Canllawiau a Wybodaeth
SA 6: Gweithio gyda phobl au cefnogi i gyflawni mwy o lesiant economaidd, cael bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas syn diwallu eu hanghenion
Beth oeddem ni’n bwriadu ei wneud y llynedd?
Prosiect Grantiau Adeiladau Gofalwyr Maeth
Dywedon ni y byddem yn gweithredu prosiect i edrych ar ddatblygu polisi a fydd yn caniatáu i'r Awdurdod Lleol ddarparu grantiau i ofalwyr maeth ar gyfer estyniadau a gwelliannau i'r cartref i ddarparu gwell capasiti ar gyfer lleoliadau neu ganiatáu gofal i bobl ifanc benodol, gan osgoi'r angen am leoliadau allanol drutach, arbenigol.
I ba raddau wnaethom ni lwyddo a pha wahaniaeth wnaethom ni?
Gofalwyr Maeth
Cafodd prosiect adeiladu peilot llwyddiannus ei gwblhau a alluogodd berson ifanc i aros ar sail hirdymor gyda'i ofalwyr maeth, na fyddai wedi bod yn bosibl heb y gwaith adeiladu. Bydd y cynllun peilot hwn yn cael ei werthuso a chynnig yn cael ei ystyried ar gyfer mabwysiadu'r cynllun yn ehangach fel cynnig i ofalwyr maeth a fydd yn helpu i wella ein darpariaeth gofal maeth fewnol. Y gobaith yw y bydd modd cyflwyno'r cynllun llawn yn gynnar yn 2023.
Adeiladu Marchnad Amrywiol a Bywiog
Ein strategaeth fu datblygu marchnad amrywiol i roi opsiynau amrywiol i ddefnyddwyr ein gwasanaethau ar gyfer gofal. Rydym yn credu y bydd cefnogi datblygiad busnesau bach i roi gofal yn cynnig mwy o ddewis ac yn lleihau amseroedd aros i ddefnyddwyr gwasanaethau. Yn ddiweddar rydym wedi gwerthuso'r rhaglen hon o waith gan nodi ein bod wedi cefnogi 30 o ficro-fentrau ac 8 menter gymdeithasol. Rydym wedi datblygu cod ymarfer, wedi creu cyfeirlyfr o ficro-fentrau/ mentrau cymdeithasol a rhwydwaith cyfathrebu. Mae'r camau nesaf yn cynnwys adeiladu ar y llwyddiant yn Sir Benfro i dyfu yn ôl yr anghenion ledled Rhanbarth Gorllewin Cymru gyda chais cysylltiedig am gyllid rhanbarthol yn cael ei lunio. Datblygwyd cynnig i’r Gronfa Integredig Ranbarthol (RIF). Bydd y cynnig yn adeiladu ar y datblygiadau a'r gwersi hyd yma yn Sir Benfro.
O ran Cysylltu Bywydau rydym wedi datblygu cynllun prosiect a meysydd gwaith allweddol, sy'n tyfu'r cyfleoedd Cysylltu Bywydau yn Sir Benfro. Mae trefniadau llywodraethu'r prosiect yn eu lle ac mae ganddo nifer o ffrydiau gwaith sy'n cynnwys: ymgyrch yn y cyfryngau a marchnata, adolygu prosesau ymgeisio i gynorthwyo pobl i ddod yn ofalwyr Cysylltu Bywydau, gosod targedau/ perfformiad, gwella mesurau ansawdd ac arallgyfeirio'r arlwy. Fe wnaed cynnydd da hyd yma. Mae’r ffocws wedi bod ar farchnata, symleiddio prosesau a recriwtio gofalwyr Cysylltu Bywydau. Mae hyn yn dal i fod yn flaenoriaeth ar gyfer 2022/23
Mae adolygiad o'r ffioedd sy'n cael eu talu i ofalwyr Cysylltu Bywydau wedi dod i ben ac mae cynnig yn cael ei gyflwyno i'w ystyried. Os caiff ei gefnogi gellir disgwyl i hyn wella lefelau cadw a recriwtio.
