Canllawiau a Wybodaeth

SA 3: Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed

Bydd diogelu wastad yn flaenoriaeth allweddol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyngor cyfan.

Beth oeddem yn bwriadu ei wneud y llynedd?

  • Roeddem yn bwriadu adolygu ein timau diogelu oedolion a phlant gyda golwg ar weithredu'r dull integredig ymhellach a darparu gwasanaeth mwy cadarn, effeithlon ac effeithiol.
  • Roeddem wedi bwriadu ystyried cyflwyno rôl swyddog adolygu annibynnol i'r timau oedolion gan ddilyn y model a ddefnyddir o fewn y gwasanaethau plant a dysgu o'r treial yn y gwasanaethau oedolion. Daeth y treial hwn o gam gweithredu a nodwyd mewn adolygiad ymarfer oedolion.
  • Roeddem hefyd yn bwriadu datblygu Tîm Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid a pharhau i hyrwyddo a datblygu gwasanaethau eiriolaeth

I ba raddau wnaethom ni lwyddo a pha wahaniaeth wnaethom ni?

Diogelu yn Sir Benfro

Cyngor Sir Penfro yw'r awdurdod lletya rhanbarthol ar gyfer Byrddau Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae'n hwyluso Uned Fusnes y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol. Cyfarwyddwr Statudol cyfredol y Gwasanaethau Cymdeithasol yw Cadeirydd Bwrdd CWMPAS.

Mae Sir Benfro yn parhau i gael budd o Dîm Diogelu Integredig, sy'n cyfuno gwaith strategol diogelu plant a diogelu oedolion mewn un gwasanaeth unedig. Yn rhanbarthol, mae Sir Benfro yn parhau i chwarae rhan lawn a gweithgar yn is-grwpiau a ffrydiau gwaith amrywiol y Byrddau. Bu’r Uwch Reolwr Diogelu yn arwain ac yn cadeirio'r Is-Grŵp Adolygu Ymarfer Plant Rhanbarthol am nifer o flynyddoedd cyn ei hymddeoliad eleni, yn ogystal â chyfrannu at nifer o adolygiadau, yn fwyaf diweddar yng nghymhwyster Ail Adolygydd.

Mae gan Sir Benfro weithdrefn sydd wedi hen ennill ei phlwyf ar gyfer cynnal Fforymau Proffesiynol Amlasiantaeth (MAPFs), a oedd yn sail i'r Canllawiau Ymarfer MAPF rhanbarthol. Cynhaliwyd dau Ddigwyddiad Dysgu MAPF eleni, gan ddefnyddio dulliau rhithwir o ddod ynghyd gan bod cyfyngiadau COVID-19 wedi parhau trwy gydol y flwyddyn adrodd. Cafodd y digwyddiadau adborth cadarnhaol dros ben a’u penllanw oedd Adroddiadau a Chynlluniau Gweithredu MAPF o ansawdd da i fwrw ymlaen â'r gwersi a rannwyd yn y digwyddiadau amlasiantaeth

Rhoddodd y Cadeirydd ffocws hefyd ar sefydlu templed arfer gorau rhanbarthol ar gyfer atgyfeiriadau newydd, sydd wedi arwain at welliant sylweddol yng nghysondeb ac ansawdd cyffredinol atgyfeiriadau Adolygu Ymarfer ledled y rhanbarth, yn ogystal â chynnydd sylweddol mewn effeithlonrwydd a gwelliant dilynol mewn prydlondeb wrth gychwyn adolygiadau newydd ac felly gwersi’n cael eu hadnabod a'u rhoi ar waith.

Mae Grŵp Gweithredol Lleol (GGLl) Sir Benfro yn parhau i ddilyn model pob oed ac agenda sy’n cylchdroi i sicrhau bod ystod o faterion ym maes diogelu yn cael eu harchwilio'n fanwl yn y fforwm amlasiantaeth. Mae siaradwyr gwadd yn cefnogi'r nod hwn i alluogi trafodaeth fwy manwl a gwybodus am bynciau penodol.

