Canllawiau a Wybodaeth

SA 1: Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae pobl am eu cyflawni.

Beth oeddem yn bwriadu ei wneud y llynedd?

  • Byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwaith atal ar gyfer oedolion a phlant.  Byddwn yn ehangu ar y gwersi a ddysgwyd o sefydlu'r Hyb Cymunedol i gefnogi pobl yn ystod pandemig COVID.  Byddwn yn nodi a allwn ddatblygu model cynaliadwy i'r hyb cymunedol weithredu yn y dyfodol ar ôl y pandemig.
  • Byddwn ni'n cynyddu gwaith i hyrwyddo a nifer y rhai sy’n dechrau defnyddio Taliadau Uniongyrchol fel y gall pobl fod â rheolaeth ar eu darpariaeth gofal eu hunain.
  • Byddwn ni'n cynyddu gwaith i hyrwyddo a nifer y rhai sy'n manteisio ar ein darpariaeth cysylltu bywydau fel dewis arall yn lle gofal preswyl.
  • Byddwn yn datblygu ein harlwy o ran gofal a alluogir gan dechnoleg fel y gallwn gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.
  • Byddwn yn adolygu ein gwasanaeth larwm cymunedol a'n canolfan offer cymunedol.

I ba raddau wnaethom ni lwyddo a pha wahaniaeth wnaethom ni?

Gwasanaethau Atal

Roeddem yn bwriadu gweithio ar barhau i ddatblygu a gweithredu gwasanaethau atal ar draws gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant er mwyn rheoli'r galw am wasanaethau gofal cymdeithasol. Roedd hon yn flaenoriaeth allweddol a nodwyd yn y cynllun corfforaethol ac mae'n cefnogi'r rhaglen weinyddu. Trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynharach credwn ein bod yn gallu lleihau'r galw am ofal statudol. Trwy gynyddu capasiti a dyfeisgarwch mewn cymunedau, gallwn ohirio neu hyd yn oed atal yr angen am ofal cymdeithasol.  Mae'r thema atal wedi cael ei nodi fel thema drawsbynciol ac mae gweithgor traws-adrannol wedi'i sefydlu i archwilio sut y gall strategaeth atal fod o fudd i'r holl wasanaethau.

Atal ar gyfer Oedolion

Rydym wedi gwneud gwaith pellach i ddatblygu a chryfhau ein fframwaith ataliol a’n ffocws ar adferiad yn y gymuned sy’n flaenoriaeth gennym. Sefydlwyd yr ‘hyb cymunedol’ mewn ymateb i’r achos o Covid mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, gwasanaethau Iechyd a’r Awdurdod Lleol a fu’n cefnogi dros 100 o grwpiau cymunedol. Mae Rhwydwaith Cymorth Cymunedol Sir Benfro yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro. Rôl yr Hyb Cymunedol, sy’n fenter cydweithredol rhwng yr Awdurdod Lleol, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, gwasanaethau Iechyd a sefydliadau’r trydydd sector, yw darparu un pwynt mynediad sy’n ymateb i ymholiadau ac anghenion llesiant yn y gymuned. Yn ystod 2021/22 fe wnaed gwaith sylweddol i ystyried model a chynaliadwyedd yr hyb yn y dyfodol. Bydd y lansiad ffurfiol ym mis Mehefin 2022

Er bod Covid wedi cael effaith ddinistriol, mae hefyd wedi bod yn sbardun ar gyfer mentrau newydd, er enghraifft rydym wedi datblygu opsiynau amgen ar gyfer gwasanaethau gan weithio gyda'n partneriaid yn y trydydd sector ac wedi lansio arlwy ddigidol i gynorthwyo pobl i fod yn hyderus a chymwys yn ddigidol. Roedd y trydydd sector yn gyflym i gofleidio Zoom a llwyfannau eraill i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau. Mae enghreifftiau o'r arlwy ddigidol yn cynnwys: cynnig grantiau’n ddigidol i gartrefi gofal, cynorthwyo gofalwyr ac eraill yn y trydydd sector i addasu eu harlwyon i sicrhau cymorth parhaus i bobl yr oedd ei angen arnynt, lansio llwyfan digidol CONNECT2 Sir Benfro i gynorthwyo cymunedau lleol i gysylltu ar lefel hynod leol gyda’r gallu i rannu hysbysebion cymunedol ond hefyd i gysylltu ledled y Sir a’r Rhanbarth er enghraifft yr ymgyrch Cysylltu â charedigrwydd. Rydym yn parhau i wneud cynwysoldeb digidol yn flaenoriaeth allweddol.

