwasanaethau ac mae’r ymgynghorydd hwnnw’n sicrhau bod y taliad y maent yn ei gael yn diwallu eu hanghenion gofal.
O ran aros i wasanaeth ddechrau mae hyn yn amrywio gan ddibynnu ar y math o wasanaeth y gofynnir amdano. Yr amser cyfartalog a gymerir i symud i mewn i ofal preswyl yw 8.6 diwrnod tra bo’r arhosiad cyfartalog am Ofal Cartref yn 34.6 diwrnod. Mae pobl yn aros am 18.5 diwrnod ar gyfartaledd i gael mynediad at wasanaeth dydd. Rydym yn canolbwyntio ar gynyddu capasiti o fewn y farchnad gofal cartref i leihau’r amseroedd aros annerbyniol hyn. Fel a grybwyllwyd yn flaenorol, mae recriwtio i’r sector gofal yn her fawr ac mae hefyd yn effeithio ar amseroedd aros.
Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal
Nid yw’r dangosydd oedi wrth drosglwyddo gofal yn rhan o drefniadau monitro perfformiad Llywodraeth Cymru mwyach. Rydym yn nodi nifer y bobl sy’n aros yn yr ysbyty am becyn gofal neu breswyl yn ddyddiol gyda’n partneriaid Iechyd. Mae ein tîm gwaith cymdeithasol yn yr ysbyty’n canolbwyntio ar sicrhau y gall pobl symud ymlaen gyda’r cymorth y mae ei angen arnynt mor gyflym â phosibl.
Rydym yn monitro nifer y bobl sy’n aros mewn gwely ysbyty acíwt bob dydd. Rydym yn cofnodi ac yn tracio’r ffigwr yn fisol ar ddiwedd pob mis. Y nifer uchaf o bobl a oedd yn aros mewn gwely ysbyty acíwt yn ystod 2021/22 oedd 13 ar ddiwedd mis Ionawr. Mae hyn yn arwydd o’r hyn yr ydym ni’n cyfeirio ato fel ‘pwysau’r gaeaf’ gan bod mwy o bobl yn mynd yn sâl ar yr adeg hon o’r flwyddyn gydag afiechydon fel y ffliw a Covid.
Rydym yn amcanu at leihau nifer y bobl sy’n aros mewn gwelyau ysbyty acíwt trwy:
- gefnogi ein darparwyr gofal, yn enwedig yn eu hymateb i reoli clefydau heintus fel y ffliw a Covid;
- hybu datblygiad busnesau bychain neu unig fasnachwyr y cyfeirir atynt fel microfentrau i roi gofal;
- tyfu ein gwasanaeth gofal cartref ein hunain a reolir gan y Cyngor a fydd yn rhoi’r hyblygrwydd i ni ymateb i’r bobl hynny â’r anghenion mwyaf mewn modd amserol;
- agor Tŷ Martello, cyfleuster gofal canolradd ag 8 gwely;
- gwreiddio’r tîm gofal canolradd sy’n gallu darparu gwasanaeth ymateb cyflym i atal pobl rhag dod i mewn i’r ysbyty a chefnogi rhyddhad amserol o’r ysbyty pan fo’n briodol;
- cynyddu i’r eithaf y cymorth cymunedol sydd ar gael trwy ddefnyddio rolau’r Cysylltwyr Cymunedol a hybu teleofal a chyfathrebu rhagweithiol trwy wasanaeth Llesiant Delta
Ailalluogi
Yn ystod 2018/19 roeddem yn ymwybodol bod gostyngiad wedi bod yng nghanran y bobl a gwblhaodd gyfnod o ailalluogi ac a oedd heb becyn gofal chwe mis yn ddiweddarach o 78% yn 2016/17 i 59% yn 2017/18. Yn unol â’r amcanion a restrir yn y Rhaglen Weinyddu fe wnaethom drosglwyddo’r gwasanaeth ailalluogi yn ôl i gael ei weithredu gan y Cyngor er mwyn mynd i’r afael â’r gostyngiad hwn. Mae’r gwasanaeth wedi cael ei wella gyda Therapyddion Galwedigaethol ychwanegol yn cael eu cyflogi i gefnogi a galluogi pobl. Hefyd, fel rhan o ddatblygu’r gwasanaeth, fe agorom ni gyfleuster ailalluogi ag 8 gwely yn Nhŷ Martello, Doc Penfro.