Mae cyfarfodydd GGLl effeithiol ac integredig Sir Benfro yn cael budd o ymrwymiad a chyfraniad cyson gan yr holl asiantaethau, sy'n cyfoethogi trafodaethau a chanlyniadau ymhellach. Camp arall o fewn Sir Benfro eleni yw darparu hyfforddiant diogelu ac amddiffyn plant yn fewnol i'r mwyafrif helaeth o staff gofal plant. Cyflwynwyd yr hyfforddiant hwn yn bersonol gan uwch staff rheoli.

Diogelwyr Iau Sir Benfro

Mae Diogelwyr Iau Sir Benfro wedi bod yn ymgysylltu’n weithredol mewn ystod o brosiectau sydd o fudd i'w grŵp hwy eu hunain ac i flaenoriaethau lleol a rhanbarthol fel ei gilydd. Yn arbennig, mae gan y Diogelwyr gysylltiadau cryf ag ystod o wasanaethau yng Nghyngor Sir Penfro, sy'n hyrwyddo llais pobl ifanc o fewn gwasanaethau, yn ogystal â galluogi'r bobl ifanc i ddylanwadu ar y gwasanaethau sy'n eu cefnogi a darganfod mwy amdanynt. Gweithiodd aelodau'r grŵp gyda'r Pennaeth Gwasanaethau Plant eleni i ddatblygu Siarter Plant a Phobl Ifanc, sef addewid gan y Gwasanaethau Plant i blant a phobl ifanc ynglŷn â sut y byddant yn cael eu trin pan fydd ganddynt weithiwr cymdeithasol. Bydd hyn yn helpu plant a phobl ifanc i benderfynu a yw'r gwasanaeth y maent yn ei gael yn diwallu eu hanghenion ac yn ystyried eu barn a'u profiad personol.

Gweithiodd pobl ifanc gyda CSP i oleuo Neuadd y Sir yn las i hyrwyddo Diwrnod Byd-eang y Plant ar 20 Tachwedd 2021. Dathlodd pobl ifanc botensial disglair, di-ben-draw pob plentyn a sefyll dros eu hawliau. Hawliau Plant a Newid Hinsawdd oedd y thema, a bu'r bobl ifanc yn rhan o gynnal cystadleuaeth yn y sir ar sut i wneud ysgolion yn fwy carbon isel.

Diogelu Rhanbarthol

Mae Sir Benfro yn cyfrannu'n sylweddol at waith Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (BDCGC), ochr yn ochr â'n partneriaid o'r Awdurdodau Lleol eraill yn y rhanbarth (Ceredigion, Sir Gâr, Powys), Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gwasanaethau Addysg. Mae'r Bwrdd yn cwmpasu gwasanaethau oedolion a phlant, gydag elfen oedolion y bwrdd yn cael ei alw’n CWMPAS a'r hyn sy'n cyfateb i elfen blant yn cael ei alw’n CYSUR. Mae rhai gwelliannau allweddol a gyflawnwyd gan y bwrdd rhanbarthol wedi'u nodi isod.

CADW: Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Iau

Mae Bwrdd CYSUR yn parhau i gomisiynu Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol Tros Gynnal Plant (TGP) i hwyluso ei Fwrdd Diogelu Rhanbarthol iau. Mae'r grŵp yn parhau i gynghori'r Byrddau Gweithredol ar faterion diogelu a materion o safbwynt person ifanc drwy gyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau ymgynghori. Mae Grŵp CADW yn cwrdd yn chwarterol ac yn cael ei ategu gan dri grŵp diogelu iau lleol a phartneriaeth ieuenctid, wedi'u halinio'n agos â’u priod Grwpiau Gweithredol Lleol

Grwpiau Strategol a Chyflawni ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn effeithio ar holl ddinasyddion y rhanbarth ac yn ymgorffori pob math o drais yn erbyn menywod, trais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM), masnachu, trais rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol, a cham-drin domestig. Mae’r Grŵp Strategol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn gydweithrediad amlasiantaeth sy'n rhoi  gofynion y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith, gan gynnwys gweithredu'r Strategaeth a Chynllun Rhanbarthol, Bywydau Mwy Diogel, Teuluoedd Iachach. Mae’r Grŵp Cyflawni ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cefnogi'r Grŵp Strategol o ran mynd ar drywydd blaenoriaethau rhanbarthol a’u cyflawni, yn ogystal â chynnal cysylltiadau allweddol â darparwyr arbenigol.