Gofalwyr Di-dâl
Mae rhaglenni gwaith a blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer gofalwyr di-dâl wedi cael eu bwydo i mewn i’r grant RIF. Ein meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu yw:
- Adnabod a gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl
- Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy
- Cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu
- Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle
Mae'r gwaith o ddatblygu platfform rhithwir i ofalwyr wedi dechrau ac mae'r cynllun Cardiau Adnabod Gofalwyr wedi cael ei lansio ar gyfer gofalwyr ifainc. Bydd datblygu opsiynau egwylion byr/ seibiant mwy creadigol i ofalwyr yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer 2022/23.
Cyflogaeth â Chymorth
Mae ein Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth, gan gynnwys y Diwydiannau Norman a'n prosiectau cyflogadwyedd (Gweithffyrdd ac Experience 4 Industries) yn cynorthwyo pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor i gael mynediad at waith cyflogedig a chyfleoedd dydd seiliedig-ar-waith. Mae gan bobl sy'n cael eu cefnogi gan y rhaglen ystod eang o anableddau gan gynnwys anabledd dysgu, cyflyrau niwroamrywiol, namau corfforol a namau synhwyraidd.
O gyflogi 25 o bobl ag anabledd yn 2017 mae Cyngor Sir Penfro bellach yn cyflogi tua 70 o bobl ag anabledd yn ei raglen cyflogaeth â chymorth. Mae'r rhaglen yn darparu cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd dydd ym maes gweinyddu, arlwyo, manwerthu, gweithgynhyrchu, cynhyrchu pren, cyfryngau digidol a chrefft.
Mae'r prosiect cyflogaeth â chymorth yn cael ei ddatblygu o ganlyniad i'r Strategaeth Anableddau Dysgu lle dywedodd pobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth wrthym fod arnynt eisiau mwy o gyfleoedd i gael gwaith â thâl. Yn ystod 2021 rydym wedi ehangu cyfleoedd i bobl sydd ag anabledd gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth â chymorth a chyfleoedd dydd seiliedig-ar-waith
- Mai 2021 - Fe gymerom ni’r awenau i redeg caffi Edies ym Maenordy Scolton. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd ar gyfer datblygiad i bobl sydd wedi dysgu sgiliau arlwyo yn y caffi hyfforddi yn flaenorol gan eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd caffi prysur. Fe wnaethom hefyd gynnal ein Caffi Trwsio cyntaf. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr hŷn yn bennaf, cynhelir y caffi trwsio bob mis ym Maenordy Scolton ac ochr yn ochr â Chanolfan Gweithgareddau Cymdeithasol yr Angorfa ym Mhenfro.
- Tachwedd 2021 - Trwy gydol yr haf fe wnaethom adnewyddu Uned 5 yng nghanolfan siopa Glan-yr-afon gan ddefnyddio'r timau a gefnogir o’r Diwydiannau Norman lle’r oedd modd. Agorwyd @Rhif 5 ym mis Tachwedd, sef cartref Caffi Cyfle, y Llyfrgell Pethau a swyddfeydd ar gyfer y prosiectau cyflogadwyedd. Mae'r man cymunedol newydd yn lle i ystod eang o grwpiau gyfarfod gan gynnwys pobl ag awtistiaeth, pobl hŷn a grwpiau dementia. Mae'r fwydlen a'r lle ei hun wedi cael eu dylunio'n benodol i ddiwallu anghenion pawb.
Mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, nid dim ond gofal cymdeithasol ond ein hadrannau adfywio, addysg a hamdden, ein bwrdd iechyd lleol a phartneriaid allweddol yn y trydydd sector. Mae'r rhaglen yn elfen allweddol o'n cynllun gweithredu ar gyfer cydraddoldeb, gan sbarduno cynnydd mewn cyflogaeth i bobl anabl ar draws yr awdurdod lleol.
