Canllawiau a Wybodaeth
SA 2: Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hybu iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol pobl.
Beth oeddem yn bwriadu ei wneud y llynedd?
- Roeddem yn bwriadu gweithio ar gynlluniau i wella ein gwasanaeth ailalluogi.
- Roedden ni'n bwriadu adolygu'r effaith y mae'r Tîm Gofal Canolradd wedi'i chael ar ryddhau cleifion o’r ysbyty a’u derbyn i'r ysbyty.
- Roeddem wedi bwriadu tyfu a datblygu'r Gwasanaeth Gartref mewnol er mwyn lleihau rhestrau aros ar gyfer gofal cartref gan amcanu at gynyddu’r gyfran o’r farchnad i 20%. Fel rhan o hyn, byddwn yn adolygu ein gweithgareddau recriwtio er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd sectorau eang yn y gymuned. Byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun prentisiaeth gyda Choleg Sir Benfro er mwyn annog pobl i ymgymryd â rôl ofalu.
I ba raddau wnaethom ni lwyddo a pha wahaniaeth wnaethom ni?
Ailalluogi
Trosglwyddwyd y gwasanaeth ailalluogi o Human Support Group (HSG) i Gyngor Sir Penfro (CSP) ar 1 Tachwedd 2019. Trosglwyddwyd y staff i CSP o dan reoliadau TUPE. Mae Rheolwr y Tîm Ailalluogi, Arweinwyr Tîm a chynrychiolwyr staff wedi bod yn cydweithio i greu trefniadau rota newydd a chynllunio'r gwasanaeth yn effeithlon.
Yn ystod 2021/22 fe wnaethom barhau i weithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth i ddatblygu cysyniad ar gyfer 'canolfannau rhagoriaeth' ailalluogi newydd gan ddarparu cymorth camu-i-fyny a cham-i-lawr o’r radd flaenaf fel ffordd o atal derbyniadau i'r ysbyty a helpu pobl i adfer eu hannibyniaeth ar ôl cael eu rhyddhau.
- Fe wnaethom weithredu model newydd ailalluogi newydd a weithredir gan y Cyngor yn uniongyrchol i wella canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau.
- Rydym yn gweithredu cyfleusterau gofal canolradd gan gynnwys preswyl ac mae gennym dîm gofal canolradd i gefnogi llesiant defnyddwyr gwasanaeth trwy eu camu allan o'r ysbyty i amgylchedd gofal gan ganolbwyntio ar adsefydlu.
- Fe wnaethom adolygu'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty gyda'r bwriad o newid y ffordd mae asesiadau ar gyfer gofal yn cael eu cwblhau yn yr ysbyty.
Er gwaethaf yr holl ymdrechion hyn, rydym wedi gweld dirywiad sylweddol yn nifer y pecynnau ailalluogi rydym wedi gallu eu darparu mewn blwyddyn, o 152 yn 2020/21 i 98 yn 2021/22. Mae'r rheswm am y dirywiad yn ymwneud â thrafferthion wrth recriwtio staff gofal ailalluogi. Ym mis Mawrth 2022 roedd gennym ddeg swydd wag.
Mae ein dangosyddion perfformiad yn dangos bod gwelliannau wedi bod yn y canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau yn dilyn ail-alluogi. Yn ystod 2021/22 nid oedd angen unrhyw gymorth mwyach ar 94% o bobl a ddefnyddiodd y gwasanaeth ailalluogi. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol ag 81% yn 2020/21, 65% yn 2019/20 a 59% yn 2017/18.
Gofal canolradd
Mae gofal canolradd yn cwmpasu ystod o wasanaethau iechyd, cymdeithasol a gwasanaethau'r trydydd sector sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddiwallu anghenion dinasyddion ac atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty heb fod angen. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi trosglwyddiad amserol yn ôl adref o'r ysbyty ac i gynorthwyo'r unigolyn gyda'i broses adsefydlu. Nod y gwasanaeth yw cynorthwyo pobl i fod mor annibynnol â phosibl, fel eu bod yn gallu parhau i fyw ac i heneiddio'n dda yn Sir Benfro. Er mwyn ymateb i argyfwng COVID daeth y tîm yn gwbl weithredol ym mis Mawrth 2020.