Grŵp Gweithredol COVID-19

Grŵp pwrpasol dros dro a sefydlwyd ym mis Mawrth 2020 er mwyn sicrhau ymateb effeithlon a chyson i bandemig COVID-19 a hynny ar draws gwasanaethau diogelu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru oedd y Grŵp Gweithredol COVID-19. Bu'r grŵp, a oedd yn cynnwys uwch bartneriaid amlasiantaeth strategol a gweithredol ar draws y rhanbarth, yn cyfarfod trwy gydol 2020 a 2021. Fe’i diddymwyd yn haf 2021 pan farnwyd fod yr holl systemau a strwythurau angenrheidiol ar waith i reoli'r effeithiau ar wasanaethau ac ymarfer mewn perthynas â’r pandemig.

Cyfathrebu Gwell

Hyrwyddo cyfathrebu gwell wedi'i dargedu gyda'r cyhoedd, gan gynnwys ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Neilltuwyd ymdrech gyfartal i gyfathrebu gyda'r cyhoedd eleni, gan nodi manteision cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion diogelu allweddol i hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth am gam-drin, esgeuluso a llesiant, sydd yn ei thro’n gallu annog y cyhoedd i roi gwybod am bryderon a hunan-gyfeirio ar gyfer cymorth.

Mae ymgyrchoedd a chynnwys a hyrwyddwyd eleni yn cynnwys y themâu/diwrnodau ymwybyddiaeth canlynol:

  • Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl (thema genedlaethol: natur a llesiant)
  • Ymgyrchoedd Stop It Now! i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gam-drin plant yn rhywiol
  • Gwybodaeth am sut i roi gwybod am bryderon diogelu yn lleol
  • Hyrwyddo Cynllun Blynyddol ac Adroddiad Blynyddol y Byrddau
  • Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd
  • Negeseuon a gwybodaeth am lansio’r ymgyrch Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol yng Nghymru
  • Ymgyrchoedd yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol gan gynnwys dangos deunyddiau a ddatblygwyd yn rhanbarthol am y tro cyntaf ar Facebook, a negeseuon a oedd yn gysylltiedig â digwyddiadau a gweminarau rhanbarthol
  • Hyrwyddo cynnwys a phrosiectau'r Bwrdd Iau
  • Ymgyrch cenedlaethol #CallOutOnly ar aflonyddu rhywiol
  • Negeseuon a chanllawiau ynghylch cysgu’n fwy diogel i rieni newydd
  • Wythnos Iechyd Meddwl Plant

Y Gweithlu

Mae’r camau a gymerwyd mewn blynyddoedd blaenorol i gryfhau'r gweithlu mewn ardaloedd bregus posibl ledled y rhanbarth wedi parhau. Mae strategaethau a roddwyd ar waith i gefnogi gwell recriwtio a chadw wedi parhau i gael eu cyflawni trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, sy'n arwain ar y ffrwd waith hon, ac y mae'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn parhau i fod â chysylltiadau cryf ag ef. Mae pob un o'r pedwar Awdurdod Lleol yn y rhanbarth yn parhau i fod â strategaethau recriwtio mewnol i gefnogi model recriwtio a chadw cynaliadwy hirdymor ar gyfer staff gofal cymdeithasol.

Llety i'r Rhai ag Anghenion Cymhleth

Mae gwaith wedi parhau ledled y rhanbarth mewn perthynas â lletya'r rhai sydd ag anghenion cymhleth. Mae'r gwaith wedi cael ei arwain trwy grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol a gaiff ei gadeirio gan Bennaeth Gwasanaethau Oedolion a Gofal Cymdeithasol Sir Gâr.

Mae’r materion a nodwyd yn ymwneud â bwlch a ganfuwyd mewn adnoddau o fewn y system cyfiawnder troseddol ar gyfer oedolion a chanddynt anghenion iechyd meddwl i raddau amrywiol, sydd hefyd yn dod i sylw ag ymddygiadau a allai fod yn niweidiol i eraill. Mae enghreifftiau'n cynnwys oedolion ag anabledd dysgu a/ neu awtistiaeth, sydd hefyd yn dod i sylw ag ymddygiad heriol a pheryglus yn y gymuned. Nodwyd fod anghenion gofal a chymorth i'r unigolion hyn yn aml yn aneglur, ond mae'r pecyn cymorth y mae ei angen yn aml yn sylweddol yng ngoleuni'r risg a achosir, ac mae diffyg adnoddau a darpariaeth breswyl arbenigol o fewn y system cyfiawnder troseddol yn aml yn golygu bod achosion yn treiddio drwodd i wasanaethau gofal cymdeithasol ar ffurf ceisiadau am becynnau gofal costus a drud.