Mae Sir Benfro yn arwain y ffordd o ran y gwaith yma ledled Cymru. Dyma'r unig awdurdod lleol o hyd i fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac mae ganddo'r unig raglen cyflogaeth â chymorth sy’n weithredol. Mae'r rhaglen wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 3 gwobr eleni: yn genedlaethol fel rhan o Wobrau LGC a Menter Anabledd y Diwydiant Recriwtio (RIDI) a ledled Cymru fel rhan o’r Gwobrau. Roeddem yn falch iawn o ennill y Gwobrau sy'n cydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.
Yn y dyfodol y bwriad yw parhau i ehangu ein rhaglen cyflogaeth â chymorth fel bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gael gwaith â thâl os oes arnynt ei eisiau neu gael cyfle dydd seiliedig-ar-waith. Yn benodol, rydym yn ystyried sut y gellir cynorthwyo oedolion ifainc ag anghenion cymhleth i barhau â’u hyfforddiant ac ymuno â’r gweithle.
Strategaeth Anableddau Dysgu
Mae'r diagram Cylch Cymorth isod yn dangos prif ffocws gwaith ar gyfer y Strategaeth Anableddau Dysgu yn ystod 2020/21.
Mae eleni wedi bod yn gryn her o ran cwblhau'r camau gweithredu oherwydd pandemig Covid, ond rwyf wedi rhestru rhai o'n prif gyflawniadau isod:
- Cadeirydd y bwrdd partneriaeth yw Adam Billington ochr yn ochr â'r is-gadeirydd Kath Brookes. Mae'r grŵp cyfan wir wedi addasu i gyfarfodydd ar-lein a'r dychweliad at drefniadau gweithio hybrid. Mae'r Bwrdd Partneriaeth nawr yn ystyried yr holl gamau gweithredu sydd wedi cael eu cwblhau i lunio adroddiad strategaeth ac mae wedi dechrau meddwl beth y mae angen ei gynnwys yn y strategaeth newydd yn 2022.
- Mae’r Hyrwyddwyr Anableddau Dysgu wedi parhau i weithio gartref trwy gydol y flwyddyn.
- Dan arweiniad James Dash – Hyrwyddwr Anableddau Dysgu – Cyfathrebu, mae'r Tîm Delfrydol yn siarad o blaid pobl ag anabledd dysgu. Grŵp o bobl ag anabledd dysgu o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ydyw. Trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf mae’r Tîm Delfrydol wedi parhau i gyfarfod yn ddigidol ac wedi bod yn helpu pobl ag Anabledd Dysgu i oresgyn problemau y maent wedi eu hwynebu o ganlyniad i gyfyngiadau ar wasanaethau
- Mae Rachel Bailey - Hyrwyddwr Anableddau Dysgu – Cyflogaeth wedi parhau i ddatblygu adnoddau a darparu hyfforddiant i gynorthwyo cyflogwyr i gyflogi mwy o bobl ag anabledd gyda ffocws arbennig ar y model cymdeithasol o anabledd a Mynediad i Waith
- Mae Rhys Eynon - Hyrwyddwr Anableddau Dysgu – Cymuned wedi parhau i weithio gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro i ddatblygu adnoddau a chysylltiadau yn y trydydd sector.
- Mae Lucy Hinksman – Hyrwyddwr Anableddau Dysgu – Fersiynau Hawdd i’w Darllen wedi bod yn ein helpu i ddatblygu ystod o ddogfennau hawdd i’w darllen. Mae hyn wedi cynnwys fersiwn hawdd i’w darllen gan CSP o'i Strategaeth Cydraddoldeb a'r Cynllun Llesiant
- Mae James Tyler – Hyrwyddwr Anableddau Dysgu - Trafnidiaeth wediparhau i edrych ar sut mae'r pandemig wedi effeithio ar ddefnydd pobl o drafnidiaeth gyhoeddus. Fe greodd rai dogfennau addysgiadol iawn i helpu pobl i ddeall sut mae pethau'n wahanol erbyn hyn.