Sefydlwyd yr Hyb Darparwyr/ Cyflenwyr a oedd yn cael ei gefnogi gan y Tîm Comisiynu ar ddechrau'r pandemig gan ddarparu un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau mewnol ac wedi’u comisiynu a rhoi cymorth 7 diwrnod yr wythnos i'r sector gofal a chymorth i liniaru risgiau Covid. Rydym wedi parhau i roi cymorth i'r sector yn ystod y 12 mis diwethaf ac yn arbennig yn gysylltiedig â heriau recriwtio a chadw'r gweithlu.

Atal ar gyfer Plant

Mae gan Sir Benfro ystod o wasanaethau cymorth i deuluoedd, gyda rhai'n cael eu darparu gan asiantaethau statudol ac eraill gan y Trydydd Sector. Mae nifer sylweddol o'r rhain yn cael eu hariannu trwy fentrau Llywodraeth Cymru o dan ymbarél y Grant Plant a Chymunedau.

Rydym yn benodol yn targedu 3 maes allweddol yn ein hagenda ataliol:

  • Lleihau effaith tlodi plant ar ganlyniadau addysgol
  • Cefnogi strategaeth y Cyngor i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Mynd i'r afael â materion anfantais wledig o ran cael mynediad at wasanaethau a ddarperir

Mae adolygiadau parhaus o raglenni Grant Plant a Chymunedau (GPaCh) Sir Benfro yn cael eu cynnal.  Bydd y gwaith hwn yn nodi sut y byddwn yn datblygu ac yn gwella gwasanaethau i blant a chymunedau trwy nodi blaenoriaethau i oleuo’r broses o gomisiynu gwasanaethau yn y dyfodol.

Rydym yn bwriadu symud i ffwrdd oddi wrth rai o'r dulliau wedi'u targedu'n ddaearyddol a gafodd eu mandadu gan raglenni blaenorol fel Dechrau'n Deg, gan mai’r realiti yn Sir Benfro yw nad yw’r mwyafrif o deuluoedd/cartrefi mewn tlodi yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.  

Mae'r rhestr isod ar ffurf bwledi’n dangos peth o'r gwaith atal ar gyfer plant a wnaed yn ystod 2021/22.

  • Fe wnaethom ail-lansio ein model cymorth rhianta, gan ddatblygu un pwynt mynediad ac ail-lansio'r gwasanaeth ar ôl creu Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro. Nod yr ail-lansiad fydd symleiddio mynediad i rieni a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod teuluoedd yn cael y gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn.
  • Mae mentrau newydd eleni wedi canolbwyntio ar ymyriadau wedi'u targedu i gefnogi rhieni anodd i’w cyrraedd ar draws clystyrau ysgolion.  Mae rhieni'n mynychu gweithdai ysgol fel y gallant gynorthwyo eu plant yn yr ysgol i wella presenoldeb a chyrhaeddiad.  Mae cymorth cofleidiol i fynd i'r afael â chostau byw a gordewdra ymhlith plant a rhoi cymorth rhianta yn rhan o'r rhaglen gyfannol.  Mae'r prosiect hwn wedi cael ei gyflawni ar draws 4 clwstwr (Dinbych-y-pysgod, Tyddewi, Hwlffordd ac Aberdaugleddau).
  • Cafodd chwaraeon anabledd fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi lles a gweithgarwch corfforol ac mae clybiau ar ôl ysgol mewn ardaloedd mwy difreintiedig wedi galluogi pobl ifanc i gael mwy o fynediad at weithgareddau cyfoethogi ar ôl y pandemig.
  • Mae Tîm Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig penodol wedi darparu cymorth cofleidiol i alluogi plant a arferai dderbyn gofal i gael gofal gan deulu estynedig a gwarcheidwaid arbennig, sydd wedi rhoi canlyniadau gwell i blant ac wedi cael effaith gadarnhaol ar ein strategaeth i leihau nifer y Plant Sy'n Derbyn Gofal (LAC).
  • Rydym wedi parhau i wella synergeddau a phrosesau ar draws y Timau Cymorth Dechrau'n Deg a Tîm o Amgylch y Teulu i sicrhau'r arbenigedd mwyaf posibl, cynyddu capasiti a sicrhau pontio di-dor wrth i deuluoedd a phobl ifanc symud ar draws rhaglenni.
  • O fewn y Blynyddoedd Cynnar, bu mwy o aliniad â'r Tîm Blynyddoedd Cynnar a Chwarae sydd wedi lleihau'r swyddogaethau arwahanol a oedd yn bodoli cyn hynny.  Yn ystod 2021-22 fel rhan o brosiect Braenaru’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, rydym wedi mapio darpariaeth 0-7 ar draws y Sir gan gynnwys elfennau o’r GPaCh, gan nodi meysydd lle ceir dyblygu posibl, galw heb ei ateb a gweithio gydag Awdurdodau Braenaru eraill i ddatblygu arfer da.

