Canllawiau a Wybodaeth
SA 5: Cefnogi pobl i ddatblygu'n ddiogel a chynnal cydberthnasau domestig, teuluol a phersonol iach
Beth oeddem ni’n bwriadu ei wneud y llynedd?
Er mwyn cefnogi'r rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ei wneud yn Sir Benfro byddwn yn cynnal y gweithgareddau canlynol yn 2021/22
- Gweithio gyda phartneriaid ar ddatblygiad pellach model i ddatblygu gwasanaeth a chyfleusterau anghenion cymhleth ledled y rhanbarth.
- Canfod cyfleoedd i wella'r ddarpariaeth llety sydd gennym ar gael i Blant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal.
- Gwella’r modd yr eir ati i recriwtio gofalwyr maeth i sicrhau bod plant yn cael eu lleoli yn nes at adref, gyda gofalwyr lleol ac y ceir gostyngiad yn y defnydd o leoliadau allanol drutach a phellach i ffwrdd.
- Gweithredu rhaglen Cynadleddau Grŵp Teuluol (drwy gontract 2 flynedd gyda Tros Gynnal Plant Cymru)
I ba raddau wnaethom ni lwyddo a pha wahaniaeth wnaethom ni?
Cyfleuster Anghenion Cymhleth Rhanbarthol
Mae'r gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio'n benodol ar anghenion tai, gan gefnogi ymateb amlasiantaeth rhanbarthol i'r maes cymhleth hwn. Mae'r gwaith yn gryn her ac yn gymhleth, ac mae angen lefel uchel o gefnogaeth ac ymrwymiad gan bartneriaid amlasiantaeth ledled y rhanbarth.
Rwyf wedi darparu rhagor o wybodaeth am y pwnc yma yn adran 3 ar ddiogelu gan ein bod yn datblygu'r cyfleuster hwn gyda'n partneriaid diogelu rhanbarthol.
Uned Rhieni a Babanod
Mae tŷ a brynwyd yn flaenorol fel Uned Rhieni a Babanod wedi bod yn cael ei ddefnyddio'n ehangach yn y cyfamser fel adnodd cefnogol ac ataliol i blant a theuluoedd mewn argyfwng. Er mai'r bwriad yn wreiddiol oedd datblygu uned asesu breswyl i rieni a phlant, rydym wedi ailfeddwl am hyn ac mae cynlluniau yn awr i'w ddatblygu'n adnodd undydd ar gyfer cymorth asesu ac amser teuluol, gydag ataliadau'n greiddiol i'w weithrediadau. Mae hyn yn cyd-fynd fel elfen allweddol o strategaeth ehangach yr awdurdod ar gyfer lleihau nifer y plant sydd dan ei ofal, a bydd yn cael ei ddatblygu'n wasanaeth mwy strwythuredig yn y 12 mis nesaf, unwaith y bydd gwaith adeiladu ac atgyweirio gofynnol wedi cael ei wneud i’r eiddo.
Gwella Trefniadau Recriwtio Gofalwyr Maeth
Rydym wedi cynnal amrywiaeth o fentrau i ddenu pobl i ddod yn ofalwyr maeth a rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022 rydym wedi cwblhau 8 cymeradwyaeth newydd i ofalwyr maeth. Oherwydd hyn mae 12 lleoliad newydd wedi dod ar gael i blant yn Sir Benfro.
Yn ystod y flwyddyn, cafodd 40 o blant eu rhoi mewn lleoliadau gofal maeth mewnol gyda 0 plentyn yn cael ei roi mewn lleoliad annibynnol dros yr un cyfnod.
Cynadleddau Grŵp Teuluol
Mae'r grwpiau hyn mynd yn eu blaenau ond maen nhw'n fach o ran nifer. Mae'r data'n dangos na fyddwn yn parhau i ddarparu’r cynadleddau hyn y tu hwnt i fis Mawrth 2023, nac yn ceisio datblygu ein darpariaeth fewnol ein hunain i unrhyw raddau sylweddol. Fodd bynnag, bydd dadansoddiad llawn yn cael ei gwblhau ym mis Mawrth 2023.
Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a pham?
Byddwn yn parhau i weithio ar recriwtio gofalwyr maeth ac adolygu llwyddiant y fenter cynadleddau grŵp teuluol.