Canllawiau a Wybodaeth
SA 4: Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas
Beth oeddem ni’n bwriadu ei wneud y llynedd?
- Roeddem yn bwriadu cydgynhyrchu model cyfleoedd dydd arloesol, a fydd yn canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn ac yn rhoi canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau.
- Roeddem hefyd yn bwriadu gweithredu lleoliadau coleg preswyl yn Sir Benfro fel bod pobl yn gallu aros o fewn eu cymuned leol.
I ba raddau wnaethom ni lwyddo a pha wahaniaeth wnaethom ni?
Trawsnewid Darpariaeth Canolfannau Dydd
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus helaeth er mwyn cydgynhyrchu model cyfleoedd dydd newydd. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid allweddol fel Peopletoo, y Bwrdd Partneriaeth Anabledd Dysgu a Hyrwyddwyr Anabledd Dysgu i adnabod model darparu sy’n seiliedig ar Brif Ganolfan a Lloerennau.
Ym mis Mawrth 2020 bu'n rhaid i ni gau ein holl ganolfannau cyfleoedd bob dydd oherwydd yr ymateb brys i'r pandemig. Er mwyn parhau i gefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau bu'r timau'n gweithio'n greadigol ochr yn ochr â sefydliadau fel Pobl yn Gyntaf Sir Benfro i ddarparu gwasanaeth allgymorth. Mae cynnal cyswllt â phobl dros y ffôn, trwy gwisiau digidol, pecynnau crefft a darparu rhaglenni o weithgareddau wedi sicrhau bod pobl wedi parhau i ymgysylltu ac wedi darparu syniadau ar gyfer arlwyon y gwasanaeth yn y dyfodol.
Trwy ymgysylltu parhaus mae'r model yn cael ei wella er mwyn meithrin cysylltiadau gwell rhwng cymunedau, darparwyr a gomisiynwyd a gwasanaethau mewnol. Mae'r dyluniad gwell yn ystyried creu 'Biwro' ar gyfer Cyfleoedd Dydd fel 'siop un stop' ymatebol i ysgogi gweithgareddau newydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. Y nod yw creu gwasanaeth hyblyg gan ei gwneud yn haws i unigolion newid yr hyn maen nhw'n ei wneud a sut maen nhw'n ei wneud.
Bydd y model, sy'n cael ei ariannu drwy fecanwaith taliadau hyblyg newydd, yn rhoi mwy o ddewis i unigolion a mwy o reolaeth iddynt dros eu cymorth.
Rydym wedi recriwtio rheolwr prosiect pwrpasol i symud y gwaith hwn yn ei flaen yn ystod 2022/23.
Datblygiadau Coleg Preswyl
Fe wnaethom sicrhau Cyllid Gofal Canolradd i ddatblygu pedair fflat, sy'n darparu llety â chymorth mewn datblygiad newydd yn Johnston. Dechreuwyd gweithio ar y datblygiad ym mis Tachwedd 2019. Rydym hefyd wedi adnabod cyfleusterau llety yn unedau eiddo Tŷ Cyfle a Fernside i ddarparu llety ac rydym yn ymgorffori ein dull ailalluogi yn eu model gweithredu. Rydym wedi nodi'r gofyniad am rôl Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol i gefnogi'r cynllun. Mae'r coleg wedi datblygu cwricwlwm.
Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a pham?
Byddwn yn parhau i weithio ar wella ein cyfleoedd dydd. Fel rhan o'n harlwy cyfleoedd dydd rydym yn adolygu modelau darparu gwasanaethau. Bydd cysyniad biwro cyfleoedd dydd a fydd yn galluogi pobl i gael mynediad at ystod eang o weithgareddau’n cael ei archwilio. Ein nod yw ehangu'r arlwy gan leihau'r defnydd o wasanaethau dydd sydd wedi’u lleoli mewn adeiladau penodol a newid i wneud mwy o ddefnydd o gyfleusterau yn y gymuned.
Byddwn yn parhau i ddatblygu ein lleoliadau coleg preswyl yn Sir Benfro.