Cronfa Dewi Sant

Eleni mae 173 o bobl ifanc yn gwneud cais i gael arian o Gronfa Dewi Sant. Cafodd pob person ifanc a wnaeth gais arian gyda chymorth eu Hymgynghorydd Personol neu Weithwyr Cymdeithasol. Cyfanswm y cyllid a ddarparwyd oedd £91.099, 57.  Mae'r rhestr isod yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn y defnyddiwyd yr arian ar ei gyfer a nifer y bobl a elwodd o'r cyllid.

  • Addysg – £11.510.86 – 15 o bobl ifanc wedi elwa

Mae'r arian yma wedi darparu eitemau fel gliniaduron, offer ar gyfer cyrsiau ysgol a choleg, cyllid ar gyfer cyrsiau addysg penodol fel cwrs arweinyddiaeth pêl-droed a dosbarthiadau coginio.

  • Cludiant - £4,890.33   - 9 person ifanc wedi elwa

Mae Cronfa Dewi Sant wedi cynorthwyo grŵp o bobl ifanc i dalu costau teithio mewn cymuned wledig lle nad yw’n hawdd teithio o gwmpas oni bai bod gennych eich cludiant eich hun. Mae'r gronfa wedi cael ei defnyddio ar gyfer gwarantau teithio, tocynnau trên, petrol os oes angen i gyrraedd yr ysgol, y coleg neu’r gwaith. Hefyd, rydym wedi cynorthwyo nifer o bobl ifanc gyda gwersi gyrru ychwanegol er mwyn eu paratoi ar gyfer eu profion gyrru yn ogystal â chwblhau'r prawf theori gyrru.

  • Offer TG - £4,275.57 – 15 o bobl ifanc wedi elwa

Fel sy'n digwydd yn aml nid oes gan bobl ifanc fynediad at y symiau mawr o arian y mae eu hangen i brynu offer hanfodol fel gliniaduron/rhaglenni cyfrifiadurol y mae eu hangen ar adegau i gefnogi eu haddysg, neu chwilio am waith. Mae Cronfa Dewi Sant wedi darparu mynediad ar gyfer grŵp mawr o bobl at liniadur newydd er mwyn hybu eu llwyddiant parhaus mewn addysg neu gyflogaeth yn ogystal â'u taith tuag at annibyniaeth.

  • Offer - £7,127.86 – 32 o bobl ifanc wedi elwa

Mae'r categori hwn wedi cynnwys llu o wahanol fathau o offer y mae ei angen er mwyn mynychu cwrs coleg neu leoliad seiliedig-ar-waith. Mae hyn wedi cynnwys gwisgoedd gwaith, esgidiau gwaith, siwt smart ar gyfer cyfweliadau, offer y mae ei angen i fynychu cyrsiau penodol fel cwrs hyfforddwr canŵio, cyrsiau sy’n ymwneud â chwaraeon.

  • Tai - £7,127.86 – 17 o bobl ifanc wedi elwa

Oherwydd effaith y pandemig crëwyd argyfwng tai sylweddol yn Sir Benfro wrth i dai rhent gael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi gan ei gwneud hi'n fwy a mwy anodd i bobl ifanc gael tai. Hefyd, mae rhai pobl ifanc sydd â thai’n cael trafferth rheoli eu rhent.  Mae Cronfa Dewi Sant wedi ein galluogi i roi llawer o gymorth ychwanegol i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad cyflym at fondiau a benthyciadau i dalu rhent os oes angen yn ogystal â chymorth i dalu ôl-ddyledion rhent i sicrhau nad ydynt mewn perygl o fod yn ddigartref.