Mae gan y Tîm Gofal Canolradd ffocws allweddol i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref cyn gynted â phosibl yn dilyn triniaeth yn yr ysbyty gyda'r holl ofal a chymorth y mae eu hangen arnynt. Mae'r tîm wedi parhau i arwain ar lwybr rhyddhau i asesu 2. Fe wnaethon nhw sicrhau cyllid grant i sefydlu nifer o swyddi ychwanegol. Mae dau aseswr gofal cymdeithasol yn asesu unigolion priodol gartref, gan ddefnyddio cymorth anffurfiol neu gymorth pontio ac yn cael cyswllt dilynol o fewn deugain ag wyth awr. Mae hyn yn galluogi'r unigolyn a'r teulu i gael tawelwch meddwl y bydd unrhyw anghenion gofal a chymorth yn cael eu hadnabod yn gyflym, gan hefyd roi iddynt yr amser a’r lle i adfer mewn amgylchoedd cyfarwydd. Yn ogystal â hyn mae swydd cydlynydd ychwanegol wedi galluogi'r hyb TGCh i dderbyn a sgrinio'r holl atgyfeiriadau at y tîm rhyddhau ar y cyd, gan sicrhau bod pobl y gellir eu cefnogi gartref yn gallu cael eu hadnabod yn gynharach. Mae hyn eisoes wedi cyfrannu at amseroedd aros byrrach ar gyfer asesu. Mae'r ysgogydd allweddol ar gyfer y gwaith arloesol hwn yn seiliedig ar ymchwil sy'n dangos tystiolaeth bod aros yn yr ysbyty yn ddiangen yn cael effaith negyddol ar weithrediad pobl hŷn a’u gallu i adfer eu lefel flaenorol o annibyniaeth.
Yn ystod 2021/22 roedd y tîm yn ymdrin â 240 o atgyfeiriadau y mis ar gyfartaledd.
Gwasanaeth gofal cartref a reolir gan y Cyngor
Fe wnaeth y tîm a reolir gan y cyngor gynyddu ei gyfran o'r farchnad o 5% i 9% yn ystod 2019/20 ac mae bellach yn rhedeg ar 20%. Yn ystod pandemig Covid roedd y tîm mewnol yn gallu cefnogi darparwyr eraill pan oeddent hwy'n wynebu prinderau staffio a’u cynlluniau parhad busnes wedi’u dihysbyddu.
Nid ydym wedi gallu tyfu'r gwasanaeth fel a nodwyd yn ein targed uchelgeisiol, serch hynny. Y prif reswm yw nad ydym yn gallu recriwtio digon o staff gofal i gynyddu capasiti. Dim ond digon o bobl i gynnal y gwasanaeth ar lefelau 2020/21 yr ydym yn gallu eu recriwtio. Yn anffodus, mae ein rhestr aros ar gyfer gofal cartref yn parhau i dyfu ac ar ddiwedd mis Mawrth 2022 roedd 103 o bobl yn aros am ofal cartref.
Defnyddiom arian adfer Covid i ddarparu ymgyrch marchnata helaeth at ddibenion recriwtio gyda ffocws ar ddenu pobl i ymgartrefu yn Sir Benfro a gweithio yn y sector gofal. Fe wnaeth yr ymgyrch hefyd dargedu pobl leol ac fe wnaethon ni gynnal sawl sioe deithiol mewn trefi allweddol ledled Sir Benfro. Fe ddefnyddiom ni Deledu, Radio a’r Cyfryngau Cymdeithasol fel modd i gyfathrebu gyda phobl a hyrwyddo'r sector.
Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a pham?
Caiff ein blaenoriaethau ar gyfer 2021/22 eu rhestru isod:
- Parhau i dyfu ein gwasanaeth darparwr mewnol trwy gyflawni cynnydd o 1000 o oriau’r wythnos trwy weithgareddau recriwtio, ailddylunio'r gweithlu a thrwy weithio gyda rhaglen Enghreifftiol Bevan sy'n cynorthwyo staff iechyd a gofal i ddatblygu a phrofi eu syniadau arloesol dros gyfnod o 12 mis.
- Datblygu ein Prentisiaethau Gofal.
- Ystyried a allwn gynyddu nifer y gwelyau a ddefnyddir ar gyfer ailalluogi trwy drefniadau prydlesu neu brynu gyda Shaw Housing.