Ystyrir bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu defnyddio yn yr achosion hyn fel ffordd o fonitro troseddwyr risg uchel yn y gymuned. Mae hyn yn codi cwestiynau a heriau pellach yng nghyd-destun hawliau dynol a chydraddoldeb i'r unigolion hyn. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd wedi canolbwyntio ar yr angen i asiantaethau gydweithio i ddatblygu ymateb system gyfan, sy'n rhoi’r cymorth cywir yn y lle cywir gan hefyd ddiogelu'r unigolion hyn a diogelu'r cyhoedd yn effeithiol. Mae'r gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio'n benodol ar anghenion tai, gan gefnogi ymateb amlasiantaeth rhanbarthol i'r maes cymhleth hwn. Mae'r gwaith yn gryn her ac yn gymhleth, ac mae angen lefel uchel o gefnogaeth ac ymrwymiad gan bartneriaid amlasiantaeth ledled y rhanbarth.

Datblygu Tîm Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid

Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yw'r weithdrefn a ragnodir yn y gyfraith pan fydd angen amddifadu person o'u rhyddid sydd heb alluedd meddyliol i gydsynio i'w trefniadau gofal a llety er mwyn eu cadw'n ddiogel rhag niwed. Y ddeddfwriaeth ar gyfer cymhwyso DoLS yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae'r gyfraith yn seiliedig ar Erthygl 5 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR), sy'n amddiffyn yr hawl i ryddid personol ac yn ei gwneud yn ofynnol i fesurau diogelu gael eu darparu ar gyfer y rhai sy'n cael eu hamddifadu o'u rhyddid, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at achosion barnwrol prydlon i herio cyfreithlondeb eu rhoi dan gadwad.

Yr Awdurdod fel 'corff goruchwylio' sy'n gyfrifol am gynnal ac awdurdodi'r asesiadau DoLS cymhwysol. Cafodd y tîm DoLS ei ehangu yn 2019 mewn ymateb i'r cynnydd mewn atgyfeiriadau. Ar hyn o bryd mae gan y tîm ddau Aseswr Budd Pennaf achrededig, cydlynydd gweinyddol a Rheolwr Tîm. 

Yn dilyn cynnig llwyddiannus i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2021 dyfarnwyd grant sylweddol i’r tîm DoLS er mwyn iddo fynd i'r afael ag anghenion penodol yr awdurdod ar gyfer gweithrediad parhaus Deddf Galluedd Meddyliol 2005 gan gynnwys mynd i'r afael ag ôl-groniad o asesiadau DoLS. Parodd y prosiect hwn o 1 Tachwedd 2021 tan 31 Mawrth 2022 a defnyddiodd ddull cyfunol o gomisiynu asesiadau gan asiantaeth allanol ynghyd â chyllido oriau ychwanegol o fewn y tîm DoLS.

Mae'r dull yma wedi bod yn llwyddiannus iawn. Cynyddodd awdurdodiadau DoLS 305% o ganlyniad i'r cyllid a ddyfarnwyd gan leihau'r ôl-groniad 77%. Arweiniodd hyn at gynnydd sylweddol yn niferoedd y bobl sy'n derbyn y mesurau diogelu a pharatoi ar gyfer gweithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. 

  • Yn 2019/2020 cwblhaodd y tîm gyfanswm o 156 o asesiadau ac awdurdodiadau DoLS
  • Yn 2020/2021 cwblhaodd y tîm gyfanswm o 172 o asesiadau ac awdurdodiadau DoLS
  • Yn 2021/2022 cwblhaodd y tîm gyfanswm o 415 o asesiadau ac awdurdodiadau DoLS.