  • Arall - £50,795.30 – 83 o bobl ifanc wedi elwa 

Mae'r categori mwyaf yn cwmpasu llawer o wahanol fathau o gymorth i bobl ifanc er y gellid categoreiddio swm sylweddol fel iechyd a llesiant. Mae llawer o'n pobl ifanc wedi profi trawma ac o ganlyniad yn ceisio cymorth gyda’u hiechyd meddwl a'u llesiant emosiynol. Mae hwn yn fwlch mawr yn yr adnoddau ar gyfer ein pobl ifanc ac felly mae swm mawr o arian o'r gronfa'n cael ei wario ar sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth ar adeg yn eu bywydau pan ydynt yn ddigon aeddfed i dderbyn y cymorth hwnnw a phan fo’n hanfodol iddynt fod mewn sefyllfa lle gallant symud ymlaen yn ddiogel tuag at annibyniaeth gyda chymaint o gymorth â phosibl.

 

Taliadau Uniongyrchol

Ym mis Ebrill 2021 yn dilyn ymgynghoriad cynhwysfawr fe benderfynom ni reoli ein gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol yn uniongyrchol.  Yn ystod y flwyddyn fe gwblhaom ni adolygiad cynhwysfawr o'r gwasanaeth taliadau uniongyrchol a arweiniodd at nifer o argymhellion gan gynnwys ailstrwythuro'r tîm taliadau uniongyrchol ei hun.  Bydd y tîm wedi’i ailstrwythuro’n mynd yn fyw ym mis Gorffennaf 2022 ac mae'r gwelliannau a nodwyd wedi'u halinio ag astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru o Daliad Uniongyrchol ac yn cael sylw yn adran 2 o'r adroddiad hwn.

Ers dod â'r gwasanaeth yn fewnol rydym wedi cael cyfleoedd i ymgynghori â'r timau gwaith cymdeithasol a gwneud gwelliannau cyflym i wasanaethau.  Rydym wedi lleihau'n sylweddol yr amser y mae angen i ddefnyddiwr gwasanaethau aros am eu taliad cychwynnol drwy dalu cyn i'r asesiad ariannol gael ei gwblhau a bilio am gyfraniadau yn ddiweddarach.

Mae timau gwaith cymdeithasol yn fwy hyderus yn y gwasanaeth ac yn gallu tawelu meddyliau defnyddwyr y gwasanaethau pan ydynt yn meddwl y byddai'n briodol iddynt ddefnyddio Taliad Uniongyrchol.  Mae nifer y defnyddwyr gwasanaethau sy'n cael mynediad at Daliad Uniongyrchol wedi tyfu o 375 ym mis Ebrill 2021 i 450 erbyn mis Gorffennaf 2022

Larymau Cymunedol a Thechnoleg i Gefnogi Anghenion Gofal

Rydym wedi penodi rheolwr newydd i oruchwylio larymau cymunedol a datblygu ein harlwy ddigidol i ddefnyddwyr gwasanaethau.  Er mwyn sicrhau bod larymau cymunedol yn parhau'n fforddiadwy rydym wedi gwneud cais am rywfaint o arian dewisol i atal pobl rhag gadael y gwasanaeth am nad ydynt yn gallu ei fforddio mwyach. 

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynyddu'r amrywiaeth a'r mathau o dechnoleg i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.  Rydym yn gwneud mwy o ddefnydd o gardiau sim symudol a hybiau clyfar gyda dyfeisiau cysylltiedig i helpu gyda materion penodol a all fod gan gleientiaid.   

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a pham?

Ffocws allweddol i ni yw parhau i ddatblygu ac ystwytho ein strategaethau atal ar draws gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant.

Byddwn hefyd yn parhau i hyrwyddo Taliadau Uniongyrchol a Cysylltu Bywydau fel dewis arall yn lle rhoi gofal mewn ffordd fwy traddodiadol.

ID: 9556, adolygwyd 16/03/2023