- Mae Sian Andrews a Dan Martin – Datblygu'r Wefan wedi parhau i ddatblygu'r adnoddau ar wefan Mynediad Sir Benfro.
Mae'r cynllun gweithredu ar gyfer y Siarter Anableddau Dysgu yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd ac wedi cwblhau nifer o'r argymhellion. Yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd dros y 18 mis diwethaf mae rhai argymhellion wedi dyddio a bydd angen eu diwygio. Mae disgwyl i'r Strategaeth Anableddau Dysgu gael ei diwygio'r flwyddyn nesaf.
Mae ein Pencampwyr Anableddau Dysgu wedi siarad gyda'n rheoleiddwyr yn AGC er mwyn gofyn iddynt gynhyrchu fersiwn hawdd i’w darllen o'u hadolygiad o berfformiad a gwblhawyd ym mis Ebrill 2022.
Safonau'r Gymraeg
Mae Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i bob maes o fewn gwaith unrhyw Gyngor ac yn golygu y gall trigolion ledled Cymru ddisgwyl yr un dull o gymhwyso'r Gymraeg mewn gwasanaethau ledled y wlad, i sicrhau bod yr iaith yn cael ei thrin yr un fath â'r Saesneg a bod pob Cyngor yn cynnig cyfle i bobl dderbyn eu gwasanaethau gennym, yn ogystal â chan y rhai sy'n cael eu hariannu gennym ni, yn Gymraeg.
Yn ystod y deuddeng mis diwethaf, mae gwasanaethau wedi bod yn gwreiddio prosesau newydd i ateb y gofynion. Bellach mae cyfeirlyfr o staff sy'n siarad Cymraeg sy’n cael ei ddiweddaru drwy'r system Adnoddau Dynol.
Mae'r holl ddeunydd a gyhoeddir ar gael i drigolion yn Gymraeg a Saesneg, e.e. Gwefan y Cyngor, papurau Pwyllgorau, Hysbysebion Swydd a’r Cyfryngau Cymdeithasol.
Rydym yn parhau i ddatblygu ein cynnig gweithredol o gyswllt trwy gyfrwng y Gymraeg, i hybu a chodi ymwybyddiaeth am yr iaith ymhlith staff a darparu cyfleoedd i gyflogeion ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Rydym yn sicrhau y gofynnir i bawb sy'n gwneud atgyfeiriad ar gyfer gwasanaethau oedolion beth yw eu dewis iaith. Weithiau rydym yn ei chael hi'n anodd adnabod gweithwyr cymdeithasol sy'n siarad Cymraeg ac fe nodwyd hyn yn yr arolygiad diweddar gan AGC.
Fe sefydlodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu cynllun 5 mlynedd newydd uchelgeisiol ar gyfer Mwy na geiriau i fynd i'r afael â'r materion allweddol a ddaeth i'r amlwg fel rhan o'r gwerthusiad annibynnol o'r fframwaith Mwy na geiriau. Fe wnaeth y grŵp gorchwyl a gorffen ystyried profiad cleifion, tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, gweision sifil, rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol, rhanddeiliaid o faes iechyd a gofal cymdeithasol a’r tu hwnt, yn ogystal â'r sectorau addysg a hyfforddiant. O ganlyniad mae disgwyl i gynllun newydd Mwy na Geiriau 2022-27 gael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron ym mis Awst 2022.
Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a pham?
- Byddwn ni'n adolygu'r cynllun gweithredu Mwy na Geiriau sydd newydd gael ei lansio ac yn ceisio gweithredu ystod o welliannau i wella'r ddarpariaeth Gymraeg ar draws y gwasanaethau.
- Byddwn yn parhau i weithredu a datblygu ein Strategaeth Anableddau Dysgu a'n Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth.
- Byddwn ni'n gwerthuso ein menter grantiau adeiladau gofalwyr maeth yn llawn.
- Byddwn ni'n parhau i weithio tuag at ddatblygu marchnad fywiog ac amrywiol i ateb y galw cynyddol a darparu dewis i'n defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd.