Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion

Cwynion Corfforaethol: Sut ydw i’n cwyno?

Os oes gennych gŵyn am wasanaeth (ac eithrio Cwynion ynymwneud ag Ysgolion neu Anfodlonrwydd mewnperthynas â Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) yr ydych wedi’i gael neu’n credu y dylech ei gael, gallwch fynegi eich pryder neu gŵyn mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Anfon neges e-bost i: corporatecomplaints@pembrokeshire.gov.uk

Cwblhau ffurflen ar-lein: Ffurflen Pryder / Cwyn

Gofynnwch am gopi o'n ffurflen gan swyddog yr ydych eisoes mewn cysylltiad ag ef: Dywedwch wrth y swyddog yr hoffech i ni ddelio â'ch pryder yn ffurfiol

Yn ysgrifenedig i: Cwynion Corfforaethol, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP

Dros y ffôn i'n Canolfan Gyswllt: 01437 764551

Cam 1: Datrysiad Anffurfiol

  1. Trafodwch eich pryderon â’r aelod o staff sy’n ymdrin â’ch mater neu â’i oruchwylydd uniongyrchol a nodwch ble’r oeddech chi’n teimlo nad oedd y gwasanaeth a ddarparwyd wedi cyrraedd y safon a pha ganlyniad y byddech yn ei ddymuno. Gallwch wneud hyn yn bersonol, dros y ffôn, yn ysgrifenedig, drwy e-bost neu ar-lein.
  2. Os nad ydych yn siŵr â phwy i gysylltu, ffoniwch staff ein Canolfan Gyswllt ar (01437) 764551 a fydd yn hapus i'ch helpu
  3. Bydd eich pryderon yn cael eu hystyried o fewn 10 diwrnod gwaith

Gellir datrys y rhan fwyaf o broblemau yn gyflym yn y modd anffurfiol hwn.

Cam 2: Datrysiad Ffurfiol

Os ydych chi’n anfodlon â chanlyniad y cam anffurfiol, cysylltwch â’r tîm cwynion gan ddefnyddio’r manylion a restrir uchod. Rhowch fanylion iddynt eu hystyried yn nodi pam nad yw’r ymateb wedi datrys eich cwyn a pha gamau y byddai gofyn iddynt eu cymryd i’w ddatrys.

  1. Bydd y tîm cwynion yn cydnabod eich cwyn o fewn 5 niwrnod gwaith.
  2. Bydd y tîm cwynion yn penodi ymchwilydd i ymchwilio i’ch cwyn. Unwaith y bydd ymchwilydd wedi’i benodi a chwmpas y gŵyn wedi’i gytuno, byddwch fel arfer yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 20 niwrnod gwaith.
  3. Os na allwn ateb o fewn 20 niwrnod gwaith, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud pam ac yn rhoi gwybod ichi pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.

Gobeithiwn y bydd ein trefn gwyno yn helpu i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gennych gyda’r ffordd y darperir ein gwasanaethau.

Beth y gallaf ei wneud os byddaf am gwyno ymhellach?

Yn ein profiad ni, gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn fewnol drwy ein gweithdrefn gwyno. Fodd bynnag, mae gennych hawl i gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) ar unrhyw adeg yn y broses.

Mae'r Ombwdsmon yn sefydliad annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i gwynion o gamweinyddu (arfer gwael) yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus. Fel arfer byddant eisiau gwybod a ydyw eich cwyn wedi cael ei hystyried o dan bolisi cwynion y cyngor yn gyntaf, cyn dechrau ymchwiliad, felly rhowch gynnig ar ein trefn gwyno yn gyntaf.

Manylion cyswllt yr Ombwdsmon yw:

Ombwdsmon Cymru gwefan (yn agor mewn tab newydd) 

E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru

Cyfeiriad: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

Rhif ffôn: 0300 790 0203

Sylwch, os ydych am fynd at yr Ombwdsmon gyda chwyn, dylech wneud hynny’n brydlon. Bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu fesul achos a ddylid ystyried cwyn, ond yn gyffredinol gall yr Ombwdsmon ystyried cwynion a wneir iddi o fewn blwyddyn i’r materion y cwynir amdanynt (neu o fewn blwyddyn i’r achwynydd ddod yn ymwybodol ohonynt).

ID: 511, adolygwyd 09/08/2024