Yn ystod 2020/21, darparwyd 152 o becynnau ailalluogi gyda 123 yn lliniaru’r angen am gymorth yn y dyfodol. Mae hyn yn cyfateb i 81% sy’n welliant sylweddol o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf ac yn dangos y cyfle ar gyfer annibyniaeth y mae hyn yn ei ddwyn ym mywydau beunyddiol pobl. Fodd bynnag, oherwydd anawsterau recriwtio yn ystod 2021/22 fe wnaethom ddarparu 104 o becynnau o ofal, 48 o becynnau’n llai na’r flwyddyn flaenorol. Yn dilyn eu cyfnod o ailalluogi nid oedd angen cymorth mwyach ar 98 o bobl, sy’n cyfateb i 94% o bobl. Rydym ni’n credu bod hyn yn dangos bod y pecynnau ailalluogi a ddarperir wedi gwella o ran eu hansawdd a’u bod yn dwyn deilliannau gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Diogelu Oedolion
O ran nifer yr adroddiadau a gafwyd mewn perthynas ag oedolion y tybiwyd eu bod yn wynebu risg rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn blynyddoedd blaenorol o 1095 yn 2018/19 i 2,638 yn 2021/22. Fel gyda chysylltiadau cychwynnol bu cynnydd sylweddol yn nifer y cysylltiadau diogelu oddi wrth yr Heddlu. Mae’r rhain wedi cynyddu o 137 yn 2020/21 i 1,075. Mae’r cynnydd hwn wedi digwydd o ganlyniad i hyfforddiant mewn ymateb i oedolion agored i niwed sydd wedi codi ymwybyddiaeth ar draws yr Heddlu.
Codi Tâl am Ofal i Oedolion
Mae’r swm y mae oedolyn yn ei dalu am eu gofal yn dibynnu ar eu hamgylchiadau ariannol. Mae gan bob oedolyn hawl i gyfranogi mewn asesiad arianno fel bod eu cyfraniad yn gallu cael ei gyfrifo’n gywir yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru. Roedd cyfanswm nifer yr oedolion a dalodd uchafswm y tâl wythnosol tuag at gost gofal a chymorth yn ystod 2020/21 yn 408 gydag ychydig yn llai, sef 396, yn 2021/22. Roedd cyfanswm nifer yr oedolion y codwyd tâl arnynt am ofal a chymorth cartref yn 697 sy’n llai na’r ffigwr o 758 yn y flwyddyn flaenorol. Mae cyfanswm nifer y bobl sy’n cyfrannu at gost gofal preswyl fwy neu lai yr un fath ar draws y ddwy flynedd; codwyd ar 684 am ofal preswyl yn 2020/21 ac ar 687 yn 2021/22.
Yn ystod y flwyddyn rydym wedi gweld lefelau dyledion cynyddol o ran taliadau gofal cymdeithasol. Mae dyledion ar gyfer pobl sydd wedi marw yr oedd arnynt arian am ofal preswyl yn gyfanswm o ryw £3 miliwn a gall gymryd nifer o flynyddoedd i’r dyledion hyn gael eu talu ar ôl setlo ystadau a gwerthu eiddo. Mae 3 miliwn arall yn ddyledus ar ffurf dyledion preswyl gan bobl sy’n dal i gael gwasanaethau ond sydd wedi syrthio ar ei hôl hi gyda’u taliadau.
Mae dyledion sy’n ymwneud â gwasanaethau gofal cartref a seibiant yn gyfanswm o oddeutu £700,000. Rydym yn gweithio ar ein prosesau adfer dyledion gofal cymdeithasol i gynorthwyo pobl i aros gyfuwch â’u cyfraniadau sy’n seiliedig ar asesiad ariannol.
Gofalwyr sy’n Oedolion
Roedd cyfanswm nifer y cysylltiadau â’r gwasanaethau cymdeithasol statudol gan ofalwyr sy’n oedolion neu weithwyr proffesiynol yn cysylltu â’r gwasanaeth ar eu rhan yn 146 ar gyfer 2021/22, sy’n ostyngiad bach o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, pan oedd y cyfanswm yn 158. O’r 146 o gysylltiadau fe arweiniodd 97 at roi cyngor neu gynhorthwy. Cynhaliwyd cyfanswm o 165 o asesiadau o anghenion gofalwyr ar gyfer oedolion yn ystod y flwyddyn gyda 128 o asesiadau’n arwain at ddiwallu anghenion gofalwyr â chynllun gofal a chymorth. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol pan gwblhawyd 130 o asesiadau gyda 73 yn arwain at gynllun gofal a chymorth.
Ar 31 Mawrth 2022 roedd 123 o ofalwyr sy’n oedolion â chynllun cymorth.