Canllawiau a Wybodaeth
Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol
Pennodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 [SSWBA], a’r Codau Ymarfer cysylltiedig, ddyletswyddau a dewisiadau i awdurdodau lleol godi am wasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol; yn arbennig Rhannau 4 a 5 o SSWBA a’r rheoliadau cysylltiedig. Etifeddwyd rhai o’r gofynion hyn o ddeddfwriaeth flaenorol a, thra nad ydynt mwyach yn berthnasol yng Nghymru, mae cynseiliau rhai taliadau dewisol yn bodoli. I gael manylion y ddeddfwriaeth berthnasol, cyfeiriwch at Atodiad 1. Mae SSWBA yn darparu fframwaith ar gyfer codi am wasanaethau a chymorth gofal preswyl ac allanol. Bydd y polisi codi tâl hwn yn caniatáu agwedd gyson at godi am wasanaethau, fydd yn dileu amrywiad yn sut gaiff tâl ei godi ar bobl.
ID: 9886, adolygwyd 26/04/2023