Mae yna rybudd iechyd ar gyfer y cyfnod nesaf o 12 mis gan y bydd niferoedd yr asesiadau’n cynyddu gyda'r risg o ddatblygu ôl-groniad pellach. Mae’r tîm DoLS yn parhau i ganolbwyntio adnoddau ar atgyfeiriadau sy’n flaenoriaeth uchel ac yn fater o frys. Mae'r tîm wedi datblygu lefel uchel o arbenigedd a gwybodaeth mewn perthynas â chymhwyso Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ac mae'n parhau i gynnig cymorth ac arweiniad i dimau gwaith cymdeithasol eraill a darparwyr gofal.

Cynllunio ar gyfer Gweithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid

Cafodd Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 Gydsyniad Brenhinol ar 16 Mai 2019 ac mae'n cyflwyno'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (LPS), y cynllun gweinyddol newydd ar gyfer awdurdodi penderfyniad i amddifadu o ryddid ac yn disodli DoLS. Cafodd y Cod Ymarfer drafft a Rheoliadau Cymru ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad 12 wythnos ym mis Mawrth 2022. Nid oes dyddiad gweithredu newydd wedi cael ei bennu eto ond mae disgwyl iddo fod yn dilyn ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad.

Mae’r tîm DoLS yn parhau i gyflawni ei fusnes craidd sef asesu atgyfeiriadau sy’n flaenoriaeth gan hefyd gynorthwyo’r Awdurdod i baratoi ar gyfer rhoi’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar waith.  Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo yn y meysydd allweddol a nodwyd i oleuo cynllun yr Awdurdod ar gyfer rhoi’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar waith yn unol â'r cynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu a hyfforddiant a gyhoeddwyd yn ddiweddar mewn perthynas â’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid.

Eiriolaeth

Gwasanaeth Eiriolaeth TGP Cymru a gefnogir gan Gyngor Sir Penfro.  Gwasanaeth rhad-ac-am-ddim yw hwn i blant a phobl ifanc rhwng 0 - 25 oed a hwythau: 

  • yn blentyn sy'n derbyn gofal,
  • yn blentyn nad yw'n derbyn gofal, ond a allai fod ag anghenion ar gyfer gofal a chymorth;
  • yn blentyn y mae Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig mewn grym mewn perthynas ag ef/â hi
  • yn blentyn mabwysiedig neu blentyn a allai gael ei fabwysiadu
  • yn Rhywun sy’n Gadael Gofal.

Mae'r gwasanaeth yn cefnogi ein pobl ifanc drwy:

  • wrando arnyn nhw a'u safbwynt
  • eu hysbysu o'u hawliau
  • eu helpu i godi llais a chael eu clywed
  • eu helpu i ddatrys pethau gyda gweithwyr/gofalwyr
  • rhoi cymorth iddynt a'u helpu i godi llais mewn cyfarfodydd
  • eu grymuso i eirioli drostyn nhw eu hunain

Mae gwasanaethau'n cael eu hyrwyddo i bobl ifanc gan eu gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal a chymorth yn ogystal â thros y fewnrwyd

Darperir gwasanaethau eiriolaeth i oedolion gan 3 County Independent Professional Advocacy (3CIPA)

CIPA Wales /  E-bost: info@cipawales.org.uk / Ffôn: 0800 206 1387

Mae pobl yn gymwys i gael eiriolaeth os ydyn nhw dros 18 oed a hwythau: 

  • yn rhywun ag anabledd dysgu
  • yn rhywun ag anabledd corfforol
  • yn rhywun â nam ar y synhwyrau
  • yn ofalwr
  • yn oedolyn bregus oherwydd oedran, cyflwr iechyd neu angen asesedig (gan gynnwys awtistiaeth, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, dementia, materion iechyd meddwl ac anaf a gafwyd i'r ymennydd)

Rydym yn sicrhau bod pob oedolyn yn cael eu gwneud yn ymwybodol o’u hawl i eiriolaeth pan fyddwn yn cymryd atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaeth. Rydym hefyd yn hyrwyddo ein gwasanaethau eiriolaeth ar daflenni ac ar ein gwefan.

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a pham?

Byddwn ni'n parhau i adeiladu ar y tîm diogelu integredig a gweithredu gwelliannau i ddiogelu drwy ein gwaith gyda'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a'n grŵp gweithredol lleol amlasiantaeth.

ID: 9558, adolygwyd 16/03/2023